Castell Dineirth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Castell sy'n gorwedd ar lan afon Arth ger Aberarth, Ceredigion, yw Castell Dineirth (a adnabyddir hefyd fel Castell Dinerth a Castell Allt Craig Arth). Castell mwnt a beili ydyw, y ceir ei adfeilion ar fryn isel ar lan afon Arth tua 1½ i fyny'r dyffryn o dref glan môr fechan Aberarth.

Hanes[golygu]

Credir iddo gael ei godi gan yr arglwydd Normanaidd Richard de la Mare, un o ddeiliaid Richard Fitz Gilbert de Clare, yn y flwyddyn 1110 ar safle yng nghwmwd Anhuniog, cantref Uwch Aeron, a ddefnyddwyd eisoes fel amddiffynfa, yn ôl y dystiolaeth archaeolegol.

Cafodd y castell ei losgi i lawr gan Gruffudd ap Rhys ond ymddengys iddo gael ei ailadeiladu wedyn gan iddo gael ei losgi eto gan y brenin Owain Gwynedd ar gyrch yng Ngheredigion yn 1136 pan losgwyd cestyll Caerwedros ac Aberystwyth yn ogystal. Ymddengys iddo newid dwylo sawl gwaith yn ystod y hanner can mlynedd nesaf: bu ym meddiant Hywel ab Owain Gwynedd yn 1143 ac yn 1144 roedd yn nwylo Cadwaladr ap Gruffudd ap Cynan. Yn 1150 fe'i llosgwyd pan gipiwyd de Ceredigion gan Cadell, Maredudd a Rhys, meibion Gruffudd ap Rhys. Ildiwyd y castell ganddynt i Roger de Clare in 1158. Pan gododd Yr Arglwydd Rhys mewn gwrthryfel yn erbyn Harri II o Loegr yn 1164 fe'i dinistriwyd eto. Ceir y cofnod nesaf ato yn Brut y Tywysogion am y flwyddyn 1199 pan oedd ym meddiant Maelgwn ap Rhys ar ôl iddo ei gipio oddi wrth ei frawd Gruffudd ap Rhys. Difethwyd y castell gan Maelgwn yn 1202 yn wyneb bygythiad Llywelyn Fawr, brenin Gwynedd, i ymosod ar ei arglwyddiaeth am iddo fod yn gynghrair i Gwenwynwyn o Bowys. Pan gipiodd Llywelyn y tir rhwng afon Arth ac afon Aeron, adferodd Dineirth i feibion Gruffudd ap Rhys ond ymddengys i'r safle gael ei esgeuluso yn fuan ar ôl hynny.

Am fod yr enw yn cynnwys yr elfen arth a'r ffaith fod archaeolegwyr wedi darganfod olion amddiffynfa o'r Oesoedd Tywyll yno, mae rhai awduron llyfrau poblogaidd ar y Brenin Arthur yn hawlio Dineirth/Dinerth fel safle ei lys. Ond mae din ('caer') ac arth yn elfennau cyffredin mewn enwau lleoedd ac mae'n amlwg fod yr enw yn deillio o safle'r castell ar lan afon Arth. Cyfeiria Gildas at receptaculi ursi ('ffau'r arth') mewn cysylltiad â Cynlas (Cuneglas), un o frenhinoedd cynnar Teyrnas Rhos, ond mae Rhos yn y gogledd (cynigir Bryn Euryn, ger Llandrillo-yn-Rhos, fel lleoliad posibl i'r gaer honno).

Llyfryddiaeth[golygu]

Dolenni allanol[golygu]