Baner y Gwrthryfel Arabaidd a Theyrnas Hijaz

Oddi ar Wicipedia
Baner y Gwrthryfel Arabaidd a Theyrnas Hijaz
Enghraifft o'r canlynolbaner Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1916 Edit this on Wikidata
Baner y Gwrthryfel Arabaidd (1917)
Baner Teyrnas Hijaz (1920)

Mabwysiadwyd baner y Gwrthryfel Arabaidd ym 1917. Roedd gan y faner hon tri stribed llorweddol: y stribed uwch yn ddu, y canol yn wyrdd, a'r stribed isaf yn wyn (i gynrychioli teuluoedd Islamaidd yr Abbasid, yr Alid a'r Umayyad),[1] gyda thriongl coch yn yr hòs i symboleiddio brenhinllin y Hasimiaid.[2] Dyluniwyd y faner gan Syr Mark Sykes, a newidiwyd arlliw'r coch gan y Sharif Hussein, arweinydd y Gwrthryfel Arabaidd. Gorchmynodd Sykes i'r swyddfeyd cyflenwi milwrol Prydeinig yng Nghairo cynhyrchu baneri a'u danfon i'r lluoedd Arabaidd.[3] Codwyd y faner yn gyntaf ar 30 Mai 1917.[4]

Ym 1920 cydnabuwyd annibyniaeth Teyrnas Hijaz ar Ymerodraeth yr Otomaniaid a mabwysiadwyd yn faner genedlaethol y wladwriaeth newydd gan newid trefn y stribedi fel bod y stribed canol yn wyn a'r stribed isaf yn wyrdd.[2]

Hon oedd y faner gyntaf i ddefnyddio'r lliwiau pan-Arabaidd,[4] ac mae'n sail i ddyluniadau baneri Palesteina a Gwlad Iorddonen.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Nicolle, David. Lawrence and the Arab Revolts, rhif 208 yng nghyfres Men-at-Arms (Rhydychen, Osprey, 1989 [2007]), t. 45.
  2. 2.0 2.1 Ryan, Siobhán (gol.) Complete Flags of the World (Llundain, Dorling Kindersley, 2002), t. 7.
  3. Fromkin, David. A Peace to End All Peace: The Fall of the Ottoman Empire and the Creation of the Modern Middle East (Efrog Newydd, Avon, 1989), t. 315.
  4. 4.0 4.1 Znamierowski, Alfred. The World Encyclopedia of Flags (Llundain, Anness, 2010), t. 122.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]