John Bruton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Bruton
John Bruton 2011.jpg
Taoiseach
Yn ei swydd
15 December 1994 – 26 June 1997
Arlywydd Mary Robinson
Tánaiste Dick Spring
Rhagflaenwyd gan Albert Reynolds
Dilynwyd gan Bertie Ahern
Ambassador of the European Union to the United States
Yn ei swydd
24 November 2004 – 31 October 2009
Arlywydd José Manuel Barroso
Rhagflaenwyd gan Günter Burghardt
Dilynwyd gan Angelos Pangratis (Acting)
Leader of the Opposition
Yn ei swydd
26 June 1997 – 9 February 2001
Arlywydd Mary Robinson
Mary McAleese
Taoiseach Bertie Ahern
Rhagflaenwyd gan Bertie Ahern
Dilynwyd gan Michael Noonan
Yn ei swydd
20 November 1990 – 15 December 1994
Arlywydd Patrick Hillery
Mary Robinson
Taoiseach Charles Haughey
Albert Reynolds
Rhagflaenwyd gan Alan Dukes
Dilynwyd gan Bertie Ahern
Leader of Fine Gael
Yn ei swydd
21 November 1990 – 9 February 2001
Dirprwy Peter Barry
Nora Owen
Rhagflaenwyd gan Alan Dukes
Dilynwyd gan Michael Noonan
Deputy Leader of Fine Gael
Yn ei swydd
26 March 1987 – 20 November 1990
Arweinydd Alan Dukes
Rhagflaenwyd gan Peter Barry
Dilynwyd gan Peter Barry
Minister for the Public Service
Yn ei swydd
20 January 1987 – 10 March 1987
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Ruairi Quinn
Dilynwyd gan Alan Dukes
Minister for Finance
Yn ei swydd
14 February 1986 – 10 March 1987
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Alan Dukes
Dilynwyd gan Ray MacSharry
Yn ei swydd
30 June 1981 – 9 March 1982
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Gene Fitzgerald
Dilynwyd gan Ray MacSharry
Minister for Industry, Trade, Commerce and Tourism
Yn ei swydd
13 December 1983 – 14 February 1986
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Garret FitzGerald (Acting)
Dilynwyd gan Michael Noonan
Minister for Industry and Energy
Yn ei swydd
14 December 1982 – 13 December 1983
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Albert Reynolds
Dilynwyd gan Dick Spring
Parliamentary Secretary to the Minister for Education
Yn ei swydd
14 March 1973 – 25 May 1977
Taoiseach Liam Cosgrave
Rhagflaenwyd gan Bobby Molloy
Dilynwyd gan Jim Tunney
Parliamentary Secretary to the Minister for Industry and Commerce
Yn ei swydd
14 May 1973 – 25 May 1977
Taoiseach Liam Cosgrave
Rhagflaenwyd gan Gerry Collins
Dilynwyd gan Máire Geoghegan-Quinn
Teachta Dála
Yn ei swydd
June 1969 – 31 October 2004
Etholaeth Meath
Manylion personol
Ganwyd John Gerard Bruton
(1947-05-18) 18 Mai 1947 (72 oed)
Dunboyne, County Meath, Ireland
Cenedligrwydd Irish
Plaid wleidyddol Fine Gael
Priod Finola Bruton (m. 1978)
Perthnasau Richard Bruton (Brother)
Plant 3
Rhieni
  • Joseph Bruton
  • Doris Bruton
Addysg Clongowes Wood College
Alma mater
Galwedigaeth
Gwefan Official website

Mae John Gerard Bruton (Gwyddeleg: Seán de Briotún) (ganwyd 18 Mai 1947) yn wleidydd Gwyddelig, a fu'n taoiseach (Prif Weinidog) Gweriniaeth Iwerddon o 15 Rhagfyr 1994 i 26 Mehefin 1997. Bu hefyd yn llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i Unol Daleithiau America.

Ganed ef yn Dunboyne, County Meath i deulu amaethu a Chatholig cyfoethog. Noda Oliver Coogan yn ei lyfr, 'Politics and War in Meath 1913–23' i'w daid wrthod i'r helfa cadnoid gan y teuluoedd Eingl-Wyddelig lleol, tramgwyddo ei dir adeg Rhyfel Annibyniaeth. Gelwir ef yn Taoiseach lwcus am y ffordd yr ennillodd rym ac i economi Iwerddon brasgamu i'r cyfnod 'Celtic Tiger' yn ystod ei gyfnod fel arweinydd.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Graddiodd o'r ysgol yr Iesuwyr Coleg Clongowes Wood, astudiodd economeg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn a chyfreith yn y King's Inns, gan ddod yn fargyfreithiwr (cyfreithiwr sy'n cynrychioli'r cleient yn y llys) yn 1970.[1] Bu'n ymwneud â gwleidyddiaeth Fine Gael yn ddyn ifanc, gan ymunodd â hi ym 1965.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflwyno Gwobrau fel Gweinidog Diwydiant, Medi 1984

