T. E. Lawrence

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
T. E. Lawrence

Lawrence ym 1918
Enw o enedigaeth Thomas Edward Lawrence
Llysenw Lawrence o Arabia, El Aurens
Ganwyd 16 Awst 1888(1888-08-16)
Tremadog, Sir Gaernarfon, Cymru
Bu farw Mai 19, 1935(1935-05-19) (46 oed)
Bovington Camp, Dorset, Lloegr
Cynghreiriaid Y Deyrnas Unedig United Kingdom
Flag of Hejaz 1917.svg Teyrnas Hijaz
Gwasanaeth / cangen Flag of the British Army.svg Y Fyddin Brydeinig
Air Force Ensign of the United Kingdom.svg Yr Awyrlu Brenhinol
Bl'ddyn gwasanaeth 1914–18
1923–35
Ranc Cyrnol ac Awyrluyddwr
Brwydrau/rhyfeloedd

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Gwobrau Cydymaith Urdd y Baddon[1]
Urdd Gwasanaeth o Fri[2]
Chevalier de la Légion d'Honneur[3]
Croix de guerre (Ffrainc)[4]
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres ar
T. E. Lawrence

Bywyd cynnar • Teulu • Bywyd personol • Y Gwrthryfel Arabaidd • Wedi'r rhyfel • Y llenor • Seven Pillars of Wisdom • Clouds Hill • Lawrence of Arabia • Llyfryddiaeth

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Milwr, archaeolegydd, ac awdur oedd y Cyrnol Thomas Edward Lawrence, CB, DSO (16 Awst 1888 - 19 Mai 1935) a wasanaethodd yn y Fyddin Brydeinig. Mae'n adnabyddus fel Lawrence o Arabia oherwydd ei ran yng ngwrthryfel yr Arabiaid yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Bywyd cynnar T. E. Lawrence
Gorphwysfa, man geni Lawrence.

Hanai hynafiaid Lawrence o Loegr ac Iwerddon, ond fe'i ganed mewn tŷ mawr o gerrig llwyd o'r enw Gorphwysfa (a newidiwyd yn ddiweddarach yn Snowdon Lodge) yn Nhremadog, Gwynedd. Syr Thomas Robert Tighe Chapman, barwnig Eingl-Wyddelig, oedd ei dad a Sarah Lawrence, Albanes ac athrawes Syr Thomas oedd ei fam. Astudiodd archaeoleg yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, lle cafodd radd dosbarth cyntaf. Ar ôl gorffen ei astudiaethau aeth i Arabia i weithio fel archaeolegydd ac astudio Arabeg.

Yn Arabia[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: T. E. Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd

Unwaith i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau yn Awst 1914, ymunodd Lawrence ag adran ddaearyddol y Swyddfa Rhyfel yn Llundain, ac anfonwyd i'r Dwyrain Canol fel rhan o adran gudd-wybodaeth y Fyddin Brydeinig yng Nghairo, yr Aifft. Lansiwyd y Gwrthryfel Arabaidd gan Hussein bin Ali, Sharif Mecca, a'i meibion Ali, Abdullah, Faisal a Zeid, ym Mehefin 1916. Aeth Lawrence i Arabia ym mis Hydref i sylwi ar y Gwrthryfel, a daeth yn gynghorwr i Feisal. Bwriadodd Lawrence a Feisal i symud lluoedd Feisal i ogledd y Hejaz. Nod bersonol Lawrence oedd i ennill annibyniaeth i'r Arabiaid wedi diwedd y rhyfel, a daeth Lawrence yn arweinydd a strategydd herwfilwrol iddynt. Targedwyd Rheilffordd Hejaz gan yr Arabiaid, gan dorri cyflenwadau'r Tyrciaid.

Brwydr Aqaba[golygu | golygu cod y dudalen]

Lawrence ar gefn camel yn Aqaba.

Cipiodd lluoedd Feisal borth Aqaba yng Ngorffennaf 1917, gyda chymorth arweinyddiaeth Lawrence, a llwyddodd Lawrence i berswadio'r Cadfridog Syr Edmund Allenby o bwysigrwydd y Gwrthryfel Arabaidd i ymgyrch Prydain yn y Dwyrain Canol yn erbyn yr Otomaniaid/Tyrciaid.

Deraa[golygu | golygu cod y dudalen]

O ganlyniad i lwyddiant yr Arabiaid wrth dynnu sylw ac adnoddau'r Tyrciaid trwy ddifrodi Rheilffordd Hejaz, roedd Lawrence yn benderfynol o dargedu rheilffyrdd y tu ôl i gefn y gelyn, tua'r gogledd. Gadawodd Lawrence Aqaba ar 24 Hydref 1917, gyda chriw o Arabiaid, â'r bwriad o deinameitio'r bont yn Yarmuk gan dorri'r rheilffordd rhwng Deraa ac Haifa. Methodd y cyrch hwn pan ollyngodd un Arab ei wn, gan atseinio o amgylch y ceunant a thynnu sylw'r gwarchodwyr Tyrcaidd. Wedi iddynt ddianc, ffrwydrodd Lawrence drên ar ran ogleddol Rheilffordd Hejaz. Cafodd Lawrence ei anafu gan filwyr Tyrcaidd, ond unwaith eto llwyddodd i ddianc gan fynd i Azrak â'i griw o gerilas.

