Edward Prosser Rhys
Newyddiadurwr, bardd a chyhoeddwr Cymreig oedd Edward Prosser Rhys, yn ysgrifennu fel E. Prosser Rhys (4 Mawrth 1901 - 6 Chwefror 1945).
Ganed ef ym Methel, Mynydd Bach, Ceredigion. Addysgwyd ef yn Ysgol Ardwyn, Aberystwyth, ond bu raid iddo adael yn gynnar oherwydd afiechyd. Bu'n gweithio ar y Welsh Gazette yn Aberystwyth, yna ar yr Herald Cymraeg yng Nhaernarfon. Daeth yn olygydd Y Faner yn 1923, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth.
Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pŵl 1924. Bu llawer o ddadlau ynghylch ei bryddest fuddugol, Atgof, oherwydd ei bod yn trin rhyw, yn cynnwys rhyw hoyw, mewn dull plaenach nag yr oedd rhai yn barod i'w dderbyn. Yn 1928, sefydlodd Gwasg Aberystwyth, ac ef hefyd a sefydlodd y Clwb Llyfrau Cymraeg.
Llyfryddiaeth [golygu]
- E. Prosser Rhys a J. T. Jones Gwaed Ifanc (Hughes a'i Fab, 1923)
- E. Prosser Rhys Cerddi Prosser Rhys (Gwasg Gee, 1950)