Siân Phillips

Oddi ar Wicipedia
Siân Phillips
GanwydJane Elizabeth Ailwên Phillips Edit this on Wikidata
14 Mai 1933 Edit this on Wikidata
Gwauncaegurwen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
PriodRobin Sachs, Peter O'Toole Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig Edit this on Wikidata

Actores yw y Fonesig Siân Phillips, DBE (Jane Elizabeth Ailwên Phillips) (ganwyd 14 Mai 1933).

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei geni ar fferm Tŷ Mawr ger Gwauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, yn ferch i Sally (née Thomas), a oedd yn athrawes, a David Phillips, cyn-weithiwr dur trodd yn blisman.[1] Cymraeg oedd ei mamiaith; ac yng nghyfrol gyntaf ei hunangofiant Private Faces mae'n dweud ei bod wedi siarad Cymraeg drwy rhan fwyaf o'i phlentyndod, gan ddysgu Saesneg drwy wrando ar y radio.[2][3]

Mynychodd Ysgol Ramadeg Pontardawe ac roedd yn cael ei hadnabod yno fel Jane. Ond roedd ei hathro Cymraeg, Eic Davies, yn ei galw gyda'r ffurf Gymraeg, Siân.[4][5] Yn ddiweddarach fe astudiodd Saesneg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd gan dderbyn gradd yn 1955.[6]

Derbyniodd ysgoloriaeth i RADA yn Medi 1955, yr un flwyddyn a Diana Rigg a Glenda Jackson.[7][8][9] Aeth ymlaen i ennill Medal Aur Bancroft am berfformiad yn Hedda Gabler a fe gynigiwyd gwaith iddi yn Hollywood ar ôl gadael RADA.[10] Tra'n dal yn fyfyrwraig fe gynigiwyd tri chontract ffilm iddi, a fyddai'n n golygu gweithio am gyfnod hir yn yr Unol Daleithiau. Fe wrthododd hyn, gan fod yn well ganddi weithio ar lwyfan.[11]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cyfnod cynnar ar lwyfan, radio a theledu[golygu | golygu cod]

Dechreuodd Phillips actio yn broffesiynol yn 11 mlwydd ar wasanaeth yr Home Service ar BBC Radio yng Nghymru. Ei rhan cyntaf oedd fel cwrcath sinsir.[12][13] A yr un oed fe enillodd ei gwobr gynta am ei pherfformiad yn Eisteddfod Genedlaethol 1944 a gynhaliwyd yn Llandybie lle wnaeth hi a ffrind ysgol chwarae rhannau dau hen ddyn mewn cyflwyniad dramatig. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar deledu Prydeinig yn 17 oed a enillodd wobr actio Cymreig yn 18 oed. Rhwng 1953 a 1955 tra'n dal yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, fe weithiodd fel darllenwr newyddion a chyhoeddwr i'r BBC yng Nghymru. Roedd yn aelod o gwmni theatr sefydlog y BBC a cwmni Theatr Cenedlaethol Brenhinol a fe deithiodd Cymru yng nghynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru.[9][14][15]

Chwaraeodd ran Masha yn y ddrama Three Sisters yn y Nottingham Playhouse yn 1958. Yn 1959 chwaraeodd y Dywysoges Siwan yn The King's Daughters - cyfieithiad o ddrama Siwan gan Saunders Lewis yng Nghlwb Theatr Hampstead a Katherine yn Taming of the Shrew yn theatr yr Oxford Playhouse yn 1960. Chwaraeodd Siwan eto yng nghynyrchiad y BBC o Siwan: The King's Daughter wrth ochr Peter O'Toole gyda Emyr Humphrys yn cynhyrchu. Fe'i ddarlledwyd ar BBC One (Cymru yn unig) ar 1 Mawrth 1960.[16][17] O Hydref 1958 i Ebrill 1959 roedd hi'n gyflwynydd ar y rhaglen fisol Gwlad y Gân ar TWW Sianel 10 gyda'r bariton Ivor Emmanuel.[18]

