Richard Charles Mayne

Oddi ar Wicipedia
Richard Charles Mayne
Ganwyd7 Gorffennaf 1835 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mai 1892 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwobr/auCydymaith Urdd y Baddon, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd yr ôl-lyngesydd Richard Charles Mayne CB FRGS (7 Gorffennaf 1835 - 29 Mai 1892) [1] yn swyddog yn y Llynges Frenhinol ac yn fforiwr, a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Penfro a Hwlffordd.  [2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Richard Mayne yn Llundain, roedd yn ail fab i Syr Richard Mayne KCB (cyd-gomisiynydd cyntaf yr Heddlu Metropolitan) a Georgina Marianne Catherine, merch hynaf Thomas Carvick o Wyke.[2] Roedd ei deulu yn un amlwg ymysg disgynyddion plannwyr Protestannaidd Ulster gyda thiroedd yn Mount Sedborough yn Swydd Fear Manach a Freame Mount, Swydd An Cabhán.[3][4][5]

Addysgwyd Mayne am gyfnod yng Ngholeg Eton, ond ymadawodd a'r ysgol yn 12 mlwydd oed i ymuno a'r llynges.[6]

Gyrfa morwrol[golygu | golygu cod]

Ymunodd a'r llynges Frenhinol ym 1847 fel bachgen ar fwrdd yr HMS Inconstant. Wedi tair blynedd cafodd ei drosglwyddo i'r HMS Cumberland, fflaglong gorsaf forwrol India'r Gorllewin. Ym 1854 bu'n gwasanaethu ar HMS St. Jean D'Acre, gan wasanaethu mewn tri ymgyrch morwrol cysylltiedig â rhyfel y Crimea.[2] Ym 1855 fe'i dyrchafwyd yn fêt ar y Jean D'Arce. Fe'i dyrchafwyd eto'r un flwyddyn i reng ail lefftenant ar yr HMS Curlew, lle fu'n gwasanaethu hyd ddiwedd y rhyfel.[7] Am ei wasanaeth yn rhyfel y Crimea dyfarnwyd iddo Fedal y Baltig, Medal y Crimea gyda chlasbiau Sebastopol ac Azoff, y Légion d'honneur, a Medal Rhyfel Twrci.  [6]

Fforiad Columbia Brydeinig[golygu | golygu cod]

Ynys Mayne

Ym 1856 penodwyd y Lefftenant Mayne yn aelod o'r Arolwg Morwrol o Ynys Vancouver a Columbia Brydeinig. Hwyliodd Mayne gyda'r Capten George Henry Richards ar ei daith yn HMS Plumper i arolygu arfordir Columbia Brydeinig (1857-1859). Aeth i wasanaethu gyda'r Peirianwyr Brenhinol dan y Cyrnol Richard Moody gyda'r gorchwyl o fapio rhannau o wladfa Canada oedd ar y pryd yn anhysbys. Wedi pedwar blynedd ar yr HMS Plumper, symundodd cyfran o'r criw, gan gynnwys Mayne, i'r H.M.S. Hecate, a dyrchafwyd Mayne yn is gapten y llong. Bu'r llong a'i griw yn gyfrifol am gydweithio gyda llynges yr UDA i bennu a mapio'r ffin derfynol rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Ym 1860 cafodd Mayne ei ddyrchafu'n gomander am ei wasanaeth gyda'r comisiwn ffiniau.[8][9]

Mae ei gyfnodolyn o'r gweithgareddau hyn yn ffynhonnell glasurol o hanes Columbia Brydeinig. Mae Ynys Mayne, un o Ynysoedd y Gwlff yng Nghulfor Georgia, wedi'i enwi ar ei ôl.[10] Mae Culfor Hecate wedi ei enwi ar ôl ei long.

Ym 1862 penodwyd ef yn gomander ar yr H.M.S. Eclipse, ac aeth i Awstralia a Seland Newydd, gan gymryd rhan ym mhob brwydr gysylltiedig â Rhyfel y Maori 1863. Ar 21 Tachwedd 1863 cafodd ei anafu'n ddifrifol ger Rangiriri, ar yr afon Wikato. Am ei wasanaeth yn Seland Newydd fe'i dyrchafwyd yn gapten, derbyniodd Fedal Seland Newydd a'i urddo yn Gymrawd y Baddon. Fe'i danfonwyd yn ôl i Brydain i wella o'i glwyfau.[11]

Fforiad Culfor Magellan[golygu | golygu cod]

Ym 1866 penodwyd Mayne yn gapten ar yr HMS Nassau a'i orchymyn i wneud arolwg o Gulfor Magellan;  llwybr môr yn ne Chile yn gwahanu tir mawr De America i'r gogledd a Tierra del Fuego i'r de. Y culfor oedd y llwybr pwysicaf rhwng cefnforoedd yr Iwerydd a'r Môr Tawel ar y pryd. Roedd yr archwiliadau a'r mapiau a gwnaed cynt yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer llongau hwylio. Ond gyda llongau ager mawr bellach yn tramwyo'r culfor roedd angen mapiau mwy o faint ac yn cynnwys mwy o fanylder. Fel prawf o'r angen am y mapiau mwy manwl wrth i'r Nasau agosáu at y culfor i gychwyn ar y gwaith daeth o hyd i'r llong ager St Jago wedi ei ddryllio yn erbyn craig ger Bai Trugaredd. Llwyddodd y Nassau i achub pob un o'r criw o 200 oedd ar y St Jago a'i danfon yn ddiogel i Monte Video.