Yna, ym mis Tachwedd 1917, bu un o'r digwyddiadau mwyaf ddrwg-enwog ym mywyd Lawrence. Yn ôl Lawrence yn Seven Pillars of Wisdom, aeth ar ymweliad cudd o Azrak i Deraa mewn gwisg Arabaidd. Cafodd ei gamadnabod gan y Tyrciaid yn Deraa am enciliwr o'r Fyddin Otomanaidd, ond honnodd Lawrence yr oedd yn Gircasiad mewn ymgais i egluro lliw ei groen a'i lygaid. Cafodd ei gymryd i'r Bey lleol, oedd yn dymuno cael rhyw â Lawrence. Gwrthododd, a chafodd ei guro gan y gwarchodwyr a'i dreisio.

Yn ôl aelodau staff Syr Ronald Storrs, roedd Lawrence wedi "newid" ar ôl iddo ddychwelyd o Deraa.[5] Yn ôl bywgraffiad gan y seiciatrydd John E. Mack, cafodd brofiad Lawrence yn Deraa effaith sylweddol ar ei gyflwr seicolegol.[6] Ond yn ôl bywgraffwyr eraill, nid oedd Lawrence yn dweud yr holl wir, ac mae'n bosib ni aeth Lawrence o Azrak i Deraa o gwbl. Yn ôl Adrian Greaves, dywedodd Lawrence i'w gyfaill George Bernard Shaw nad oedd y stori am Deraa yn wir.[7] Mae ysgolheigion eraill wedi nodi anghysondebau rhwng dyddiadur Lawrence â'i hanes yn Seven Pillars. Hyd heddiw, dadleuol yw gwirionedd y digwyddiad.

Cwymp Damascus[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid ym Mrwydr Megiddo, symudodd Ymgyrch Sinai a Phalesteina yn agosach at Damascus. Ar 30 Medi daeth reolaeth y Tyrciaid dros y ddinas i ben, a threchodd Prydain y fyddin Dyrcaidd olaf ar y ffordd i Damascus. Codwyd y faner Arabaidd dros neuadd y dref a phenododd y llywodraethwr Tyrcaidd, Djemal Pasha, uchelwr Arabaidd lleol o'r enw Mohammed Said i'w olynu.

Y 3edd Frigâd Geffylod Ysgafn Awstraliaidd oedd lluoedd cyntaf y Cynghreiriaid i mewn i'r ddinas ar doriad gwawr 1 Hydref 1918. Awr yn hwyrach dilynodd rhagor o farchfilwyr Awstraliaidd ac ildiodd y garsiwn Dyrcaidd. Lawrence a'r Arabiaid oedd y drydedd fintai yn Damascus y bore hwnnw. Gorchmynnodd hwy i gyngor Said wneud lle am lywodraethwr ffyddlon i'r Arabiaid, ond collodd y weinyddiaeth newydd hon reolaeth ar y ddinas o fewn ychydig o ddiwrnodau o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth leol.

Blynyddoedd wedi'r rhyfel[golygu | golygu cod y dudalen]

Mynychodd Cynhadledd Heddwch Paris 1919 mewn gwisg Arabaidd, gan siarad yn erbyn creu mandad Ffrengig o Syria a Libanus. Ym mis Mawrth 1921 dychwelodd i'r Dwyrain Canol i gynghori gweinidog y trefedigaethau, Winston Churchill, ar faterion Arabaidd. Unwaith i drafodaethau dod i ben yng Nghairo gwrthododd Lawrence i ddal unrhyw swydd arall yn y llywodraeth.

Ymunodd Lawrence â'r Awyrlu Brenhinol dan yr enw John Hume Ross ar 28 Awst 1922. Ar 27 Rhagfyr y flwyddyn honno datgelodd y Daily Express taw Lawrence o Arabia oedd John Hume Ross, gan godi cywilydd braidd ar yr Awyrlu, a chafodd Lawrence ei ryddhau y mis nesaf. Ymunodd â'r Gatrawd Danc Frenhinol ar 12 Mawrth 1923 fel Preifat T. E. Shaw (mabwysiadodd yr enw hwnnw yn gyfreithiol ym 1927). Cafodd ei ddanfon i Wersyll Bovington yn Dorset ac yno prynodd y bwthyn Clouds Hill, a ddaeth yn gartref iddo am weddill ei oes. Yno bu'n trefnu ei waith llenyddol i'w gyhoeddi. Yn hwyrach, gadawodd Lawrence y Gatrawd Danc Frenhinol ac ail-ymunodd â'r Awyrlu Brenhinol. Ni chafodd ganiatâd i hedfan, ond gweithiodd mewn canolfannau ar draws y wlad, ger Môr Udd a Môr y Gogledd, yn dylunio badau tra-chyflym i dendio awyrennau, a'u profi a chreu llawlyfr technegol ar eu cyfer.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Bywyd personol T. E. Lawrence

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Beic modur Brough Superior Lawrence yn yr Amgueddfa Ryfel Imperialaidd yn Llundain.