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar lwyfannau Llundain yn 1957 pan ymddangosodd yng nrama Magda gan Hermann Sudermann ar gyfer RADA.[19] Magda, drama am prif gantores opera, oedd ei llwyddiant mawr cyntaf yn Llundain. Cafodd y cynhyrchiad glod sylweddol a roedd yn gaffaeliad mawr i'w gyrfa, er ei fod hi dal yn fyfyrwraig ar y pryd, hi oedd y cyntaf ers Sarah Bernhardt i chwarae'r rhan.[20]

Yn 1957 (mae rhai ffynonellau yn dweud 1959) perfformiodd Phillips y prif ran yn Hedda Gabler gan Ibsen.[21][22][23] Mae nifer o ffynonellau yn ystyried hyn ei perfformiad cynta ar lwyfan yn Llundain ond roedd wedi ymddangos yn Magda cyn Hedda Gabler.[24] Yn Medi 1958 roedd hi'n perfformio fel Margaret Muir in The Holiday gan John Hall yn Theatr Newydd Rhydychen .[25]

Yn Mai 1958 perfformiodd Phillips fel Joan yn nrama Saint Joan gan George Bernard Shaw, yn Theatr Belgrade yn Coventry, oedd wedi agor chwe wythnos ynghynt, cynhyrchwyd gan Bryan Bailey. Fe wnaeth sylwebydd ddisgrifio ei pherfformiad: "Mae portread Sian Phillips o Joan yn herio cyfraith cyfartaleddau, oherwydd ar ôl gweld Siobhan McKenna yn nghynyrchiad yr Arts Theatr yn 1955, roeddwn yn credu ei fod yn amhosib weld perfformiad cystal o fewn hanner canrif. Fel y ferch Wyddelig, mae'r Gymraes yn berffaith... 'Nid yw'r ferch yn actio fel Joan - hi yw Joan.' Yn fyr, perffeithrwydd."[26]

Chwaraeodd ran Julia yn fersiwn 1960-1961 o gynhyrchiad Royal Shakespeare Company o The Duchess of Malfi.[27] Ei pherfformiadau i'r Royal Shakespeare Company oedd:

  • Julia yn The Duchess of Malfi: yn Theatr Goffa Shakespeare (Stratford, 30 Tachwedd 1960, noson agoriadol).
  • Julia yn The Duchess of Malfi: yn Theatr yr Aldwych (Llundain, 15 Rhagfyr 1960, noson agoriadol)
  • Bertha yn Ondine: yn Theatr yr Aldwych (Llundain, 12 Ionawr 1961, noson agoriadol)
  • Miss Havisham yn Great Expectations: i'r Royal Shakespeare Company (Stratford, 6 Rhagfyr 2005).[28]

Cyfnod hwyrach ar ffilm a theledu[golygu | golygu cod]

Mae ei gyrfa hir yn cynnwys nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu ond efallai ei bod yn fwyaf adnabyddus am ei rhan fel y dieflig Livia yn addasiad o nofel I Claudius gan Robert Graves (BBC2, 1976), a fe enillodd wobr Actores Gorau BAFTA am y rhan. Fe wnaeth nifer o ymddangosiadau ar y gyfres wreiddiol o sioe gwis Call My Bluff. Fe ymddangosodd gyferbyn ei gŵr ar-y-pryd Peter O'Toole a Richard Burton yn y ffilm Becket (1964); fel Ursula Mossbank yn y ffilm gerddorol Goodbye, Mr. Chips (1969), eto yn serennu gyda O'Toole; a gyferbyn a O'Toole yn Murphy's Way (1971); fel Emmeline Pankhurst yn y gyfres deledu fer Shoulder to Shoulder (1974); fel Lady Ann, gwraig anffyddlon y cymeriad George Smiley chwaraewyd gan Alec Guinness, yn y gyfres ddrama ysbïo Tinker, Tailor, Soldier, Spy (1979) ar BBC1 a Smiley's People (1982), addaswyd o nofelau John le Carré o'r un enw; yn Nijinsky (1980); a fel y frenhines Cassiopeia yn Clash of the Titans (1981).

