Cumann na nGaedheal

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cumann na nGaedheal
Cumann na nGaedheal
Leader W.T. Cosgrave
Sefydlwyd 27 Ebrilll 1923
Daeth i ben Medi 1933
Holltwyd oddi wrth Sinn Féin
Unwyd i greu Fine Gael
Rhestr o idiolegau Democratiaeth Gristnogol
Ceidwadaeth
Cenedlaetholdeb Gwyddelig
Sbectrwm gwleidyddol Canol-dde
'Cumann na nGaedhael Committee Rooms', O'Connell Street, Waterford adeg etholiad 1932. Noder bod yr adeilad drws nesa wedi ei losgi - arwydd o wleidyddiaeth ymfflamychol y cyfnod

Roedd Cumann na nGaedhael (IPA:ˈkʊmˠənˠ nˠə ˈŋeːl̪ˠ) yn Gymraeg, "Cymdeithas yr Gwyddel", yn blaid wleidyddol yng Ngwladwriaeth Rydd Iwerddon.

Cumann na nGaedheal 1af[golygu | golygu cod y dudalen]

Arddelwyd yr un enw (ac ni ddylid cymysgu hi) â mudiad a sefydlwyd yn 1900 gan Arthur Griffith a William Rooney. Roedd y grŵp yma'n gasgliad o'r holl glybiau Weriniaethol, ac yn 1905 ymunodd grwpiau â grwpiau eraill i sefydlu Sinn Féin.

Cumann na nGaedheal - y Blaid[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd plaid Cumann na nGaedheal ar 27 Ebrill 1923 gan aelodau TD Sinn Féin oedd o blaid y Cytundeb Eingl-Wyddelig a arwyddwyd gan Lywodraeth Dros-dro Iwerddon wedi'r Rhyfel Annibyniaeth. Y prif sylfaenydd oedd W.T. Cosgrave sef un o ffigurau amlycaf y mudiad gweriniaethol wedi llofruddiaeth Michael Collins yn 1922 gan luoedd yn erbyn y Cytundeb a marwolaeth naturiol Arthur Griffith (sylfaenydd y mudiad gwreiddiol) yn yr un flwyddyn. Yn etholiad 1923 i'r senedd genedlaethol newydd, Dáil Éireann, enillodd y blaid newydd 63 o seddi. Dyma'r blaid fu'n llywodraeth Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn ystod ei degawd ffurfiannol.

Llywodraeth Cumann na nGaedheal[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Cumann na nGaedheal yn derbyn rhaniad Iwerddon ac dechreuant ar roi seilwaith i sefydlu'r Wladwriath Rydd.[1] Sefydlwyd yr heddlu newydd. Gellir nodi rhai o gerrig milltir degawd y blaid mewn grym:[2]

  • Sefydlu heddlu annibynnol Iwerddon, Garda Síochána gan Kevin O’Higgins
  • Sefydlwyd deddfwrfa o ddau dŷ, Dáil Éireann a Seanad Éireann
  • Dod â'r Rhyfel Cartref i ben - er, dylid nodi i 77 o Weriniaethwyr gael eu dienyddio gan y Llywodraeth
  • Arwyddo Stadud Westminster yn 1931 a roddodd yr hawl i'r Wladwriaeth Rydd newid unrhyw gyfraith gan San Steffan
  • Sefydlu llysgenhadaeth a statws swyddogol ryngwladol i'r Iwerddon
  • Crewyd yr Agricultural Credit Corporation i gynorthwyo amaethu
  • Creu'r Elecricity Supply Board (grid drydan genedlaethol gyntaf Ewrop)
  • Agorwyd gorsaf hydro-drydan yn Ardnacrusha ar yr afon Shannon yn 1927

Dilynodd y Blaid polisi cyllidol geidwadol a chodwyd oedran codi pensiwn. Achosodd hyn i'r blaid golli pleidleisiau yn etholiad Mehefin 1927 gan ennill ond 47 sedd (27% o'r bleidlais) a llwyddasant i aros mewn grym dim ond oherwydd bod Fianna Fail (y blaid gwrth-Gytyndeb dan arweinyddiaeth Eamon de Valera, a oedd wedi ennill 44) sedd yn dilyn polisi o beidio cymryd eu seddi yn y senedd pro-Cytundeb. Ond yn dilyn llofruddiaeth y Gweinidog Catref Kevin O’Higgins gan wrthwynebwyr, galwodd Cosgrave etholiad brys ym mis MEdi 1929 a'r tro yma adferpdd CnG ei lle gan ennill 67 sedd a 39% o'r bleidlais.

Roedd y blaid y cefnogi masnach rydd a cyllideb heb fenthyca ac yn erbyn diffyndollaeth. Gydag effeithiau'r Dirwasgiad Mawr collodd y blaid etholiadau Dáil Éireann yn Chwefror 1932 i blaid Fianna Fail (enillodd CnaG 57 sedd a Fianna Fáil 72). Roedd Fianna Fail yn arddel polisiau mwy poblogeiddiol o blaid diffyndollaeth ac ysgogi swyddi. Yn 1933 yn sgil y golled, cynhaliwyd trafodaethau gyda National Centre Party a'r National Guard (y 'Blueshirts') i ffurfio plaid newydd Fine Gael ym mis Medi 1933.

Canlyniadau Etholiadau Cyffredinnol[golygu | golygu cod y dudalen]

Etholiad Seddi a enillwyd ± Safle Pleidlais Dewis Gyntaf % Llywodraeth Arweinydd
Etholiad Cyffredinnol GRI, 1923
63 / 153
increase5[3] increase1st 410,695 39.0% Llywod. leiafrifol W.T. Cosgrave
Etholiad Cyffredinnol GRI, Mehefin 1927
47 / 153
Decrease16 steady1st 314,703 27.4% Minority gov't (cefnogwyd gan FP ac Annibyn) W. T. Cosgrave
[Etholiad Cyffredinnol GRI, Medi 1927 (Sep)
62 / 153
increase15 steady1st 453,028 38.7% Llywod. leiafrifol (cefnogwyd gan FP ac Annibyn) W. T. Cosgrave
Etholiad Cyffredinnol GRI, 1932
57 / 153
Decrease5 Decrease2nd 449,506 35.3% Gwrth-blaid W. T. Cosgrave
Etholiad Cyffredinnol GRI, 1933
48 / 153
Decrease9 steady2nd 422,495 30.5% Gwrth-blaid W. T. Cosgrave

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

8'Overview - Cumann na nGaedhael' yn 'History Matters'

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.historymatters365.com/the-irish-free-state-1923-32.html
  2. https://www.youtube.com/watch?v=DaQjsfOMTTI
  3. Cumann na nGaedheal's results are compared with those of the Pro-Treaty faction of Sinn Féin in the previous general election.