W.T. Cosgrave
W.T. Cosgrave | |
---|---|
Ganwyd | William Thomas Cosgrave 6 Mehefin 1880 Dulyn |
Bu farw | 16 Tachwedd 1965 Dulyn |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon, Gwladwriaeth Rydd Iwerddon, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | arweinydd Fine Gael, Gweinidog amddiffyn, Gweinidog ariannol Iwerddon, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog Materion Tramor a Masnach, Gweinidog Cyfiawnder a Chyfartaledd Iwerddon, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Gweinidog Tai, Cynllunio a Llywodraeth Leol, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Teachta Dála, Llywydd Dáil Éireann |
Plaid Wleidyddol | Cumann na nGaedheal, Sinn Féin, Fine Gael |
Priod | Louisa Flanagan |
Plant | Liam Cosgrave |
Roedd William Thomas Cosgrave (Gwyddeleg: Liam Tomás Mac Cosgair, 6 Mehefin 1880 - 16 Tachwedd 1965), a elwir yn W.T. Cosgrave fel rheol, yn wleidydd Gwyddelig a olynydd Michael Collins fel pennaeth Llywodraeth Dros-dro Iwerddon rhwng Awst a Ragfyr 1922. Bu hefyd yn Llywydd Cyngor Gweithredol (Executive Council), sef llywodraeth Gwladwriaeth Rydd Iwerddon rhwng 1922 a 1932. er nad oedd y term Taoiseach yn cael ei harddel ar y pryd am swydd y Prif Weinidog (daeth hynny gyda Chyfansoddiad Iwerddon) ystyrir Cosgrave fel taoiseach gyntaf Iwerddon.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed yn ninas Dulyn yn fab i groser a daeth wleidyddol ymwybodol wedi mynychu cynhadledd gyntaf Sinn Fein yn 1905. Etholwyd ef yn aelod o Gorfforaeth (llywodraeth leol) Dulyn yn enw Sinn Fein rhwng 1909 tan 1922 ac ymunodd â mudiad para-filwrol yr Irish Volunteers yn 1913. Ond ni ymunodd byth â'r irish Republican Brotherhood gan nad oedd yn cytuno â chymdeithasau cyfrinachol.
Ymladdodd yng nghwmni Eamonn Ceannt yn ystod Gwrthryfel y Pasg yn 1916. Er iddo gael ei ddedfrydu i farwolaeth, cafodd ei gymudo i garchar bywyd ac fe'i garcharwyd yng ngwersyll Fron-goch ger Y Bala. Yn 1917 etholwyd ef yn ddirprwy i blaid Sinn Féin a daeth yn gydweithiwr agos i Michael Collins.
Llywodraethu
[golygu | golygu cod]Roedd y system dreth a sefydlwyd ganddo yn dilyn cyfnod Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon (a'r Rhyfel Mawr) a Rhyfel Cartref Iwerddon yn amhoblogaidd iawn. Ond ystyriai eu bod yn angenrheidiol ar gyfer adferiad economaidd. Bu hefyd yn amhoblogaidd ymysg Gweriniaethwyr pybyr oherwydd ei gefnogaeth i Gytundeb Eingl-Wyddelig 1921 - yr hyn a arweiniodd at y Rhyfel Cartref. Serch hynny, llwyddodd i gadw grym gyda'i blaid Cumann na nGaedheal nes bod o blaid newydd Éamon de Valera, Fianna Fail ennill Etholiad Cyffredinol 1932. Yn sgil hyn aeth Cosgrave yn ei flaen, gyda chefnogaeth Eoin O'Duffy i sefydlu plaid Fine Gael yn 1933.
Rhyfel Cartref
[golygu | golygu cod]Her fwyaf Cosgrave oedd delio gyda'r gwrthwynebiad chwyrn ac arfog i Gytundeb Eingl-Wyddelig. Cofir am Cosgrave am ei bolisi o ddienyddio, heb achos llys, garcharorion Gweriniaethol yn ystod y Rhyfel Cartref. Dienyddiwyd 77 o weriniaethwyr gan luoedd y Wladwriaeth Rydd rhwng Tachwedd 1922 a diwedd y rhyfel ym Mai 1923, gan gynnwys Erskine Childers, Liam Mellowes a Rory O'Connor, llawer mwy na'r 14 o 'Volunteers' yr IRA â ddienyddiwyd gan y Prydeinwyr.
Dywedodd Cosgrave, "I am not going to hesitate if the country is to live, and if we have to exterminate ten thousand Republicans, the three million of our people is greater than this ten thousand".[1] Yn Ebrill 1923 sefydlodd aelodau pro-Cytundeb Sinn Féin blaid wleidyddol newydd, Cumann na nGaedheal gyda Cosgrave yn arweinydd.
Yn dilyn y fuddugoliaeth yn y rhyfel cartref, bu'n rhaid tynnu niferoedd y fyddin lawr o 55,000 - ffigwr uchel a drud iawn. Achosodd hyn anghytuno mawr ar y pryd wrth i bobl bryderi am golli swyddi.
