Paul Robeson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paul Robeson

Actor ffilm a llwyfan a chanwr o'r Unol Daleithiau oedd Paul Leroy Robeson (9 Ebrill 1898, Princeton, New Jersey - 23 Ionawr 1976) a fu'n gysylltiedig gyda glöwyr De Cymru am dros 40 mlynedd. Daeth ar eu traws yn gyntaf yn Llundain lle roedd nifer ohonynt yn ddiwaith ac yn canu am eu bara menyn. Yn 1958 canodd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958, gydag Aneurin Bevan yn ei gyflwyno. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn Philadelphia.

Prifysgol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mynychodd Brifysgol Rutgers ac yna Ysgol y Gyfraith, Columbia lle derbyniodd radd LL.B.; chwaraeodd bêl-droed Americanaidd ar lefel uchel yn y ddau goleg.

Actio a chanu[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd ar ei yrfa fel actor llwyfan yn 1921 yn Efrog Newydd lle bu'n byw am saith mlynedd gyda'i wraig Essie. Yn ystod y cyfnod hwn, serenodd yn y ffilm The Proud Valley, a dorrodd dir newydd o ran dangos y dyn croenddu fel ag yr oedd, yn hytrach nag fel caricature. Daeth yn enwog fel canwr caneuon gospel hefyd.

Hawliau dynol[golygu | golygu cod y dudalen]

Paul Robeson ar y llwyfan yn ystod y gymanfa ganu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958.

Cefnogodd y gweithiwr a mynegodd ei farn ynglŷn â Rhyfel Cartref Sbaen.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cefnogodd ei wlad, a chanodd a pherfformiodd i'r milwyr ac fel Othello yn Broadway. Er hyn, ar ddiwedd y rhyfel rhoddwyd ef ar restr o bobl pro-Sofiet gan yr FBI. Brwydrai dros hawliau'r duon a chymerwyd ei basbort oddi wrtho gan Lywodraeth UDA oherwydd ei ddaliadau Comiwnyddol ac o'r herwydd lleihaodd ei incwm yn fawr.

Gweithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilmiau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Emperor Jones (1933)
  • Showboat (1936)
  • Song of Freedom (1936)
  • King Solomon's Mines (1937)
  • The Proud Valley (1940)

Llyfrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Here I Stand (1958). Hunangofiant.

Gwobrau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gwobr Heddwch Stalin (1952)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]