Rhan boblogaidd arall oedd y Parchedig Fam Gaius Helen Mohiam yn ffilm Dune (1984) gan David Lynch a Charal o Ewoks: The Battle for Endor (1985). Fe ymddangosodd yn ngyfres 2 a 4 (1998 a 2000) o'r gyfres deledu o Ganada La Femme Nikita fel Adrian, sylfaenydd gwrthgiliedig y sefydliad gwrth-derfysgol pwerus Section One. Yn 2001, fe ymddangosodd yn Ballykissangel fel y iachäwr trwy ffydd Consuela Dunphy ym Mhennod 7 ('One Born Every Minute' neu 'Getting Better All the Time'). Ei ffilm ddiweddaraf yw The Gigolos (2006) gan Richard Bracewell, lle roedd yn chwarae Lady James. Yn 2010, fe ymddangosodd yn mhennod o New Tricks gyda'r teitl 'Coming out Ball' ac yn 2011 fe ymddangosodd ym mhumed cyfres y rhaglen deledu Lewis yn y bennod gyda'r teitl 'Wild Justice'.

Mae cydnabyddiaethau Phillips yn y West End yn cynnwys Marlene (lle roedd yn portreadu Marlene Dietrich), Pal Joey, Gigi a A Little Night Music. Fe ymddangosodd ar lwyfan yn America hefyd gyda Marlene.

Gwaith arall[golygu | golygu cod]

Mae ei pherfformiadau i'r Theatr Cenedlaethol Brenhinol yn cynnwys:

  • Lady Britomart yn Major Barbara: Theatr Lyttelton Theatre (18 October 1982, noson agoriadol).
  • Madam Armfeldt un A Little Night Music: Theatr Olivier (18 September 1995, noson agoriadol).
  • Hope yn In Bed With Magritte (1 December 1995, noson agoriadol).[29]

Chwaraeodd prif rhan yng nghomedi The Leopard in Autumn ar BBC Radio 4 rhwng 2001 a 2002.

Fe recordiodd llais cefndir i drac ar albwm Rufus Wainwright o 2007 Release the Stars, a fe ymddangosodd gydag e yn Theatr yr Old Vic yn Llundain ar 31 Mai/1 Mehefin 2007. Serenodd Phillips yng nghynyrchiad West End Llundain o Calendar Girls. Chwaraeodd Phillips gymeriad Juliet gyferbyn a pherfformiad Michael Byrne o Romeo yn Juliet and her Romeo yn yr Old Vic, Bryste o 10 Mawrth hyd 24 Ebrill 2010.[30]

Roedd Phillips hefyd yn aelod blaenllaw o Social, Welsh and Sexy (SWS), y sefydliad cymdeithasol ar gyfer Cymry Llundain.

Gwobrau ac enwebiadau[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Gwobr Categori Gwaith enwebwyd Canlyniad Cyf
1969 Gwobr Golden Globe Actores Cynhaliol Gorau Goodbye, Mr. Chips (1969) Enwebwyd
1970 National Society of Film Critics Actores Cynhaliol Gorau Goodbye, Mr. Chips (1969) Enillodd
1976 Gwobr BAFTA Actores Orau I, Claudius & How Green Was My Valley Enillodd
1977 Cymdeithas Frenhinol Teledy Perfformiad Gorau I, Claudius Enillodd
1980 Gwobr Olivier Actores Orau mewn Sioe Gerdd Pal Joey Enwebwyd [31]
1996 Gwobr Olivier Perfformiad Cynhaliol Gorau mewn Sioe Gerdd A Little Night Music Enwebwyd
1998 Gwobr Olivier Actores Orau mewn Sioe Gerdd Marlene Enwebwyd
1999 Gwobr Tony Actores Orau mewn Sioe Gerdd Marlene Enwebwyd [32]
1999 Gwobr Ffilm & Theledu Ar-lein Actores Gwadd Gorau mewn Cyfres Cebl La Femme Nikita Enwebwyd
2001 BAFTA Cymru Gwobr Arbennig Siân Phillips Enillodd
2013 Olivier Award Perfformiad Cynhaliol Orau mewn Sioe Gerdd Cabaret Enwebwyd

