Ynys Vancouver
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 864,864 |
| Cylchfa amser | UTC−08:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | British Columbia |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 32,134 km² |
| Gerllaw | Y Cefnfor Tawel, Strait of Georgia |
| Cyfesurynnau | 49.63333°N 125.7°W |
| Hyd | 460 cilometr |
![]() | |
Ynys oddi ar arfordir gorllewinol Canada yw Ynys Vancouver (Saesneg: Vancouver Island, yn flaenorol Island of Quadra and Vancouver). Mae'n rhan o dalaith British Columbia, ac mae'r boblogaeth tua 750,000.
Mae'r ynys yn 454 km o hyd a 100 km o led, gydag arwynebedd o 32,134 km2; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Hi yw'r ynys fwyaf ar arfordir gorllewinol Gogledd America. Mynydd Golden Hinde ydy mynydd uchaf yr ynys, 2,200m o uchder.[1] Gwahenir yr ynys o'r tir mawr gan Gulfor Georgia, Gulfor Queen Charlotte, Gulfor Johnstone a Chulfor Juan de Fuca. Mae sawl llyn ar yr ynys, gan gynnwys Llyn Nimpkish, Llyn Cowichan, Llyn Buttle, Llyn Sproat,, Llyn Great Central a Llyn Campbell.[2] Dinas fwyaf yr ynys yw Victoria, sydd hefyd yn brifddinas British Columbia.
Mae 5 y cant o boblogaeth yr ynys yn bobl brodorol, a siaredir ieithoedd Salishan a Wakashan o hyd.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Daeth fforwyr o Sbaen, Ffrainc, Rwsia, Prydain a'r Unol Daleithiau i'r ynys yn ystod y 18g, gan gynnwys James Cook a George Vancouver.[2]
Ym 1843, penderfynodd Cwmni Bae Hudson adeiladu caer, a thyfodd cymuned o gwmpas Caer Fictoria. Daeth yr ynys yn diriogaeth Prydeinig ar ôl Cytundeb Washington ym 1846. a daeth yn wladfa Prydeinig ym 1849. Daeth yn rhan o Golumbia Brydeinig ym 1866, a daeth Columbia Brydeinig yn rhan o Ganada ym 1871.[2]
Darganfuwyd glo ar yr yn y 1850au, ac roedd amaethyddiaeth yn bwysig ar dir isel y dwyrain, yn arbennig o gwmpas Duncan, Courtenay a Comox. Mae'r ynys yn nodweddiadol am ei fforest law gymedrol, ac adeiladwyd melinau coed ym Mhorth Alberni ac yn Chemainus.[2]
Cludiant
[golygu | golygu cod]
Adeiladwyd Rheilffordd Esquimault a Nanaimo ym 1886.
Mae Fferrïau BC yn cynnig rhwydwaith eang o wasanaethau rhwng Ynys Vancouver, y tir mawr ac ynysoedd llai'r ynysfor.[3]
Mae BC Transit yn cynnig gwasanaethau bws dros Columbia Brydeinig, gan gynnwys Ynys Vancouver.[4]
Mae Maes Awyr Rhyngwladol Victoria yn ymyl Sidney, ar Benrhyn Saanich.[5] Mae meysydd awyr eraill yn Nanaimo , Campbell River, Porth Hardy a Comox. Yn ogystal, mae gwasanaethau awyrennau mor yn ddefnyddio'r porthladdoedd a llynnau.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan hellobc". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 2015-10-29.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Gwefan thecanadianencyclopedia
- ↑ Gwefan Fferrïau BC
- ↑ Gwefan BC Transit
- ↑ Gwefan Maes Awyr Rhyngwladol Victoria
