Nicolas Sarkozy

Oddi ar Wicipedia
Nicolas Sarkozy
Nicolas Sarkozy


Cyfnod yn y swydd
16 Mai 2007 – 15 Mai 2012
Prif Weinidog François Fillon
Rhagflaenydd Jacques Chirac
Olynydd François Hollande

Geni 28 Ionawr 1955
Paris
Plaid wleidyddol UMP

Gwleidydd Ffrengig a fu'n Arlywydd Ffrainc o 2007 hyd 2012 yw Nicolas Paul Stéphane Sarköczy de Nagy-Bocsa, fel rheol Nicolas Sarkozy (ganed 28 Ionawr 1955).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef ym Mharis yn fab i fewnfudwr o Hwngari, Pál Sárközy Nagybócsai, a mam Iddewes Ffrengig, Andrée Mallah. Roedd yn aelod o'r Senedd Ewropeaidd o 1999 hyd 2004. Daeth yn weinidog yn y llywodraeth yn 2002. Ef oedd ymgeisydd yr UMP yn etholiad arlywyddol 2007, a gorchfygodd Ségolène Royal yn yr etholiad ar 6 Mai 2007, gyda 53.06% o'r bleidlais. Ar 16 Mai 2007, daeth yn 23ain Arlywydd Ffrainc, yn olynu Jacques Chirac.

Priododd Marie-Dominique Culioli yn 1982, gan gael dau fab, Pierre (1985) a Jean (1987). Ysagarwyd hwy yn ddiweddarach, a phriododd Cécilia Ciganer-Albéniz, gan gael un mab arall, Louis (1997). Ym mis Hydref 2007 cyhoeddwyd eu bod wedi ysgaru. Ar 1 Chwefror 2008 cyhoeddwyd ei fod priodi Carla Bruni.

Hunangofiant[golygu | golygu cod]

  • La France pour la vie

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]


Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.