Ffin y Wladwriaeth
[golygu | golygu cod]Roedd Cytundeb Eingl-Wyddelig wedi gadael union linell y ffin rhwng y Wladwriaeth Rydd a'r hyn oedd yn weddill o Ogledd Iwerddon heb ei gadarnhau'n llawn. Yn 1924 cytunodd Iwerddon a Phrydain i 'Gomisiwn y Ffin' i benderfynu'n derfynol ar y ffin. Roedd y Wladwriaeth Rydd wedi disgwyl ennill llawer o dir yn yr ardaloedd ffiniol lle roedd canran uchel o Gatholigion a gweriniaethwyr megis siroedd Derry, Fermanagh, Tyrone, ac Armagh. Roedd llywodraeth Prydain wedi nodi byddai dyhead y bobl yma'n cael eu hystyried. Daeth yn amlwg nad oedd symud i fod, a hyd yn oed sôn y gallai'r Wladwriaeth Rydd golli sir Donegal. Aeth Cosgrave i Lundain i ei hun i drafod yn uniongyrchol gyda Phrif Weinidog Prydain a Phrif Weinidog Gogledd Iwerddon. Cytunwyd i gadw'r chwe sir yn rhan o Brydain ond na fyddai raid i'r Iwerddon dalu eu cyfran o ddyled Ymerodraeth Prydain. Mewn dadl yn y Dáil ar 7 Rhagfyr 1924 nododd Cosgrave, "I had only one figure in my mind and that was a huge nought. That was the figure I strove to get, and I got it."[2]
Polisi Tramor
[golygu | golygu cod]Er i Cosgrave a'i lywodraeth dderbyn Statws Dominiwn i'r Wladwriaeth Rydd doedden nhw ddim yn trystio Llywodraeth Prydain i barchu ei hannibyniaeth. Arweiniodd Lywodraeth Cosgrave ar ymdrech radical a phwrpasol i gadarnhau annibyniaeth y wlad a sicrhau statws ryngwladol iddi. Yn 1923 derbyniwyd Iwerddon yn aelod o Gynghrair y Cenhedloedd a'r Wladwriaeth Rydd oedd yr aelod gyntaf o Gymanwlad Prydain i gael cynrychiolaeth ar wahân neu di-Brydeinig yn Washington D.C. Sefydlwyd hefyd system diplomyddol gyda gwladwriaethau Ewropeaidd eraill.
Polisi Economaidd
[golygu | golygu cod]Dilynodd Cosgrave bolisi economaidd geidwadol. Cadwyd trethi mor isel â phosibl a chadwyd y gyllideb yn gyfartal er mwyn osgoi benthyg. Clymwyd y bunt Wyddelig i'r bunt Brydeinig gan olygu ei fod yn bunt ddrud. Hyrwyddwyd masnach rydd er bod tariffau ar rai nwyddau.
Canolbwyntiwyd ar amaethyddiaeth gan esgeuluso diwydiant i ryw raddau. Sefydlwyd yr Irish Sugar Company a'r Agricultural Credit Corporation a sefydlwyd yr Electricity Supply Board, sef grid drydan genedlaethol gyntaf Ewrop. Ond bwriwyd y wlad yn galed gan ddirwasgiad yr 1930au.
Llywodraeth Leol
[golygu | golygu cod]Rhwng Ebrill 1919 ac Awst 1922 bu Cosgrave yn Weinidog Tai, Cynllunio a Llywodraeth Leol oedd yn gyfrifol am gyflwyno system ethol cynrychiolaeth gyfrannol i'r Iwerddon. Cyflwynwyd hwy ar gyfer etholiadau lleol 1920 a gyda hynny rhoi gwell cynrychiolaeth i wahanol safbwyntiau'r bobl. Enillodd Sinn Féin reolaeth o 28 o'r 33 llywodraeth leol. Bu i'r cynghorau yma wedyn pledio eu teyrngarwch i Adran Llywodraeth Leol Sinn Féin o dan Cosgrave gan dorri'r cyswllt gyda Phrydain.
Colli
[golygu | golygu cod]Collodd Cosgrave etholiad 1932 i Fianna Fail a ni bu byth iddo ddal swydd arall mewn Llywodraeth. Telir teyrnged iddo am basio'r awenau i de Valera mewn modd heddychlon a democrataidd. Mewn cyfnod o dwf unbennaeth safodd Iwerddon yn wladwriaeth ddemocrataidd er gwaethaf hanes chwerw iawn cwta ddegawd ynghynt.
Llinach
[golygu | golygu cod]Daeth ei fab Liam Cosgrave yn Taoiseach (Prif Weinidog) Gweriniaeth Iwerddon rhwng 1973-1977). Roedd Liam hefyd, yn aelod o'r blaid a sefydlwyd gan ei dad, Fine Gael. Ei ŵyr oedd Liam T. Cosgrave a ddaeth yn Cathaoirleach (cadeirydd) Seanad Éireann (ail siambr y Weriniaeth) rhwng 1996 a 1997
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Cyfarfod y Dail 1af, 10 Ebrill 1919, Mansion House, Dulyn. Cosgrave yw'r olaf ond un o'r dde yn y rhes flaen
-
Yr Imperial Conference, Llundain, 19 Hydref-22 Tachwedd 1926 lle crewyd y 'Balfour Declaration' ar statws dominiwn o fewn yr Ymerodraeth
-
Cosgrave (yn dal yr ymbarél) yn ymweld â ffatri newydd i drin betys siwgr yn Strawhall, Sir Carlow, 1926
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Review o bywgraffiad 2014 ("Judging W T Cosgrave") gan Socialist Democracy
- Review o "Judging W T Cosgrave" gan Dublin Review of Books
- Erthygl, 'W. T. Cosgrave, The Quintessentially Pragmatic Republican'
- Recodriad Darlith W.T. Cosgrave
- Sgwrs gyda Cosgrave ar sefyllfa ryngwladol Iwerddon, British Pathé, 1930
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Anthony Jordan. WT Cosgrave 1880-1965: Founder of Modern Ireland, Westport Books, 2006, p. 89.
- ↑ Dáil Éireann - Volume 13 - 7 December 1925 - Treaty (Confirmation of Amending Agreement) Bill, 1925 Archifwyd 7 Mehefin 2011 yn y Peiriant Wayback, historical-debates.oireachtas.ie; accessed 18 January 2016.
|