Mae'n aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn gymrawd er anrhydedd gyda sawl prifysgol yng Nghymru. Yn Mehefin 2000 derbyniodd CBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines a DBE am wasanaethau i ddrama yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2016.[33][34] Yn 2001 fe'i gwobrwywyd â Gwobr Arbennig BAFTA Cymru.[6] Yn Ionawr 2018 derbyniodd Wobr Cyfraniad Oes yng Ngwobrau Drama Glywedol y BBC.[35]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Gŵr cyntaf Phillips oedd Don Roy, oedd ar y pryd yn fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Cymru. Fe'i priodwyd yn 1956 ac ysgarwyd yn 1959.[36][37]

Tra'n feichiog gyda'u plentyn cyntaf, fe briododd Peter O'Toole yn Rhagfyr 1959. Cafodd y cwpl ddau ferch: Kate, ganwyd 1960 a Patricia, ganwyd 1963.[38] Mae Patricia yn gweithio ym myd y theatr,[39] a mae Kate yn actores. Fe ysgarodd y cwpl yn 1979, a fe ysgrifennodd Phillips am y cyfnod cythryblus yma o'i bywyd yn ail gyfrol ei hunangofiant, Public Places.

Ei thrydydd gŵr oedd yr actor Robin Sachs, oedd yn 17 mlynedd yn iau na hi. Cychwynodd eu perthynas yn 1975 a fe'i priodwyd ar Noswyl Nadolig 1979, yn fuan ar ôl ysgaru o O'Toole. Fe ysgarodd y ddau yn 1991.[37]

Mae'n hi'n noddwr i goleg Bird College of Dance, Music & Theatre Performance, yn Sidcup, Llundain Fwyaf a theatr Sherman Cymru yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd ei hunangofiant mewn dwy gyfrol - Private Faces yn 1999 a Public Places yn 2001.[37]

Gwobr Siân Phillips[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Gwobr Siân Phillips yn 2004. Enillodd Emyr Humphreys y wobr gyntaf am ei gyfraniad i radio a theledu yng Nghymru a dyluniwyd y tlws gan Ann Catrin Evans.[40]

Gwaith[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]

