Tinker, Tailor, Soldier, Spy
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | John le Carré ![]() |
Cyhoeddwr | Hodder & Stoughton, Random House ![]() |
Gwlad | y Deyrnas Unedig ![]() |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | Mehefin 1974 ![]() |
Genre | ffuglen ysbïo ![]() |
Cyfres | cyfres George Smiley ![]() |
Rhagflaenwyd gan | The Naïve and Sentimental Lover ![]() |
Olynwyd gan | The Honourable Schoolboy ![]() |
Prif bwnc | y Rhyfel Oer ![]() |
Pwnc yr erthygl hon yw'r nofel. Am y gyfres deledu, gweler Tinker Tailor Soldier Spy (rhaglen deledu). Am y ffilm, gweler Tinker Tailor Soldier Spy (ffilm).
Nofel ysbïo gan John le Carré yw Tinker, Tailor, Soldier, Spy a gyhoeddwyd ym 1974. Yn y nofel hon caiff George Smiley ei adalw i'r "Syrcas", asiantaeth cudd-wybodaeth y Deyrnas Unedig, i ddatgelu mole Sofietaidd. Hi yw'r nofel gyntaf yn Nhriawd Karla, sy'n dweud stori'r swyddog cudd-wybodaeth Smiley wrth geisio dal ei wrthwynebydd, y swyddog cudd-wybodaeth Karla o'r Undeb Sofietaidd. Y ddwy nofel arall yn y gyfres yw The Honourable Schoolboy (1977) a Smiley's People (1979).
Daw'r teitl o'r hwiangerdd Saesneg "Tinker, Tailor". Mae pennaeth y Syrcas, Control, yn rhoi enwau côd o'r rhigwm hwn i'r swyddogion y mae'n drwgdybio o fod yn y mole.