Ibn Saud, brenin Sawdi Arabia

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ibn Saud, brenin Saudi Arabia)
Neidio i: llywio, chwilio
Abdulaziz
IbnSaud.32 (1).jpg
Brenin Sawdi Arabia
Teyrnasiad 14 Awst 1932 – 9 Tachwedd 1953
22 Medi 1932
Rhagflaenydd Ef ei hun fel Brenin Nejd a Hejaz
Dilynydd Saud
Brenin Nejd a Hejaz
Teyrnasiad 8 Ionawr 1926 – 23 Medi 1932
Successor Ef ei hun fel Brenin Sawdi Arabia
Plant
nifer
Enw llawn
Abdulaziz bin Abdul Rahman bin Faisal bin Turki bin Abdullah bin Muhammad bin Saud
Teulu Teulu Saud
Tad Abdul Rahman bin Faisal
Mam Sarah Al Sudairi
Ganwyd 15 Ionawr 1876
Riyadh
Bu farw 9 Tachwedd 1953 (77 oed)
Taif, Sawdi Arabia
Claddwyd Mynwent Al-Oud, Riyadh
Crefydd Sunni Islam

Brenin cyntaf Sawdi Arabia oedd Abdul-Aziz ibn Abdul-Rahman al Faisal al Saud (Arabeg: عبد العزيز آل سعود , ‘Abd al-‘Azīz Āl Su‘ūd; 1876 (ond dywedir 1880 mewn ffynonellau traddodiadol) – 9 Tachwedd 1953) a elwir yn aml yn Ibn Saud.

Fe'i ganwyd yn Riyadh i'r frenhinllin Saud, a chafodd ei deulu ei alltudio i Ciwait pan oedd Arabia yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid. Ym 1902 dychwelodd Ibn Saud i adennill Riyadh a rheoli Nejd a Hasa, ac ym 1921 datganodd ei hunan yn Swltan Nejd. Ym 1926 concrodd Teyrnas Hejaz a ffurfiodd Teyrnas Nejd a Hejaz, a ailenwodd yn Sawdi Arabia ym 1932.

Darganfuwyd petroliwm yn Sawdi Arabia yn y 1930au a daeth â chyfoeth anhygoel i Ibn Saud a'i wlad; erbyn ei farwolaeth roedd yn un o ddynion cyfoethocaf y byd. Bedowin ac imam etifeddol yr Wahabïaid oedd Ibn Saud, a gosododd sharia yn sail gyfreithiol ei deyrnas. Roedd yn briod i tua 300 o wragedd, ac yn dad i nifer o blant gan gynnwys Saud a'i olynodd fel brenin (1953-64), ac yna'i fab Faisal (1964-75), Khalid (1975-82), Fahd (1982-2005), Abdullah (2005-15) a Salman (2015 hyd y presennol).

Rhagflaenydd:
neb
Brenin Sawdi Arabia
23 Medi 1932 - 9 Tachwedd 1953
Olynydd:
Saud bin Abdulaziz Al Saud

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]