Jack Lynch

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Jack Lynch
Jack Lynch 1967 (cropped).jpg
Taoiseach
Yn ei swydd
5 July 1977 – 11 December 1979
Arlywydd Patrick Hillery
Tánaiste George Colley
Rhagflaenwyd gan Liam Cosgrave
Dilynwyd gan Charles Haughey
Yn ei swydd
10 November 1966 – 14 March 1973
Arlywydd Éamon de Valera
Tánaiste
Rhagflaenwyd gan Seán Lemass
Dilynwyd gan Liam Cosgrave
Leader of the Opposition
Yn ei swydd
14 March 1973 – 5 July 1977
Arlywydd Éamon de Valera
Erskine H. Childers
Cearbhall Ó Dálaigh
Patrick Hillery
Taoiseach Liam Cosgrave
Rhagflaenwyd gan Liam Cosgrave
Dilynwyd gan Garret FitzGerald
Leader of Fianna Fáil
Yn ei swydd
10 November 1966 – 7 December 1979
Dirprwy Joseph Brennan
George Colley
Rhagflaenwyd gan Seán Lemass
Dilynwyd gan Charles Haughey
Minister for Finance
Yn ei swydd
21 April 1965 – 10 November 1966
Taoiseach Seán Lemass
Rhagflaenwyd gan James Ryan
Dilynwyd gan Charles Haughey
Minister for Industry and Commerce
Yn ei swydd
23 June 1959 – 21 April 1965
Taoiseach Seán Lemass
Rhagflaenwyd gan Patrick Hillery
Dilynwyd gan Charles Haughey
Minister for Education
Yn ei swydd
20 March 1957 – 23 June 1959
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan Richard Mulcahy
Dilynwyd gan Patrick Hillery
Minister for Gaeltacht Affairs
Yn ei swydd
20 March 1957 – 26 June 1957
Taoiseach Seán Lemass
Rhagflaenwyd gan Patrick Lindsay
Dilynwyd gan Mícheál Ó Móráin
Parliamentary Secretary to the Minister for Lands
Yn ei swydd
13 June 1951 – 2 June 1954
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan Eamonn Kissane
Dilynwyd gan Brian Lenihan Snr
Parliamentary Secretary to the Taoiseach
Yn ei swydd
26 July 1951 – 2 June 1954
Taoiseach Éamon de Valera
Rhagflaenwyd gan New office
Dilynwyd gan John O'Donovan
Teachta Dála
Yn ei swydd
June 1977 – June 1981
Etholaeth Cork City
Yn ei swydd
June 1969 – June 1977
Etholaeth Cork City North-West
Yn ei swydd
February 1948 – June 1969
Etholaeth Cork Borough
Manylion personol
Ganwyd John Mary Lynch
(1917-08-15)15 Awst 1917
Shandon, Cork, Ireland
Bu farw 20 Hydref 1999(1999-10-20) (82 oed)
Royal Hospital, Donnybrook, Dublin, Ireland
Man gorffwys St. Finbarr's Cemetery, Cork, Ireland
Cenedligrwydd Irish
Plaid wleidyddol Fianna Fáil
Priod Máirín O'Connor (m. 1946)
Rhieni
  • Daniel Lynch
  • Maura Lynch
Addysg
Alma mater University College Cork

Roedd John Mary Lynch (15 Awst 191720 Hydref 1999), a elwir yn Jack Lynch, yn wleidydd Gwyddelig Fianna Fáil a wasanaethai fel Taoiseach o 1966 i 1973 a 1977 i 1979, Arweinydd Fianna Fáil o 1966 i 1979, Arweinydd yr Wrthblaid o 1973 i 1977, y Gweinidog dros Gyllid rhwng 1965 a 1966, y Gweinidog dros Ddiwydiant a Masnach o 1959 i 1965, y Gweinidog dros Addysg 1957 i 1959, y Gweinidog dros Faterion y Gaeltacht o fis Mawrth 1957 hyd at fis Mehefin 1957, Ysgrifennydd Seneddol y Gweinidog dros Diroedd a Senedd Ysgrifennydd y Taoiseach o 1951 i 1954. Bu'n wasanaethu fel Teacht Dala (TD) o 1948 i 1981.[1]

Ef oedd trydydd arweinydd Fianna Fáil o 1966 hyd 1979, gan ddilyn Seán Lemass hynod ddylanwadol. Lynch oedd arweinydd olaf Fianna Fáil i sicrhau (yn 1977) fwyafrif cyffredinol yn y Dáil. Mae'r hanesydd a'r newyddiadurwr T. Ryle Dwyer wedi ei alw ef fel "y gwleidydd mwyaf poblogaidd Gwyddelig ers Daniel O'Connell."[2]

Cyn ei yrfa wleidyddol roedd Lynch yn chwaraewr hurling a phêl-droed Gwyddelig nodedig ac enwog.

