Rheilffordd Hejaz

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Rheilffordd Hejaz
Llwybr hanesyddol Rheilffordd yr Hejaz yn 1914
Map o reilffyrdd Ymerodraeth yr Otomaniaid ar gychwyn y RhB1
Trên trosglwyddo ffosffad i borthladd Aqaba yn Iorddonen

Rheilffordd gul (rheilffordd 1,050 mm) yw Rheilffordd Hejaz a gysylltodd dinas Damascus yn Syria â dinas Medina. Mae'r rheilffordd yn croesi Hijaz, rhanbarth o ogledd-orllewinol Arabia Sawdi. Roedd sbardyn bychan oddi ar brif linell y rheilffordd i'w gysylltu gyda phorthladd Haifa oedd, y pryd hynny'n rhan o'r Ymerodraeth ond sydd bellach yn ddinas yn Israel. Adeiladwyd y rheilffordd dan arweiniad Swltan Abdul Hamid II, rheolwr Ymerodraeth yr Otomaniaid ac o dan oruchwiliaeth Ahmed Izzat al-Abed. Roedd y prosiect uchelgeisiol hwn yn uno rhannau o Ymerodraeth yr Otomaniaid oedd yn un wladwriaeth, ond sydd bellach yn croesi tair ffin wladwriaethol.

Tarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyflwynwyd y prosiect uchelgeisiol yma gan yr Ymerodraeth Otomanaidd fel rheilffordd grefyddol, gyda'r bwriad o hwyluso'r bererindod Fwlemaidd i ddinas sanctaidd Mecca, ond roedd hefyd ganddo fwriad geo-strategol a milwrol sef i gryfhau dylanwad yr Otomaniaid yn y rhanbarth a hyrwyddo masnach oddi fewn i'r Ymerodraeth.

Adeiladu[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd y gwaith adeiladu ym 1900 dan arweiniad y peiriannydd Almaeneg, Heinrich August Meißner; fe'u hariannwyd yn bennaf gan y Wladwriaeth Otomanaidd, gyda chymorth yr Almaen yn enwedig Deutsche Bank a Siemens. Mae'r rheilffordd hon yn cyflwyno dau hynodrwydd rhyfeddol: nid oedd mewn ddyled pan yr agorwyd hi, ac roedd rhannau o'r linell o dan lefel y môr am sawl cilomedr.

Cyrhaeddodd y llinell Medina ar 1 Medi 1908, pen-blwydd y derbyniad i orsedd y swltan. Yn anffodus, er mwyn parchu'r dyddiad hwn yn fuan, roedd angen gosod darnau o draciau yn uniongyrchol ar argloddiau yn y gwelyau mewn rhai wadis (gwely afon tymhorol), a hynny cyn gynted â phosibl.

Nid yw'r prosiect a gyhoeddwyd ar ddechrau ymestyn y llinell i Mecca byth yn cael ei wireddu. Nid yw'r llinell yn mynd ymhellach i'r de na Medina, i 1300 km i'r de o Ddamascus.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

O'r cychwyn, daeth y rheilffordd o dan ymosodiadau gan lwythi Arabaidd a gwaethygodd yr ymosodiadau hynny gyda dyfodiad y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna, wedi dadfeiliad yr Ymerodraeth Otomanaidd bu'n rhaid delio gyda ffiniau gwledydd a grewyd yn sgil Cytundeb Sèvres a chytundeb gudd Sykes-Picot.

Ymosodiadau cyn ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwelodd yr Emir Husayn ibn Ali, Sherif Mecca fod y rheilffordd yn fygythiad i annibyniaeth Arabaidd, gan y byddai'n caniatáu i'r Otomaniaid gael mynediad hawdd i'w garsiynau yn yr Hejaz, Assir, a Iemen. Ers ei sefydlu, bu'r rheilffordd yn destun ymosodiadau gan yr Arabiaid ac, er na fu'r rhain byth yn llwyddiannus iawn, ni allai'r Twrciaid Otomanaidd reoli mwy na stribed o tua cilomedr naill ochr i'r ffordd yn effeithiol. Cynydodd hyn yn ystod Y Gwrthryfel Arabaidd. Gan fod y trigolion yn arfer dwyn y rhai a oedd yn cysgu i fwydo eu tanau, roedd yn rhaid i rai rhannau gael eu gwacáu â chysgodwyr haearn.

1907[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Medi 1907, wrth i'r torfeydd ddathlu dyfodiad y llinell i'r orsaf Al-Ula, roedd gwrthryfel dan arweiniad llwyth Harb. Gwrthwynebodd y gwrthryfelwyr y rheilffordd i Mecca oherwydd eu bod yn ystyried y byddent yn colli eu ffordd o fyw ar ôl i gludiant y camel ddod i ben.[1]

1917[golygu | golygu cod y dudalen]

Mai: Cafodd yr orsaf Al-Ula ei bomio gan yr Awyrlu Brenhinol Brydeinig (RAF).
Medi: Fe wnaeth Stewart Newcombe, peiriannydd Prydeinig a phartner yn Lawrence of Arabia, gynllwynio â lluoedd milwrol yr Aifft ac India i ddifrodi'r rheilffordd. Ymosodwyd ar yr orsaf Al-Akhdhar a chipiwyd 20 o filwyr Twrcaidd yn garcharorion.[2]
Hydref: Syrthiodd caer Otomanaidd Tabuk i ddwylo'r gwrthryfelwyr Arabaidd, ac ynghyd â gorsaf Abu-Anna'em.
Tachwedd: Fe ymosododd llwyth Harb, dan arweiniad Sharif Abdullah, ar orsaf Al-Bwair a dinistrio dau locomotif.
Rhagfyr: Dadreiliwyd trên i'r de o Tabuk gan grŵp o dan arweiniad Ibn Ghusiab.[3]

Gwnaed ymgais i ailagor y llinell yng nghanol y 1960au, ond cafodd ei gadael oherwydd y Rhyfel Chwe Diwrnod.

Sefyllfa bresennol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dwy ran o linell Hejaz yn dal i weithredu heddiw yn Syria a'r Iorddonen, ac maent yn ffurfio rhan fwyaf o reilffyrdd Gwlad Iorddonen. Mae llinell yn cysylltu Damascus (prifddinas Syria) ag Amman (prifddinas Iorddonen), a'r mwyngloddiau ffosffad Ma'an eraill yng Ngwlff Aqaba. Yn 2004, caewyd terfynell hanesyddol gorsaf Hijaz yn Damascus, ac mae'r llinell bellach yn dod i ben ar orsaf Qadam ym maestrefi Damascus.

Yn Sawdi Arabia, cedwir gweddillion y rheilffordd, trac, adeiladau a cherbydau fel atyniadau twristaidd yn Medina. Gall ymwelwyr weld y trenau a ddinistriwyd gan Lawrence o Arabia. Ceir golygfa am Lawrence a'r Arabiaid yn ymosod ar Rheilffordd yr Hejaz yn ffilm enwog, Lawrence of Arabia.[4]

Ym mis Awst 2005, dymchwelodd bwrdeistref Medina hen bont linell, er gwaethaf gwrthwynebiad gan drigolion a haneswyr.[5] O ganlyniad i'r protestiadau addawodd y Tywysog Sultan ibn Salman, y Gweinidog Twristiaeth, ailadeiladu'r bont ac adnewyddu'r llinell ar gyfer twristiaeth.[6]

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]