Ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010

Oddi ar Wicipedia
Ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010
Protestiadau ar 31 Mai, 2010 yn Belffast, Gogledd Iwerddon yn dilyn ymosodiad milwyr Israel ar lynges ddyngarol Gaza
Myfyrwyr ym Mhrifysgol Dwyrain Anglia yn protestio yn erbyn ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza. 31 Mai, 2010.
Protestio yn erbyn ymosodiad Israel; Stockholm, 1 Mehefin, 2010.

Mae llawer o wledydd wedi beirniadu Israel am ymosod ar gwch dyngarol yn cludo cymorth i Gaza ar 31 Mai 2010 gan ladd o leiaf 10 o sifiliaid. Er enghraifft, ar 05 Mehefin, penderfynodd gweithwyr porthladdoedd Sweden atal pob cwch o Israel rhag mynd a dod, sy'n golygu na fydd nwyddau o Israel yn cael eu prynu yn y wlad.[1] Dywedodd Prif weinidog Twrci, Recep Tayyip Erdogan, The insolent, irresponsible and impudent attack by Israel, which went against law and trampled human honour underfoot, must definitely be punished.[2]

Mae'r erthygl hon yn cofnodi'r ymateb rhyngwladol i ymosodiad Israel ar longau dyngarol Gaza 2010.

Cyrff rhyngwladol[golygu | golygu cod]

  • Galwodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig Ban Ki-moon am "ymchwiliad llawn i ddadlenu'n union sut y digwyddodd y gyflafan yma."
  • Dywedodd Navanethem Pillay, sef Uwch-gomisiynydd dros Iawnderau Dynol y Cenhedloedd Unedig, "Mae'n rhaid i mi ddatgan fy sioc o'r adroddiadau fod cymorth dyngarol wedi gorfod wynebu trais y bore 'ma."[3]
  • Dywedodd Robert H. Serry, Cydgysylltydd Dros Heddwch y Dwyrain Canol ar ran y Cenhedloedd Unedig, "Mae trasiedïau fel hyn yn siŵr o barhau os nad ydy Israel yn gwrando ar y gymuned ryngwladol..."[4]
  • Camodd yr Unol Daleithiau i fewn i'r trafodaethau gan atal y Cenhedloedd Unedig rhag fynnu bod unrhyw ymchwiliad i'r mater yn annibynnol ("impartial") a'u hatal rhag "condemnio'r gweithredoedd a arweiniodd i'r lladd."
  • Cynhaliodd NATO gyfarfod argyfwng i drafod eu hymateb i'r ymosodiad ar 1 Mehefin, 2010.[5]

Gwrthwynebiadau drwy Ewrop[golygu | golygu cod]

Aelodau o'r Undeb Ewropeaidd[golygu | golygu cod]

