Angharad Price
Oddi ar Wicipedia
| Angharad Price | |
|---|---|
| Ganwyd | Bangor, Gwynedd, |
| Yn enwog am | O! Tyn y Gorchudd |
| Galwedigaeth | Nofelydd, darlithydd |
| Perthnasau | Emyr Price |
Nofelydd Cymraeg yw Angharad Price, enillydd Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Ganed Angharad Price ym Mangor, yn ferch i'r hanesydd Emyr Price (1944–2009). Yn enedigol o Fethel, Gwynedd, fe'i ganwyd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor 'yn fop o wallt du' chwedl ei thad (gweler Fy hanner canrif i gan Emyr Preis, Gwasg y Lolfa).
Mae hi'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor.[1]
Cyhoeddwyd ei nofel ffug-hunangofiannol O! Tyn y Gorchudd ganddi yn 2002, y gyfrol hon a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003 gyda'r un llyfr.
Cyrhaeddodd ei llyfr, Caersaint restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2011.
Llyfryddiaeth [golygu]
- Cyfres Cynnyrch Gwobr Goffa Saunders Lewis: Smentio Sentiment - Beirdd Concrid Grŵp Fiena 1954-1964, Awst 1996 (Cronfa Goffa Saunders Lewis)
- Llên y Llenor: Robin Llywelyn, Rhagfyr 2000 (Gwasg Pantycelyn)
- O! Tyn y Gorchudd, Ebrill 2002 (Gwasg Gomer)
- Meddwl a'r Dychymyg Cymreig, Y: Rhwng Gwyn a Du - Agweddau ar Ryddiaith Gymraeg y 1990, Gorffennaf 2002 (Gwasg Prifysgol Cymru)
- Llên y Llenor: Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal, Gorffennaf 2005 (Gwasg Pantycelyn)
- Caersaint, Chwefror 2010 (Y Lolfa)
Crynoddisgiau [golygu]
- O! Tyn y Gorchudd, Tachwedd 2003 (Tympan)
Cyfieithiadau [golygu]
- 'Trosiadau/Translations: The Life of Rebecca Jones/O! Tyn y Gorchudd, cyfieithwyd gan Lloyd Jones, Mawrth 2010 (Gwasg Gomer)
Gwobrau ac anrhydeddau [golygu]
- Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 - O! Tyn y Gorchudd