Anafwyd Lawrence mewn damwain ffordd ar ei feic modur Brough Superior SS100 ger ei fwthyn Clouds Hill yn Dorset, de Lloegr, ar 13 Mai 1935. Oherwydd pant yn y ffordd, ni welodd dau fachgen ar eu beiciau, a phan gwyrodd i'w osgoi nhw fe daflwyd Lawrence o'i feic. Bu farw chwe niwrnod yn ddiweddarach ar 19 Mai 1935. Claddwyd ym Mynwent Moreton ar 21 Mai. Danfonwyd trenau ychwanegol o Lundain i orsaf reilffordd Moreton ar gyfer yr holl bobl oedd yn dymuno mynychu'r angladd. Yn eu plith roedd Syr Winston Churchill, yr Arglwyddes Astor, y Cadfridog Archibald Wavell (a fu'n hedfan o Aldershot mewn awtogyro) a'r awdur Henry Williamson.

Y niwrofeddyg Hugh Cairns oedd un o'r meddygon a wnaeth drin Lawrence. O ganlyniad i'w farwolaeth, ymchwiliodd Cairns i ddamweiniau beiciau modur, gan arwain at ddeddfwriaeth i wneud helmedau yn orfodol ar feicwyr modur yn y Deyrnas Unedig.[8]

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Plannwyd coeden yn yr union fan lle digwyddodd y ddamwain ffordd, i gofio Lawrence, a saif cofeb garreg gerllaw. Crewyd cerflun o Lawrence mewn gwisg Arabaidd gan ei ffrind Eric Kennington sydd i'w weld yn Eglwys Sant Martin yn Wareham, Dorset.

Ar 29 Ionawr 1936 dadorchuddiwyd penddelw, o Lawrence a wnaed gan Kennington ym 1926, yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl mewn seremoni gan yr Arglwydd Halifax.

Bellach mae cartref Lawrence yn Dorset, Clouds Hill, yn amgueddfa a gedwir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]

Poster ar gyfer y ffilm "Lawrence of Arabia" (1962)

Gwnaed ffilm ar ei fywyd, ffilm a enillodd saith gwobr Oscar. Ffilmiwyd sawl golygfa 'anialwch' ym Merthyr Mawr ger Pen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r twyni tywod mwyaf yn Ewrop. Anfarwolwyd Lawrence yn y ffilm gan yr actor Peter O'Toole.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. London Gazette: (Supplement) no. 30222. p. 8103. 7 August 1917. Retrieved 23 June 2010.
  2. London Gazette: (Supplement) no. 30681. p. 5694. 10 May 1918. Retrieved 23 June 2010.
  3. London Gazette: no. 29600. p. 5321. 30 May 1916.
  4. London Gazette: (Supplement) no. 30638. p. 4716. 16 April 1918. Retrieved 23 June 2010. - p4715 has "Decorations and Medals presented by THE PRESIDENT OF THE FRENCH REPUBLIC."
  5. Storrs, t. 23.
  6. Mack, t. 229–34.
  7. Greaves, t. 149.
  8. Maartens, Nicholas F. F.R.C.S.(SN); Wills, Andrew D. M.R.C.S.; Adams, Christopher B.T. M.A., M.Ch., F.R.C.S. (Ionawr 2002). "Lawrence of Arabia, Sir Hugh Cairns, and the Origin of Motorcycle Helmets". Neurosurgery 50 (1): 176–80. http://www.neurosurgery-online.com/pt/re/neurosurg/abstract.00006123-200201000-00026.htm;jsessionid=LjXXhLWV91Gj2H4GlTrvw2pbgDqDFHTmB0h0WsgfvpzLQpXr3QxY!-341159882!181195629!8091!-1. Adalwyd 10 Medi 2012 ).

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Greaves, Adrian. Lawrence of Arabia: Mirage of a Desert War (Weidenfeld & Nicolson, 2007).
  • Mack, John Edward. A Prince of Our Disorder: The Life of T. E. Lawrence (Boston, Little, Brown, 1976).
  • Storrs, Ronald. Orientations (Llundain, Nicholson & Watson, 1937).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Llyfrau gan Lawrence[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: T. E. Lawrence y llenor

Llyfrau am Lawrence[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Llyfryddiaeth T. E. Lawrence
  • The Forest Giant, gan Adrien Le Corbeau, cyfieithiad o'r nofel Ffrangeg, 1924.
  • Lawrence of Arabia and His World, gan Richard Perceval Graves.
  • T. E. Lawrence by His Friends, Doubleday Doran (1937)