Teledu[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Private Faces (hunangofiant 1999)
  • Public Places (hunangofiant 2001)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC - South West Wales - Hall of Fame". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-27. Cyrchwyd 2016-01-01.
  2. Contemporary Authors Online, Gale, 2008
  3. "Sian Phillips" BBC:Wales Arts at www.bbc.co.uk. Adalwyd 12 Rhagfyr 2011
  4. "Sian Phillips: Stage and Screen Actress" at www.terrynorm.ic24.net. Adalwyd 12 Rhagfyr 2011
  5. Dr Myron Evans. "The Actress Siân Phillips". Cyrchwyd 18 January 2013.
  6. 6.0 6.1  Siân Phillips - Bywgraffiad. Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd ar 1 Ionawr 2016.
  7. Jenny Gilbert, "How We Met: Diana Rigg and Valerie Solti" The Independent (6 September 1998). Adalwyd yn www.independent.co.uk, 13 Rhagfyr 2011
  8. "Sian Phillips Biography" at www.filmreference.com. Adalwyd 13 Rhagfyr 2011
  9. 9.0 9.1 "Sian Phillips" in Turner Classic Movies at www.tcm.com. Adalwyd 13 Rhagfyr 2011
  10. "Phillips, Siân (1933-)" yn BFI Screenonline ar www.screenonline.org.uk. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  11. "Wales Video Gallery: Sian Phillips" (video interview) at http://walesvideogallery.org Archifwyd 2016-01-12 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 18 Rhagfyr 2011
  12. CynbytheSea Cyfweliad gyda Sian Phillips (Adrian) yn www.cynbythesea.com. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  13. Terri Paddock, "20 Questions With . . . Sian Phillips" yn Whats On Stage (15 Mawrth 2004) at www.whatsonstage.com. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  14. "Siân Phillips: Stage and Screen Actress" at www.terrynorm.ic24.net. Adalwyd 13 Rhagfyr 2011
  15. "Phillips, Siân (1933-)" in BFI Screenonline at www.screenonline.org.uk. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  16. Sian Phillips Bywgraffiad yn www.filmreference.com. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  17. "Siwan: The King's Daughter" ar BBC One at www.bbc.co.uk. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  18. "TWW (Television Wales and the West) Channel 10" yn www.78rpm.co.uk. Adalwyd 24 Rhagfyr 2011
  19. "University of Kent: Special Collections Theatre Collections" yn www.kent.ac.uk. Adalwyd 12 Rhagfyr 2011
  20. Terri Paddock, "20 Questions With... Sian Phillips" yn Whats On Stage (15 Mawrth 2004) yn www.whatsonstage.com. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  21. "V&A Search the Collections: Sian Phillips in The Holiday" yn collections.vam.co.uk. Adalwyd 18 Rhagfyr 2011
  22. "BBC Wales Arts: Siân Phillips" yn www.bbc.co.uk. Adalwyd 18 Rhagfyr 2011
  23. "Sian Phillips: Milestones" yn Turner Classic Movies yn www.tcm.com. Adalwyd 18 Rhagfyr 2011
  24. "Wales Video Gallery: Sian Phillips" (cyfweliad fideo) yn http://walesvideogallery.org Archifwyd 2016-01-12 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  25. "V&A Search the Collections: Sian Phillips in The Holiday" ym collections.vam.co.uk. Adalwyd 12 Rhagfyr 2011
  26. Mervyn Jones, "Socialist Coventry Scores Another Triumph" Tribune Magazine (23 Mai 1958). Adalwyd o archive.tribunemagazine.co.uk, 13 Rhagfyr 2011
  27. "Sian Phillips" BBC: Wales Arts in www.bbc.co.uk. Adalwyd 12 Rhagfyr 2011
  28. Royal Shakespeare Company Archive Catalogue at calm.shakespeare.org..uk. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  29. National Theatre: Archive Catalogue at worthing.nationaltheatre.org.uk. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  30. Siân Phillips to star as Shakespeare's Juliet at bbc.co.uk
  31. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-03. Cyrchwyd 2016-01-01.
  32. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-31. Cyrchwyd 2016-01-01.
  33. London Gazette: (Supplement) no. 61450. p. N8. 30 December 2015.
  34. "New Year's Honours 2016". GOV.UK. Cabinet Office. 30 Rhagfyr 2015. Cyrchwyd 30 Rhagfyr 2015.
  35. Siân Phillips wedi derbyn Gwobr Cyfraniad Oes gan y BBC , Golwg360, 29 Ionawr 2018.
  36. "Sian Phillips Biography" yn www.filmreference.com. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  37. 37.0 37.1 37.2 "When the magic wore off", The Observer, 29 Gorffennaf 2001. Adalwyd 10 Rhagfyr 2015.
  38. "Peter O'Toole" in www.superiorpics.com. Adalwyd 16 Rhagfyr 2011
  39. "Pat O'Toole web site". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-10. Cyrchwyd 2016-01-01.
  40.  Emyr Humphreys - enillydd Gwobr Siân Phillips 2004. BBC Lleol. Adalwyd ar 15 Chwefror 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]