Bywyd Cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Lynch yn ninas Corc yn un o bump o feibion gyda dwy chwaer yn ei olynnu. Bu farw ei fam pan oedd ond 13 oed a cafodd ei fagu gan ei fodryb. Roedd Lynch yn agos i'w fam a chafodd hyn ddylanwad fawr arno.

Cafodd Lynch swydd yn gweithio i Bwrdd Llaeth ardal Dulyn cyn dychwelyd i Corc i weithio gyda'r Swyddfa Llys Cylchol. Cyfarfu â'i wraig, Máirín O'Connor, tra roedd ar wyliau yn Glengariff, Gorllewin Corc. Roedd hi'n ferch i farnwr yn Nulyn.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholwyd Lynch i Dáil Éireann ar ran Fianna Fáil yn Etholiad Cyffredinnol 1948 ar gyfer Bwrdeisdref Corc. Er i FF golli grym am y tro cyntaf mewn 16 mlynedd, cafodd Lynch brofiad fel ymchwilydd ac awdur areithiau i Éamon de Valera.

Yn 39 oed, daeth Lynch yn aelod ifancaf llywodraeth newydd Fianna Fail, fel Gweinidog Addysg a dal portffolio'r Gaeltacht hefyd am gyfnod. Cyflwynodd Lynch sawl deddfwriaeth blaengarol gan gynnwys, codi oed gadael ysgol, lleihau meintiau dosbarthiadau, gwaredu ar y ban ar menywod priod yn gweithio fel athrawon, a chaniatau i Iddewon wisgo'r kippa o 12 oed neu hŷn.

Taoiseach, 1966-73[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddiswyddodd Seán Lemass fel Taoiseach yn 1966 gan arwain at ymgypris am ei swydd. Yn y pendraw etholwyd Lynch fel 'ymgeisydd cyfaddawd' fel arweinydd y blaid ac felly Toaiseach ar 10 Tachwedd 1966.

Gwnaeth Lynch ymdrech i gymodi a magu perthynas gyda llywodraeth Gogledd Iwerddon. Teithiodd i ymweld â Phrif Weindigod Gogledd Iwerddon, Terrence O'Neill yn Stormont yn Rhagfyr 1967 ac yna yn Nulyn yn Chwefror 1968. [3] Dywedodd O'Neill amdanno, "I do not believe one could have a better Taoiseach than Mr. Lynch. It is not for nothing that he is known in the South as "Honest Jack". I do not know many other politicians who have that little prefix put in front of their names."[4]

Ysgytwyd ei lywodraeth a'r wlad ym mis Awst 1969, gan gwrthdaro gwaedlyd ar strydoedd Derry, Gogledd Iwerddon rhwng yr heddlu Protestannaidd a'r gymuned Catholig cenedlaetholgar Wyddelig. Gwnaeth Lynch gyhoeddiad i'r genedl oedd i gael effaith o greu ansicrwydd a chodi tymheredd y sefyllfa:

It is clear now that the present situation cannot be allowed to continue. It is evident also that the Stormont government is no longer in control of the situation. Indeed, the present situation is the inevitable outcome of the policies pursued for decades by successive Stormont governments. It is clear also that the Irish Government can no longer stand by and see innocent people injured and perhaps worse. It is obvious that the RUC is no longer accepted as an impartial police force. Neither would the employment of British troops be acceptable nor would they be likely to restore peaceful conditions, certainly not in the long term. The Irish Government have, therefore, requested the British Government to apply immediately to the United Nations for the urgent dispatch of a Peace-Keeping Force to the Six Counties of Northern Ireland and have instructed the Permanent Representative to the United Nations to inform the Secretary General of this request. We have also asked the British Government to see to it that police attacks on the people of Derry should cease immediately.

Very many people have been injured and some of them seriously. We know that many of these do not wish to be treated in Six County hospitals. We have, therefore, directed the Irish Army authorities to have field hospitals established in County Donegal adjacent to Derry and at other points along the Border where they may be necessary.