  • Baner Yr Undeb Ewropeaidd Galwodd Llywydd Senedd Ewrop, sef Jerzy Buzek, yr ymosodiad yn ymosodiad na ellir mo'i gyfiawnhau ac yn "clear and unacceptable breach of international law, especially the fourth Geneva Convention".
  • Baner Yr Undeb Ewropeaidd Fe ddylai Israel, yn ôl Uwch Gynrychiolydd yr Undeb Ewropeaidd dros faterion tramor a pholisiau diogelwch (High Representative of the Union for Foreign Affairs and Security Policy), sef Catherine Ashton, ymchwilio'n drylwyr i sut y lladdwyd y sifiliaid ar y llynges ddyngarol.
  • Baner Gwlad Belg Dywedodd Ysgrifennydd Tramor Gwlad Belg, Steven Vanackere, fod Israel wedi "gorymateb".[6]
  • Baner Denmarc Mae Ysgrifennydd Tramor Denmarc Lene Espersen wedi galw llysgennad Israel i'w swyddfa ac wedi gofyn iddo roi esboniad dros yr hyn a ddigwyddodd.[7]
  • Baner Y Ffindir Roedd Alexander Stubb, Ysgrifennydd Tramor Ffindir mewn cryn "sioc" ar ôl y digwyddiad a galwodd yntau am eglurhad llawn gan Israel o'r hyn a wnaethent.[8]
  • Baner Ffrainc Dywedodd Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, fod Israel wedi defnyddio gormod o rym yn erbyn y llynges ddyngarol.[9]
  • Baner Ffrainc Ysgrifennydd Tramor ac Ewropeaidd Ffrainc ydy Bernard Kouchner, a dywedodd ei fod wedi cael "sioc dybryd" ac "na ellir cyfiawnhau trais fel hyn, ac mae Ffrainc yn ei gondemnio."[10]
  • Baner Yr Almaen Yn yr Almaen, dywedodd Canghellor y wlad, Angela Merkel, fod ymateb Israel wedi bod yn llawer rhy lawdrwm.[11]
  • Baner Yr Almaen Dywedodd Ysgrifennydd Tramor yr Almaen (Guido Westerwelle) hefyd ei fod yn "poeni'n arw" am y sefyllfa ac o'r marwolaethau pan ymosododd comandos Israel ar y llynges ddyngarol o chwech cwch a oedd ar ei ffordd i Gaza.[12]
  • Baner Groeg Mae ymarfer milwrol ar y cyd rhwng Groeg ac Israel ("Minoas 2010") wedi ei stopio gan Groeg yn ôl Ysgrifennydd Tramor y wlad, sef Dimitris Droutsa. Roedd dwy long wedi eu cofrestru yng Ngroeg sef yr Eleftheri Mesogeios a'r "Sfendoni".
  • Baner Gweriniaeth Iwerddon Iwerddon. Dywedodd y Taoiseach Brian Cowen fod y "the blockade action (gan Israel) was a violation of international law." Dywedodd hefyd fod ymosodiad Israel wedi bod yn llawer rhy drwm.[13]
  • Baner Yr Eidal Yr Eidal. Condemniodd Ysgrifennydd Tramor yr Eidal, Franco Frattini, y llofruddiaethau gan Israel gan ddweud fod yr hyn maen nhw wedi'i wneud yn weithred enbyd iawn. "I deplore in the strongest terms the killing of civilians. This is certainly a grave act". Galwodd hefyd am ymchwiliad llawn.[14]
  • Baner Lwcsembwrg Condemniodd Dirprwy Brif Weinidog Lwcsembwrg "yr Israeliaid hynny sy'n gyfrifol am ymosod ar y llynges ddyngarol hon". Galwodd hefyd am ymchwiliad rhyngwladol i'r mater yn hytrach nac ymchwiliad gan Israel.[15]
  • Baner Y Deyrnas Unedig Disgrifiwyd ymosodiad Israel gan David Cameron fel gweithred "annerbyniol", a galwodd ar Israel "i ymateb yn adeiladol i'r feirniadaeth rhyngwladol".[16]
  • Baner Y Deyrnas Unedig Meddai Nick Clegg: "Whilst, of course, Israel has every right to defend itself and its citizens from any attack, it must now move towards lifting the blockade in Gaza as soon as possible."[17]
  • Baner Y Deyrnas Unedig Galwodd William Hague, yr Ysgrifennydd Tramor, ar i Israel agor ei ffiniau i gymorth dyngarol.[18]
  • Baner Yr Alban Dywedodd Fiona Hyslop Ysgrifennydd Materion Allanol Senedd yr Alban, "The use of violence against a humanitarian convoy carrying medicine and other aid is being spoken out against right across the world. The blockade of Gaza is causing untold suffering to ordinary Palestinians and must be brought to an end."

