Sweden
Konungariket Sverige | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Swediaid |
Prifddinas | Stockholm |
Poblogaeth | 10,551,707 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Du gamla, du fria |
Pennaeth llywodraeth | Ulf Kristersson |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Swedeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwledydd Nordig, Llychlyn |
Arwynebedd | 447,425.16 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig, Kattegat, Øresund |
Yn ffinio gyda | y Ffindir, Norwy, Denmarc |
Cyfesurynnau | 61°N 15°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Sweden |
Corff deddfwriaethol | Senedd Sweden |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | teyrn Sweden |
Pennaeth y wladwriaeth | Carl XVI Gustaf o Sweden |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Sweden |
Pennaeth y Llywodraeth | Ulf Kristersson |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $636,856 million, $585,939 million |
Arian | krona |
Canran y diwaith | 8.4 canran |
Cyfartaledd plant | 1.57, 1.65, 1.71, 1.75, 1.77, 1.85, 1.88, 1.91, 1.94, 1.98, 1.9, 1.91, 1.89, 1.5, 1.54, 1.57 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.947 |
Un o wledydd Llychlyn, yng ngogledd Ewrop, yw Teyrnas Sweden neu Sweden (Swedeg, Sverige). Er ei bod yn un o wledydd mwyaf Ewrop o ran arwynebedd, yn mesur 450,000 cilometr sgwâr, mae'r boblogaeth yn gymharol isel ac wedi ei chrynhoi yn y trefi a'r dinasoedd ar y cyfan. Stockholm yw'r brifddinas.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Daearyddiaeth Sweden
Sweden yw'r fwyaf o wledydd Llychlyn yng ngogledd-orllewin Ewrop. Mae'n ffinio ar Norwy yn y gorllewin ac ar y Ffindir yn y dwyrain. Yn y de-orllewin, mae culforoedd y Kattegat a'r Skagerrak yn ei gwahanu oddi wrth Denmarc.
Mae llawer o dde a dwyrain Sweden yn dir cymharol isel, ond mae'r gorllewin yn fynyddig, yn enwedig o gwmpas y ffîn â Norwy. Y copa uchaf yw Kebnekaise, 2,111 medr uwch lefel y môr. Gorchuddir tua 78% o'r wlad gan fforestydd, ac mae gan y wlad tua 95,700 o lynnoedd; y mwyaf o'r rhain yw Llyn Vänern a Llyn Vättern. Llyn Vänern yw'r trydydd fwyaf yn Ewrop. Mae gan Sweden nifer o ynysoedd; y ddwy fwyaf yw Gotland ac Öland yn y Môr Baltig.
Dinasoedd a threfi mwyaf Sweden yw:
Hanes
[golygu | golygu cod]- Prif: Hanes Sweden
Cododd Sweden gyfoes o'r Undeb Kalmar a ffurfiwyd yn 1397 ac o uno'r wlad gan y brenin Gustav Vasa yn yr 16g. Yn yr 17eg ganrif, ymledaenodd Sweden ei thiriogaethau i ffurfio'r Ymerodraeth Swedaidd. Yn y 18g, bu rhaid i Sweden ildio'r rhan fwyaf o'r tiriogaethau yr oedd wedi eu goresgyn. Collwyd y Ffindir a'r tiriogaethau a oedd yn weddill tu allan i benrhyn Llychlyn yn gynnar yn y 19g. Yn dilyn diwedd y rhyfel olaf rhyngddynt yn 1814, daeth Sweden yn rhan o undeb gyda Norwy a barhaodd hyd 1905. Ers 1814, mae Sweden wedi bod yn wlad heddychlon gan fabwysiadu bolisi tramor o niwtraliaeth yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]- Prif: Gwleidyddiaeth Sweden
Diwylliant yn Sweden modern
[golygu | golygu cod]- Prif: Diwylliant Sweden
Pobl
[golygu | golygu cod]- Ingmar Bergman; cynhyrchydd y ffilm Summer with Monika
- Arne Mattsson; cynhyrchydd y ffilm One Summer of Happiness
- Anna Whitlock; ffeminist a swffragét (13 Mehefin 1852 - 16 Mehefin 1930)
|