Charles Francis Egerton Allen
Charles Francis Egerton Allen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 14 Hydref 1847 ![]() Agra ![]() |
Bu farw | 31 Rhagfyr 1927 ![]() |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, bargyfreithiwr ![]() |
Swydd | Aelod Seneddol, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Roedd Charles Francis Egerton Allen (14 Hydref 1847 – 31 Rhagfyr 1927) yn weinyddwr Prydeinig yn yr India ac yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol etholaeth Penfro a Hwlffordd.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Allen yn Agra, Uttar Pradesh, India], ym 1847, lle'r oedd ei dad, Charles Bird Allen yn gwasanaethu yng Ngwasanaeth Sifil yr India. Ei fam oedd Mary Anne Harriet, merch Peter Bartholomew Jullian o Lundain.
Cafodd ei addysgu yng ngholeg Eton a Choleg Sant Ioan, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1870.
Priododd Elizabeth Georgina, merch William Wilcox o Whitburn, Swydd Durham ym 1891 bu hi farw ym 1934. Ni fu plant o'r briodas. Bu farw yn ei gartref yn 10 Norton, Dinbych y Pysgod.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Galwyd Allen i'r Bar yn y Deml Ganol ym 1871 a fu'n gweithio fel Bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Gogledd Ddwyrain Lloegr cyn symud yn ôl i'r India ym 1873 lle fu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghalcutta a Rangoon ac fel barnwr llys man achosion Calcutta, bu'n Advocad y Llywodeaethwr yn Rangoon ac yn Gofrestrydd Rangoon. Bu hefyd yn ddarlithydd yn y Gyfraith yng Ngholeg y Presidency Calcutta.[2]
Bu'n gwasanaethu fel Ynad Heddwch dros Sir Benfro o 1895 i 1906
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol etholaeth Penfro a Hwlffordd yn etholiad cyffredinol 1892 gan lwyddo cipio'r sedd oddi wrth Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol. Collodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1895 gan gael ei drechu gan yr ymgeisydd Ceidwadol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ landedfamilies.blogspot.co.uk; adalwyd 13 Mehefin 2017.
- ↑ tudalen 425 The India List and India Office List for 1905, Harrison & Sons Llundain 1905 [1] adalwyd 27 Ionawr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Richard Charles Mayne |
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd. 1892 – 1895 |
Olynydd: John Wimburn Laurie |