Recognising, however, that the re-unification of the national territory can provide the only permanent solution for the problem, it is our intention to request the British Government to enter into early negotiations with the Irish Government to review the present constitutional position of the Six Counties of Northern Ireland.[5]

Fodd bynnag, disgwyl mewn ofer wnaeth y gymuned Catholig am iachawdwriaeth gan fyddin fechan Iwerddon. Yn 1970 cafwyd argyfwng wrth i Weinidog Cyllid Charles Haughey a'r Gweinidog Amaethyddiaeth Neil Blaney gael eu cyhuddedo o ddanfon arian ymlaen i'r IRA ac wedi gwneud yn bosibl prynu arfau. Ar 6 Mai 1970, diswyddwyd Haughey a Blaney gan Lynch.

Refferendwm Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1972, pasiwyd refferendwm i'r Iwerddon ymuno â'r Gymuned Ewropeaidd ar 1 Ionawr 1973 ar yr un pryd â Phrydain a Denmarc. Dyma wireddu breuddwyd a strategaeth ers cyfnod Seán Lynch.

Newid cymdeithasol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelodd tymor cyntaf Lynch fel Taoiseach felly amryw ddiwygiadau mewn meysydd megis lles ac addysg. Ym 1967, cyflwynwyd cynllun taliadau diswyddo, ac ym 1970, gwnaed amryw o welliannau er enghraiff, budddal mamolaeth sylfaenol [9]. Yn 1967, cyflwynwyd addysg uwchradd am ddim, ynghyd â chludiant am ddim i'r ysgol "ar gyfer y rhai sy'n byw dros dair milltir o'r ysgol agosaf." Ym 1972, cyflwynwyd hawl i deithio am ddim i bob person o oedran pensiwn, tra bod pobl oedd yn gymwys i gael gofal ysbyty am ddim sydd â'r hawl i ragnodi ad-daliad cyffuriau dros swm penodol y mis.[6]

Fodd bynnag, trechwyd Fianna Fáil trechwyd yn yr etholiadau seneddol gan Fine Gael yn 1973 a disodlwyd Lynch ar 14 Mawrth yn 1973 gan Liam Cosgrave a ddaeth yn toaiseach newydd y wlad.

Tymor 1977-1979[golygu | golygu cod y dudalen]

Plac cofeb ar y Jack Lynch Tunnel, Corc

Bedair blynedd yn ddiweddarach, enillodd y Fianna Fail buddugoliaeth cofnod o dan ei gadeirydd Lynch, felly roedd yn 1977 llwyddodd Cosgrave fel prif weinidog ar 5 Gorffennaf. Yn ail hanner 1979 roedd hefyd yn Llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd.

Fodd bynnag, yn cynyddu gwariant gwastraffus gan y gyllideb yn 1978 wedi arwain at ffrwydrau mewn dyled a chwyddiant. Arweiniodd yr ymgais i wrthbwyso'r diffyg hwn trwy drethi uwch i brotestiadau ar unwaith yn erbyn pleidleiswyr. Ar 11 Rhagfyr 1979 ymddiswyddodd Lynch fel cadeirydd y blaid a Phrif Weinidog a daeth y Gweinidog dros Iechyd a Lles Cymdeithasol, Charles Haughey, yn Taoiseach newydd y wlad.

Diwedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Galwyd Lynch yn "the most popular Irish politician since Daniel O'Connell" gan ei wrthwynebydd gwleidyddol, Liam Cosgrave. Gwrthododd gynigion i sefyll am Arlywyddiaeth y wlad. Torodd ei iechyd yn 1992. Yn 1999 enwyd twnel o dan yr afon Lee yn ei ddinas enedigol, Corc, yn the Jack Lynch Tunnel. Bu farw yn Nulyn ym mis Hydref 1999 a cafodd angladd wladwriaethol.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Mr. Jack Lynch". Oireachtas Members Database. Cyrchwyd 1 June 2009.
  2. Dwyer, T. Ryle (2005). Haughey's Forty Years of Controversy. Cork: Mercier. p. 240. ISBN 978-1-85635-426-4.
  3. http://cain.ulst.ac.uk/othelem/chron/ch68.htm
  4. https://api.parliament.uk/historic-hansard/lords/1972/dec/05/future-of-northern-ireland#S5LV0337P0_19721205_HOL_83
  5. ft01061990 (31 October 2009). "Jack Lynch On The Situation In North - 13 August 1969". YouTube. Cyrchwyd 2 November 2017.
  6. Growth to Limits: The Western European Welfare States..., Cyf 2, Gol Peter Flora