Ymosodiadau ym Mharis, Tachwedd 2015
Math | ymosodiad terfysgol cydgysylltiedig |
---|---|
Cylchfa amser | CET |
Nifer a laddwyd | 137 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | terrorism in France, terfysgaeth Islamaidd yn Ewrop |
Lleoliad | Bataclan, Stade de France, rue Bichat, rue de la Fontaine-au-Roi, La Belle Équipe, boulevard Voltaire, Le Petit Cambodge |
Sir | Paris, Saint-Denis |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.86303°N 2.37064°E |
Cyfnod | 13 Tachwedd 2015 |
13 Tachwedd:
- 21:20 – Hunanfomiad cyntaf ger Stade de France.
- 21:25 – Saethu yn lang
- 21:30 – Saethu ger Stade de France.
- 21:32 – Saethu yn Rue de la Fontaine-au-Roi.
- 21:36 – Saethu yn Rue de Charonne.
- 21:40 – Hunanfomio yn Boulevard Voltaire.
- 21:40 – Tri dyn yn mynd i fewn i Theatr Bataclan ac yn saethu ar unwaith.
- 21:53 – Trydydd hunanfomio ger y Stade de France.
- 22:00 – Gwystlon yn cael eu cymryd yn Theatr Bataclan.[1]
14 Tachwedd:
- 00:20 – Heddlu a Swyddogion Diogelwch Ffrainc yn mynd i fewn i Theatr Bataclan.
- 00:58 – Diwedd cyrch y Bataclan.[1]
Error in Template:Align: the alignment setting "dde" is invalid.
Roedd Ymosodiadau Paris, Tachwedd 2015 yn gyfuniad o saethu, dal gwystlon a hunanfomio a ddigwyddodd tua'r un amser ar y 13eg Tachwedd 2015 ym Mharis, Ffrainc. Digwyddodd rhan o'r ymosodiad ym maestref Saint-Denis, a leolir yng ngogledd y brifddinas ac fe'i trefnwyd gan gefnogwyr ISIS. Lladdwyd o leiaf 130 o sifiliaid, ac anafwyd 368 (80–99 yn ddifrifol).
Dechreuodd yr ymososiad am 21:20 Amser Canolbarth Ewrop (CET) pan gafwyd tri hunanffrwydrad y tu allan i'r Stade de France yn Saint-Denis, ac o fewn dim, cafwyd hunanfomiad arall a saethwyd yn gelain nifer o bobl mewn pedwar lleoliad drwy Baris.[2] Lladdwyd 89 yn Theatr y Bataclan,[3] pan gymerodd y terfysgwyr wystlon cyn ymgymryd a sesiwn saethu teirawr gyda'r heddlu.[4][5][6] Lladdwyd 7 o'r terfysgwyr a pharhaodd y chwilio am wythnosau am gynorthwywr a therfysgwyr eraill.[7] Rhain oedd yr ymosodiadau mwyaf difrifol yn Ffrainc ers yr Ail Ryfel Byd,[8][9] gyda mwy o feirwon wedi'u lladd ar yr un diwrnod - o fewn unrhyw wlad drwy Ewrop - ers bomio tren Madrid yn 2004.[10]
Cyhoeddodd Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (ISIS neu ISIL) mai nhw oedd yn gyfrifol am gydgordio'r ymosodiadau,[11][12] a mynegodd Arlywydd Ffrainc, François Hollande fod y weithred hon yn "weithred o ryfel gan ISIL",[13] a gynlluniwyd ganddynt yn Syria, a drefnwyd yng Ngwlad Belg, ac a gafodd ei weithredu ar ein tir."[14][15] Credir i'r ymosodiad hwn ar Ffrainc ddigwydd i ddial am awyrennau Ffrainc a fu'n bomio ISIL yn Iraq a Syria ers Hydref 2015.[16]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Hollande : "Un acte de guerre commis par une armée terroriste"". Le Figaro. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.
- ↑ de la Hamaide, Sybille (14 Tachwedd 2015). "Timeline of Paris attacks according to public prosecutor". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-04-28. Cyrchwyd 15 November 2015.
- ↑ "Paris attacks: What we know so far". France 24. 15 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2015.
- ↑ M. Marcus (19 Tachwedd 2015). "Injuries from Paris attacks will take long to heal". CBS. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2015.
- ↑ "Paris attacks: Everything we know on Wednesday evening". The Telegraph. 18 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-19. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ "Search goes on for missing". BBC News. 16 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2015.
- ↑ Claire Phipps (15 Tachwedd 2015). "Paris attacker named as Ismaïl Omar Mostefai as investigation continues – live updates". The Guardian. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2015.
- ↑ "Parisians throw open doors in wake of attacks, but Muslims fear repercussions". The Guardian. 14 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ Syeed, Nafeesa (15 Tachwedd 2015). "Yes, Parisians are traumatised, but the spirit of resistance still lingers". The Irish Independent. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ "Europe's open-border policy may become latest victim of terrorism". The Irish Times. 19 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
- ↑ "ISIS claims responsibility of Paris attacks". CNN. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.
- ↑ "L'organisation État islamique revendique les attentats de Paris" (yn Ffrangeg). France 24. 14 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 14 Tachwedd2015. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Paris attacks: Hollande blames Islamic State for 'act of war'". BBC News. 14 Tachwedd 2014. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.
- ↑ Nodyn: Cyfieithiad o "planned in Syria, organised in Belgium, perpetrated on our soil with French complicity."
- ↑ Alicia Parlapiano, Wilson Andrews, Haeyoun Park and Larry Buchanan (17 Tachwedd 2015). "Finding the Links Among the Paris Attackers". The New York Times. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2015.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ "Middle east – 'Terrorists have no passports,' French PM says of Syria air strikes". France 24. Cyrchwyd 14 Tachwedd 2015.