Johnstown, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn ward Rhosllannerchrugog ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw Johnstown. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif ar ochr ddwyreiniol Rhosllannerchrugog. Mae'r boblogaeth tua 4,000. Ceir pedair tafarn yma.

Tyfodd y pentref o gwmpas y diwydiant glo, ac mae Glofa'r Hafod i'r dwyrain o'r pentref. Trowyd hen domen sbwriel y lofa yn Barc Gwledig Bonc yr Hafod.

Ceir rhan o Glawdd Offa gerllaw'r pentref.


CymruWrecsam.png Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato