T. E. Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd

Oddi ar Wicipedia
T. E. Lawrence yn y Gwrthryfel Arabaidd
Mae'r erthygl hon yn rhan o gyfres ar
T. E. Lawrence

Bywyd cynnar • Teulu • Bywyd personol • Y Gwrthryfel Arabaidd • Wedi'r rhyfel • Y llenor • Seven Pillars of Wisdom • Clouds Hill • Lawrence of Arabia • Llyfryddiaeth

Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Chwaraeodd yr Is-gyrnol T. E. Lawrence ran arwyddocaol yn y Gwrthryfel Arabaidd, gwrthryfel yn erbyn Ymerodraeth yr Otomaniaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyn y Gwrthryfel[golygu | golygu cod]

Unwaith i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau yn Awst 1914, ymunodd Lawrence ag adran ddaearyddol y Swyddfa Rhyfel yn Llundain, ac anfonwyd i'r Dwyrain Canol fel rhan o adran gudd-wybodaeth y Fyddin Brydeinig yng Nghairo, yr Aifft.

1916–17[golygu | golygu cod]

Lansiwyd y Gwrthryfel Arabaidd gan Hussein bin Ali, Sharif Mecca, a'i meibion Ali, Abdullah, Faisal a Zeid, ym Mehefin 1916. Aeth Lawrence i Arabia ym mis Hydref i sylwi ar y Gwrthryfel, a daeth yn gynghorwr i Feisal. Bwriadodd Lawrence a Feisal i symud lluoedd Feisal i ogledd y Hejaz.

Brwydr Aqaba[golygu | golygu cod]

Lawrence ar gefn camel yn Aqaba.

Cipiodd lluoedd Feisal borth Aqaba yng Ngorffennaf 1917, gyda chymorth arweinyddiaeth Lawrence, a llwyddodd Lawrence i berswadio'r Cadfridog Syr Edmund Allenby o bwysigrwydd y Gwrthryfel Arabaidd i ymgyrch Prydain yn y Dwyrain Canol yn erbyn yr Otomaniaid/Tyrciaid.

1917–18[golygu | golygu cod]

Nod bersonol Lawrence oedd i ennill annibyniaeth i'r Arabiaid wedi diwedd y rhyfel.

Targedwyd Rheilffordd Hejaz gan yr Arabiaid, gan dorri cyflenwadau'r Tyrciaid.

Deraa[golygu | golygu cod]

O ganlyniad i lwyddiant yr Arabiaid wrth dynnu sylw ac adnoddau'r Tyrciaid trwy ddifrodi Rheilffordd Hejaz, roedd Lawrence yn benderfynol o dargedu rheilffyrdd y tu ôl i gefn y gelyn, tua'r gogledd. Gadawodd Lawrence Aqaba ar 24 Hydref 1917, gyda chriw o Arabiaid, â'r bwriad o deinameitio'r bont yn Yarmuk gan dorri'r rheilffordd rhwng Deraa ac Haifa. Methodd y cyrch hwn pan ollyngodd un Arab ei wn, gan atseinio o amgylch y ceunant a thynnu sylw'r gwarchodwyr Tyrcaidd. Wedi iddynt ddianc, ffrwydrodd Lawrence drên ar ran ogleddol Rheilffordd Hejaz. Cafodd Lawrence ei anafu gan filwyr Tyrcaidd, ond unwaith eto llwyddodd i ddianc gan fynd i Azrak â'i griw o gerilas.

Yna, ym mis Tachwedd 1917, bu un o'r digwyddiadau mwyaf ddrwg-enwog ym mywyd Lawrence. Yn ôl Lawrence yn Seven Pillars of Wisdom, aeth ar ymweliad cudd o Azrak i Deraa mewn gwisg Arabaidd. Cafodd ei gamadnabod gan y Tyrciaid yn Deraa am enciliwr o'r Fyddin Otomanaidd, ond honnodd Lawrence yr oedd yn Gircasiad mewn ymgais i egluro lliw ei groen a'i lygaid. Cafodd ei gymryd i'r Bey lleol, oedd yn dymuno cael rhyw â Lawrence. Gwrthododd, a chafodd ei guro gan y gwarchodwyr a'i dreisio.

Yn ôl aelodau staff Syr Ronald Storrs, roedd Lawrence wedi "newid" ar ôl iddo ddychwelyd o Deraa.[1] Yn ôl bywgraffiad gan y seiciatrydd John E. Mack, cafodd brofiad Lawrence yn Deraa effaith sylweddol ar ei gyflwr seicolegol.[2] Ond yn ôl bywgraffwyr eraill, nid oedd Lawrence yn dweud yr holl wir, ac mae'n bosib ni aeth Lawrence o Azrak i Deraa o gwbl. Yn ôl Adrian Greaves, dywedodd Lawrence i'w gyfaill George Bernard Shaw nad oedd y stori am Deraa yn wir.[3] Mae ysgolheigion eraill wedi nodi anghysondebau rhwng dyddiadur Lawrence â'i hanes yn Seven Pillars. Hyd heddiw, dadleuol yw gwirionedd y digwyddiad.

Cwymp Damascus[golygu | golygu cod]

Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid ym Mrwydr Megiddo, symudodd Ymgyrch Sinai a Phalesteina yn agosach at Damascus. Ar 30 Medi daeth reolaeth y Tyrciaid dros y ddinas i ben, a threchodd Prydain y fyddin Dyrcaidd olaf ar y ffordd i Damascus. Codwyd y faner Arabaidd dros neuadd y dref a phenododd y llywodraethwr Tyrcaidd, Djemal Pasha, uchelwr Arabaidd lleol o'r enw Mohammed Said i'w olynu.

Y 3edd Frigâd Geffylod Ysgafn Awstraliaidd oedd lluoedd cyntaf y Cynghreiriaid i mewn i'r ddinas ar doriad gwawr 1 Hydref 1918. Awr yn hwyrach dilynodd rhagor o farchfilwyr Awstraliaidd ac ildiodd y garsiwn Dyrcaidd. Lawrence a'r Arabiaid oedd y drydedd fintai yn Damascus y bore hwnnw. Gorchmynnodd hwy i gyngor Said wneud lle am lywodraethwr ffyddlon i'r Arabiaid, ond collodd y weinyddiaeth newydd hon reolaeth ar y ddinas o fewn ychydig o ddiwrnodau o ganlyniad i ddiffyg cefnogaeth leol.

Wedi diwedd y Gwrthryfel[golygu | golygu cod]

Cynhadledd Heddwch Paris a rhannu Ymerodraeth yr Otomaniaid[golygu | golygu cod]

Cymerodd Lawrence ran yn y trafodaethau yng Nghynhadledd Heddwch Paris wedi diwedd y rhyfel i geisio sicrhau gwladwriaeth i'r Arabiaid, ond methodd.

Cofiannau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd: T. E. Lawrence y llenor.

Ysgrifennodd Lawrence llyfr am ei brofiad yn y Gwrthryfel Arabaidd, Seven Pillars of Wisdom, a thalfyriad ohono, Revolt in the Desert.

Strategaeth[golygu | golygu cod]

Ystyrid Lawrence yn un o arloeswyr strategaeth herwfilwrol (neu gerila) yr 20g.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Storrs, t. 23.
  2. Mack, t. 229–34.
  3. Greaves, t. 149.
  4. (Saesneg) Faulkner, Neil (17 Medi 2010). Guerrilla of Arabia: How one of Britain's most brilliant military tacticians created the Taliban's battle strategy. The Independent. Adalwyd ar 25 Chwefror 2012.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Greaves, Adrian. Lawrence of Arabia: Mirage of a Desert War (Weidenfeld & Nicolson, 2007).
  • Mack, John Edward. A Prince of Our Disorder: The Life of T. E. Lawrence (Boston, Little, Brown, 1976).
  • Storrs, Ronald. Orientations (Llundain, Nicholson & Watson, 1937).