Yn ogystal â'r gwaith o archwilio a mapio bu'r Nassau hefyd yn gyfrifol am gasglu gwybodaeth wyddonol. Y naturiaethwr ar y daith oedd Robert Oliver Cunningham. Gofynnodd Charles Darwin i Arglwyddi'r Llynges i ofyn i'r Capten Mayne gasglu nifer o lwythi llongau o esgyrn ffosil o rywogaethau o bedwarcarnolion diflanedig. Roedd yr Admiral Sulivan eisoes wedi darganfod casgliad rhyfeddol o gyfoethog o esgyrn ffosil heb fod yn bell o'r culfor. Ymddengys bod y rhain yn perthyn i gyfnod mwy hynafol, na rhai casglodd Darwin ar HMS Beagle a chan naturiaethwyr eraill, ac felly o ddiddordeb mawr i wyddoniaeth. Casglwyd llawer o ffosiliau a adneuwyd i'r Amgueddfa Brydeinig.

Am ei gymorth wrth gasglu'r ffosiliau, gwnaed Mayne yn Gymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (FRGS).

Priodas[golygu | golygu cod]

Ym 1870 priododd Mayne Sabine Dent, merch Syr Thomas Dent (1796-1872). Bu iddynt dau fab a dwy ferch. Ar ôl ei briodas, fe aeth Capten Mayne i'r môr am gyfnod byr yn unig, ym 1875. Pan orchmynnodd yr H.M.S. Invincible. Fe'i penodwyd yn Ôl Llyngesydd ym 1879.

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Mayne yn aflwyddiannus yn Etholiad Cyffredinol 1885 fel ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Penfro a Hwlffordd. Bu'n aflwyddiannus gan gael ei guro gan yr ymgeisydd Rhyddfrydol Henry Allen. Ym 1886 torrodd Allen gyda Llywodraeth Gladstone ar achos ymreolaeth i'r Iwerddon a dywedodd nad oedd am amddiffyn ei sedd yn yr etholiad nesaf. Pan ddaeth yr etholiad ym 1886 safodd Mayne ym Mhenfro a Hwlffordd fel Unoliaethwr Rhyddfrydol, gyda sêl bendith y cyn aelod. Ei wrthwynebydd oedd y bardd Eingl-gymreig Syr Lewis Morris. Etholwyd Mayne.[12] Er iddo sefyll fel Unoliaethwr Rhyddfrydol, roedd yn aelod Ceidwadol, i bob pwrpas yn rhoi cefnogaeth driw i'r Prif Weinidog Ceidwadol yr Arglwydd Salisbury.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ar 28 Mai 1892 roedd Mayne yn un o nifer o wleidyddion Cymreig a wahoddwyd gan Arglwydd Maer Llundain i wledd Gymreig yn y Mansion House[13]. Rhoddwyd llwnc destun i'r llynges a gofynnwyd i Mayne ymateb ar ran llyngeswyr Cymru. Wedi codi i gynnig yr ymateb cafodd pendro. Wrth gael ei gynorthwyo i'w cerbyd llewygodd eto ar risiau'r plasty a thrawodd ei ben yn ddifrifol. Wedi llwyddo i'w gael o i'w cartref bu farw o fewn ychydig oriau o strôc.[14]

Wedi gwasanaeth angladd gydag anrhydeddau morwrol yn Eglwys St Peter, Cranley Gardens, Kensington, rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent Golder's Green.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "FUNERAL OF ADMIRAL MAYNE MP - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1892-06-04. Cyrchwyd 2018-08-29.
  2. 2.0 2.1 2.2 Emsley, C.  (2008, January 03). Mayne, Sir Richard (1796–1868), police officer. Oxford Dictionary of National Biography   Adalwyd 29 Awst 2018
  3. Calendar of State Papers Ireland, 1611-1614, HMPRO, Gol Parch C.W. Russell, D.D., a John P. Pendergast, Llundain: Longman & Co. 1877
  4. The Plantation of Ulster, Parch. George Hill, Belfast: McCaw, Stevenson & Orr, 1877 tud.:481-2
  5. The Fermanagh Story, Pedar Livingston, The Clogher Historical Society, 1969
  6. 6.0 6.1 "Sudden Death of Admiral Mayne CB MP - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1892-05-30. Cyrchwyd 2018-08-29.
  7. "THE COMING GENERAL ELECTION - The Western Mail". Abel Nadin. 1892-05-14. Cyrchwyd 2018-08-29.
  8. Journal of the Royal Geographical Society, vol. xxxi, p.297, and vol. xxxii, p123
  9. Proceedings of the Royal Geographical Society: Obituary, p.473-5
  10. "Mayne Island BC, Canada". Cyrchwyd 29 Awst 2018.
  11.  Lee, Sidney, gol. (1894). "Mayne, Richard" . Dictionary of National Biography. 37. Llundain: Smith, Elder & Co.
  12. "Canlyniadau Etholiad 1886 BWRDEISDREFI PENFRO - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1886-07-14. Cyrchwyd 2018-08-29.
  13. "ARGLWYDD FAER LLUNDAIN YN GWLEDDA YR AELODAU CYMREIG - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1892-04-08. Cyrchwyd 2018-08-29.
  14. "MARWOLAETH Y LLYNGESYDD MAYNE - Y Dydd". William Hughes. 1892-06-03. Cyrchwyd 2018-08-29.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Henry George Allen
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd
18861892
Olynydd:
Charles Francis Egerton Allen