Twthill, Caernarfon

Oddi ar Wicipedia
Twthill, Caernarfon
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaernarfon Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.142921°N 4.270402°W Edit this on Wikidata
Map

Cymuned o fewn tref Caernarfon, Gwynedd yw Twthill (a sillafir weithiau fel Twtil)

Ystyrir Twthill yn gymuned yn ei hawl ei hun o fewn tref Caernarfon. Yn y cyswllt hwnnw, fe’i cymherir â chymunedau megis Maesgeirchen ym Mangor.

Cofnodir yr ardal fel le Tothille ar fap o 1399. Mae’r enw Twthill ei hun yn tarddu o air Eingl Sacsonaidd am wylfa, neu lookout hill. Mae iddo’r un tarddiad ag ardal Tooting yn Llundain, Toothill Fort yn Hampshire, Stryd Tuttle yn Wrecsam, a phentref Tutshill yn Swydd Gaerloyw.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae Twthill yn ardal o bwysigrwydd hanesyddol arwyddocaol. Yma y digwyddodd Brwydr Tuthill yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1401, ac yma hefyd y digwyddodd un o frwydrau Rhyfeloedd y Rhosynnau.

Mae sôn bod yr heddlu wedi gorfod monitro’r ardal yn 1904 oherwydd bod rhai yn chwarae gemau ar y Sabath.

Yn y 1970au codwyd y Ffordd Ryddhau Fewnol (yr Inner Relief Road yn lleol), ac fe wahanwyd Twthill oddi wrth weddill y dref. Mae’r mater yn parhau’n un cynhennus hyd y dydd.

Ar dir y Ffordd Ryddhau Fewnol arferai Pafiliwn Caernarfon fod. Yma y cynhaliwyd 7 Eisteddfod Genedlaethol, yma yr anerchodd David Lloyd George a Winston Churchill dyrfâu, ac yma y cipiodd Cynan goron yr Eisteddfod Genedlaethol. Yma hefyd y canodd Paul Robeson ym mis Medi, 1934.

Ben Twthill[golygu | golygu cod]

Bryn ym mhen uchaf Twthill yw Ben Twthill. Ceir mynediad ato ar stryd Dwyrain Twthill. O Ben Twthill, ceir golygfeydd o’r dref o lannau’r Fenai at stad Ysgubor Goch a Maesincla. Ceir golygfeydd hefyd o fynyddoedd yr Eifl, a rhai o fynyddoedd Eryri.

Ar Ben Twthill mae croes i gofio am y gwŷr lleol a fu farw yn Rhyfel y Boer.

Arferai ymwelwyr i’r ardal fwynhau’r olygfa drwy ysbienddrych, ac yn 1905 cwynodd un o’r trigolion lleol mewn llythyr i’r North Wales Express bod yr ymwelwyr gwyliadwrus wedi difetha sawl un o’i deithiau ar y Fenai gyda merch!

Adeiladau[golygu | golygu cod]

Safai Ysgol Gynradd Twthill ar dir y Ffordd Ryddhau Fewnol. Lleolir Eglwys Gatholig Dewi Sant a Santes Helen ar ffordd Dwyrain Twthill. Mae Cylch Meithrin Twtil yn cynnig gofal plant, ac mae Ysgol Gynradd Gatholig Santes Helen wedi ei lleoli yn Nhwthill

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Mae Twthill yn rhan o ward etholiadol Menai (Caernarfon) Fe’i cynrychioli’r ar lefel Cyngor Sir gan y Cyng. Ioan Thomas (Plaid Cymru), sydd hefyd yn Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Gyllid.

Fe’i cynrychiolir ar Gyngor Tref Caernarfon gan y Cyng. William Lloyd Davies (Plaid Cymru), y Cyng. Ann Hopcyn (Plaid Cymru), y Cyng. Eleri Lovgreen (Plaid Cymru), a’r Cyng. Ioan Thomas (Plaid Cymru).

Mae ward Menai yn rhan o etholaeth Arfon. Cynrychiolir yr ardal yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian AS, ac fe’i cynrychiolir yn San Steffan gan Hywel Williams AS.

Roedd canlyniadau nifer siaradwyr Cymraeg y ward fel a ganlyn yng nghyfrifiad 2011:

Menai (Caernarfon):
Grŵp Oedran %
Pawb 3 oed a throsodd  83.9
3 i 15 oed  96.6%
16 i 64 oed  83.6%
65 oed a throsodd  79.7%

Enwogion[golygu | golygu cod]

Ymhlith yr enwogion sydd wedi byw yn Twthill mae

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae’r nofel Caersaint gan Angharad Price wedi ei lleoli yn Nhwthill. Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt Jaman Jones sy'n dychwelyd i'w dref enedigol ar ôl etifeddu tŷ. Credir bod cymuned ffuglenol Brynhill wedi ei selio ar ardal Twthill, ac mae cyfeiriadaeth at Ben Twthill a’r eglwys.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Ffynhonellau[golygu | golygu cod]