Garry Owen

Oddi ar Wicipedia
Garry Owen
GanwydDavid Garry Owen Edit this on Wikidata
4 Mai 1958 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr darlledu, cyflwynydd newyddion, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr a chyflwynydd teledu a radio Cymreig yw Garry Owen (ganwyd 4 Mai 1958). Rhwng 2012 a 2019 bu'n cyflwyno y rhaglen ddyddiol Taro'r Post ar BBC Radio Cymru a chyn hynny roedd yn cyflwyno Post Cyntaf ar yr orsaf.

Bu'n brif angor ar rhaglen Newyddion ar S4C a mae'n cyflwyno bwletinau newyddion teledu ar BBC Cymru yn achlysurol.

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd David Garry Owen ym Mhontarddulais, mynychodd Ysgol Pontarddulais ac Ysgol Gyfun Ystalyfera, ac aeth ymlaen i astudio'r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedi graddio, symudodd i Lanelli i weithio gyda chwmni o gyfreithwyr lle cyfarfu a'i ddarpar wraig. Erbyn hyn mae e'n byw yn yr Hendy.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gweithiodd fel cyflwynydd opera a newyddion ar radio Sain Abertawe am wyth mlynedd. Ymunodd â BBC Radio Cymru fel gohebydd yn Abertawe.[1]

Owen oedd cyflwynydd yr apêl elusenol cyntaf i gael ei ddarlledu yn y Gymraeg ar y teledu, pan gyflwynodd apêl argyfwng Darfur a Chad ym mis Mai 2007.[2]

Daeth rhaglen Taro'r Post i ben yn mis Hydref 2019, wedi ei ddisodli gan rhaglen newydd Dros Ginio.[3] Yn mis Tachwedd 2019 cafodd Garry swydd newydd fel 'gohebydd arbennig' Radio Cymru yn teithio o gwmpas gwledydd Prydain i ohebu a thrafod pynciau'r dydd.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n byw yn yr Hendy ac yn briod gyda Lee sy'n gyfreithwraig. Mae ganddyn nhw ddau o blant.[1] Cafodd Owen ei urddo i wisg wen gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2  Cyflwynwyr: Garry Owen. BBC Radio Cymru.
  2.  Apêl argyfwng Darfur a Chad. S4C (24 Mai 2007).
  3. Rhaglen Taro’r Post – gyda Garry Owen – yn dod i ben , Golwg360, 11 Medi 2019. Cyrchwyd ar 24 Ionawr 2020.
  4. Her newydd i Garry mewn cyfnod cyffrous yn wleidyddol , BBC Cymru Fyw, 8 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 24 Ionawr 2020.
  5.  Yr Orsedd i urddo Archesgob Cymru. BBC (26 Mehefin 2002).