Pontarddulais

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pontardulais)
Pontarddulais
Mathtref Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iCobh Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPontarddulais Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.71°N 4.04°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN589037 Edit this on Wikidata
Cod postSA4 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRebecca Evans (Llafur)
AS/auTonia Antoniazzi (Llafur)
Map

Tref a chymuned yn Sir Abertawe yn ne Cymru yw Pontarddulais (neu Pontardulais). Fe'i lleolir 16 cilomedr (10 milltir) i ogledd-orllewin canol dinas Abertawe.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rebecca Evans (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Tonia Antoniazzi (Llafur).[1][2]

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Pontraddulais yw cartref Côr Meibion Pontarddulais, a sefydlwyd yn 1960 ac sydd wedi enill sawl cystadleuaeth gerddorol ac sydd wedi perfformio mewn sawl gwlad.

Ymosodiad Rebeca[golygu | golygu cod]

Yma ar 6 Gorffennaf 1843 yr ymosododd oddeutu 200 o bobl ar Dollborth Bolgoed, fel rhan o Helyntion Beca. Yr arweinydd oedd crydd a bardd lleol o'r enw Daniel Lewis (enw barddol: Petrys Bach). Fe'i bradychwyd, yn ôl yr hanes, ond osgôdd gael ei ddanfon i Awstralia. Ceir cofeb i'r digwyddiad yn y lleoliad hwn - ger Tafarn y Ffynnon heddiw.[3]

Gwaith atal llifogydd[golygu | golygu cod]

Cynllun atal llifogydd Pontarddulais

Yn 2018 agorwyd gwaith atal llifogydd Pontarddulais gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Pobl o'r dref[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pontarddulais (pob oed) (6,281)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pontarddulais) (1,910)
  
31.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pontarddulais) (5400)
  
86%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Pontarddulais) (949)
  
35.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gefeilldrefi[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan Saesneg y BBC; adalwyd 6 Gorffennaf 2015
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-06-04. Cyrchwyd 2011-05-28.
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-19. Cyrchwyd 2011-05-28.