Gwledydd nad ydynt yn Aelodau o'r Undeb Ewropeaidd[golygu | golygu cod]

  • Baner Gwlad yr Iâ Condemniodd Ysgrifennydd Tramor Gwlad yr Iâ, sef Össur Skarphéðinsson gweithredoedd Israel gan ddweud fod deddfau rhyngwladol yn cael eu torri gan Israel ac nad ydy Gaza, mewn gwirionedd, yn ddim byd ond carchar enfawr i'r Palesteiniaid.[19]
  • Baner Norwy Dywedodd Prif Weinidog Norwy, Jens Stoltenberg, fod "ymosodiad milwrol ar sifiliaid yn gwbwl annerbyniol."[20]
  • Baner Rwsia Mynegodd llefarydd ar ran Ysgrifennydd Tramor Rwsia ei "bryder a'r gondemniad o weithred Israel" a dywedodd fod "defnyddio arfau ar sifiliaid yn ogystal â chymeryd drosodd cychod, fel hyn, a hynny mewn dyfroedd rhyngwladol, yn mynd yn groes i arferiad derbyniol a rhyngwladol."[21]

Gwledydd Pro-Israel[golygu | golygu cod]

  • Baner Israel Roedd Prif Weinidog Israel, sef Benjamin Netanyahu, yng Nghanada pan saethodd ei filwyr sifiliaid y llynges ddyngarol. Dywedodd ei fod yn "cefnogi'n llwyr" gweithred ei filwyr a gohiriodd ei ymweliad i'r Unol Daleithiau - ble roedd i gyfarfod Arlywydd y Wlad, Barack Obama.[22]
  • Baner Israel Dywedodd Llysgennad Israel yng ngwledydd Prydain sef Ron Prosor, said "It’s obvious — and I won’t beat around the bush on this — that this wasn’t successful and I think it clearly took up an issue that should have been solved differently."[23]
gwledydd sydd wedi beirniadu Israel am ei ymosodiad milwrol ar lynges ddyngarol Gaza 2010.

Y cyfryngau[golygu | golygu cod]

  • Galwodd y Financial Times gweithred milwyr Israel yn "brazen act of piracy" ac aeth yn ei flaen i ddweud, "Israel claims the activists had links with extremist groups and that some attacked Israeli soldiers with knives and sticks (and in some accounts the odd light firearm). Even if true, this would not justify the illegal capture of civilian ships carrying humanitarian aid in international waters, let alone the use of deadly force." [24]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://www.freegaza.org/
  2. Times Online. Adalwyd ar 06/06/2010
  3. "UN rights chief shocked at Gaza aid flotilla violence". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2010-05-31.
  4. La ONU condena el asalto israelí a la flota humanitaria en Gaza, El Mercurio.
  5. Press TV
  6. World shocked after Israeli attack, (in Dutch), De Tijd, 31 May 2010
  7. "Papur Newydd Denmarc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-08. Cyrchwyd 2010-05-31.
  8. Stubb Shocked at Gaza Aid Flottila Raid, YLE.fi, 31-05-2010
  9. Israeli commandos storm aid flotilla; 10 killed, gan Amy Teibel a Tia Goldenberg, The Associated Press, 31 Mai 2010.
  10. "Newyddion Ffrainc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-03. Cyrchwyd 2010-05-31.
  11. [1]
  12. "Ymateb Ysgrifennydd Tramor yr Almaen". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-31. Cyrchwyd 2010-05-31.
  13. Newyddion 'RTÉ News' - Deaths as Israel boards Gaza-bound ships (31 Mai 2010)
  14. Papur Newydd Ha'aretz Daily Newspaper
  15. ""Je condamne fermement les responsables du raid contre la flottille" (Ffrangeg), Le Quotidien, 31 Mai 2010". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2010-05-31.
  16. "British PM tells Netanyahu Israeli raid was 'unacceptable'", YnetNews.
  17. "Herald of Scotland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-04. Cyrchwyd 2010-06-02.
  18. "Israeli raid on Gaza flotilla"; BBC News; 31 Mai 2010
  19. "Össur fordæmir framferði Ísraela"
  20. ""Outrage over Israeli attack," Al Jazeera
  21. "Russia condemns Israel over Gaza flotilla attack", RIA Novosti, 31-05-2010
  22. Teitl: "More Than 10 Dead After Israel Intercepts Gaza Aid Convoy; 31 May 2010; Wall Street Journal
  23. Papur The Hindu
  24. "Israel is lost at sea" (Financial Times, 31 Mai, 2010)