Ym 1969 fe'i hetholwyd i senedd Iwerddon, Dáil Éireann am y tro cyntaf. Fe'i hailetholwyd yn llwyddiannus yn etholiadau 1973, 1977, 1981, 1982, Tachwedd 1982, 1987, 1989, 1992, 1997 a 2002, yn gwasanaethu fel Teacht Dala yn nhŷ isaf Senedd Iwerddon.[2]

Yn 1973 - 1977 bu'n ysgrifennydd seneddol. O fis Mehefin 1981 i fis Mawrth 1982 bu'n Weinidog Cyllid. O fis Rhagfyr 1982 i fis Rhagfyr 1983 bu'n Weinidog Diwydiant ac Ynni, yna'r Gweinidog Diwydiant, Masnach a Thwristiaeth (tan fis Chwefror 1986), y Gweinidog Cyllid (tan fis Ionawr 1987) a'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (tan fis Mawrth 1987). Yn 1990 daeth yn llywydd newydd plaid Fine Gael gan gymryd lle Alan Dukes fel arweinydd. [3]

Taoiseach, Prif Weinidog Iwerddon[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar ôl etholiadau 1992, daeth fine Gael yn wrthblaid. Fodd bynnag, yn dilyn anghytuno o fewn clymblaid llywodraethol Albert Reynolds Fianna Fail a Plaid Lafur Iwerddon yn 1994, llwyddodd Burton i greu llywodraeth newydd, 'yr enfys, yn cynnwys Fine Gael, y Blaid Lafur a'r Chwith Democrataidd. Yn 47 oed daeth Burton yn taoiseach ifancaf Iwerddon (nes i Leo Varadkar, gipio'r teitl yma yn 2017). Dyma'r tro cyntaf i'r Iwerddon gael prif weinidog newydd heb gyynnal Etholiad Cyffredinnol. Daliodd swydd y Taoiseach ac arweinydd Llywodraeth yr enfyd o fis Rhagfyr 1994 i fis Mehefin 1997. Yn ystod y cyfnod hwn, ymhlith eraill, bu'n arwain Llywyddiaeth Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd, yn ystod drafodaethau ar y Pact Sefydlogrwydd a Thyfiant.[4]

Yn 2001, ymddiswyddodd fel pennaeth y Fine Gael. Bu'n aelod o'r senedd, a'i gynrychioli yn y Confensiwn Ewropeaidd.[5] Yn 2004, ymddiswyddodd o fandad y dirprwy. [4] O fis Rhagfyr 2004 i fis Hydref 2009, roedd yn Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i'r Unol Daleithiau.[6]

Roedd disgwyl i Fine Gael ennill etholiad 1997, ond er i'r blaid wneud yn dda, collodd Llafur tir. Yn y pendraw, sefydlwyd llywodraeth newydd rhwng Fianna Fail a'r Progressive Democrats o dan arweinyddiaeth Bertie Ahern ac ymddiswyddodd Burton yn 2001.

Nodweddion ei Brif Weinidogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cytunwyd i lywodraeth yr enfys fod yn un llwyddiannus, gyda chydweithio agos rhwng Bruton ac arweinydd y Blaid Lafur, Dick Spring a Proinsias de Rossa o'r Chwith Democrataidd. Daeth Bruton o draddiad Plaid Seneddol Iwerddon, a hongiau darlun o John Redmond yn ei swyddfa - y dyn a gollodd i don gweriniaethol Sinn Fein wedi Gwrthryfel y Pasg. Ond roedd hefyd portraed o Seán Lemass, dyn, a dybiau Bruton i fod yn Brif Weinidog mwyaf effeithiol y wladwriaeth, er ei fod yn aelod o Finna Fail.

O dan Lywodraeth yr Enfys, pasiwyd Refferendwm a newidiodd Cyfansoddiad y Weriniaeth gan roi rhai hawliau i gyplau priod ysgaru o fewn cyfyngderau. Roedd y refferendwm ar 24 Tachwedd 1995 gyda'r blaidlais yn agos tu hwnt; 818,842 (50.28%) o blaid newid y cyfansoddiad, a 809,728 (49.72%) yn erbyn. Daeth yn ddeddf gwlad ar 17 Mehefin 1996.[7]

Gwelwyd datblygiadau tuag at cymodi a rhoi trefn cyfansoddiadol newydd rhwng Gogledd Iwerddon, y Weriniaeth a Phrydain gyda lansio 'Dogfen Fframwaith' Eingl-Wyddelig ym mis Chwefror 1995 gyda Phrif Weinidog Prydain, John Major. Er i'r cyn Taoisech, Albert Reynolds ei alw'n 'John Unionist' roedd yn feirniadol iawn o benderfyniad Prydain i beidio ymwneud gyda Sinn Fein yn ystod eu cadoediad yr IRA rhwng 1994-97.

Yn ystod ei gyfnod hefyd, fe groesawyr Tywysog Charles, i'r Iwerddon. Dyma'r ymweliad gyntaf gan aelod o deulu brenhinol Lloegr i'r Iwerddon ers 1912.

Yn dilyn llofruddio'r newyddiadurwraig, Veronica Guerin, sefydlodd ei Lywodraeth y Criminal Assets Bureau.

Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n briod â Finola Bruton, mae ganddo bedwar o blant.[8] Ef yw brawd gwleidydd Richard Bruton.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]