Montréal
Arwyddair | Concordia Salus |
---|---|
Math | city or town, metropolis, territory outside RCM, tref goleg |
Enwyd ar ôl | Mount Royal |
Poblogaeth | 1,762,949 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Valérie Plante |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00 |
Gefeilldref/i | Alger, Amsterdam, Casablanca, Managua, Port-au-Prince, Hanoi, Manila, Beersheba, Hiroshima, Milan, San Salvador, Dinas Brwsel, Lucknow, Amman, Athen, Barcelona, Beirut, Hannover, Harrisburg, Los Angeles, Shanghai, Yerevan, Tiwnis, Busan, Bwcarést, Cali, Los Mochis, Honolulu County, Montréal-la-Cluse, Monterrey |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Greater Montreal, Urban agglomeration of Montreal |
Sir | Urban agglomeration of Montreal |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 498 km² |
Uwch y môr | 31 metr |
Gerllaw | Rivière des Prairies, Afon St Lawrence, St. Lawrence Seaway, Lake of Two Mountains, Lac Saint-Louis |
Yn ffinio gyda | Longueuil, Saint-Lambert, Westmount, Montréal-Est, Mount Royal, Hampstead, Sainte-Anne-de-Bellevue, Candiac, Sainte-Catherine, Laval, Dorval, Kirkland |
Cyfesurynnau | 45.5089°N 73.5617°W |
Cod post | H |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Montreal |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Montreal |
Pennaeth y Llywodraeth | Valérie Plante |
Sefydlwydwyd gan | Paul de Chomedey, Sieur de Maisonneuve, Jeanne Mance |
Ail ddinas Canada a dinas fwyaf rhanbarth Québec yw Montréal (Saesneg: Montreal). Hon yw'r ddinas Ffrangeg fwyaf yng Ngogledd America, a'r ail ddinas Ffrangeg yn y byd ar ôl Paris. Yn ôl Cyfrifiad Canada 2001, mae ganddi 1,583,590 o drigolion, tra bod 3,635,700 o bobl yn byw yn Montréal Fawr (amcangyfrif 2005). Lleolir Montréal ar ynys (Ynys Montréal) yng nghanol Afon St Lawrence yn ne-orllewin Québec, tua 1600 km i'r gorllewin o Gefnfor Iwerydd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r ddinas yn dyddio i gyfnod cyn i Ewropeaid wladychu Canada: pan gyrhaeddodd yr Ewropeaid cyntaf, wedi'u harwain gan y fforiwr Llydaweg Jacques Cartier, Ynys Montréal yn 1535, roedd pentref Iroquois Hochelaga yno yn barod. Mae'r wladfa Ffrangeg gyntaf (Ville-Marie) ar yr ynys yn dyddio i 1642. Cwympodd y dref i ddwylo byddin Prydain yn 1760. Ffynnodd y ddinas fel canolfan y fasnach ffwr yn y blynyddoedd wedyn. Cafodd ei hymgorffori fel dinas ym 1832, gan dyfu fel canolfan ddiwydiannol yn hanner cynta'r 19g. Heddiw mae'r ddinas yn ganolfan fasnachol, ddiwydiannol, ddiwylliannol ac ariannol. Mae'n ddinas amlddiwylliannol hefyd: tra bod mwyafrif y boblogaeth (69%) yn Ganadaidd Ffrangeg o ran iaith a diwylliant, mae tua 12% yn Ganadaidd Saesneg a'r gweddill (19%) yn perthyn i wahanol ddiwylliannau (Eidaleg, Arabeg, Sbaeneg, Tsieineeg a Groeg). Mae rhan fwyaf trigolion y ddinas yn ddwyieithog mewn Ffrangeg a Saesneg (o leiaf). Cynhaliwyd yr arddangosfa Expo yn y ddinas ym 1967, a'r Gemau Olympaidd yno ym 1976.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Basilica Notre-Dame de Montréal
- Biosphere[1]
- Cathédrale Marie-Reine-du-Monde (eglwys gadeiriol)
- Habitat 67
- Marchnad Bonsecours
- Pont Jacques Cartier
- Tour de la Bourse
- Université de Montréal (prifysgol)
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Diwylliant
[golygu | golygu cod]Trafnidiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Montréal yn borth bwysig i longau ar y ffordd i Gefnfor Iwerydd. Lleolir maes awyr mwyaf Québec, Maes Awyr Pierre Elliott Trudeau, ger canol y ddinas.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Norma Shearer (1902-1983), actores
- Saul Bellow (1915-2005), nofelydd
- Colleen Dewhurst (1924-1991), actores
- Leonard Cohen (g. 1934), canwr a bardd
- Brian Mulroney (g. 1939), gwleidydd
- Céline Dion (g. 1968), cantores
- Rufus Wainwright (g. 1973), cerddor
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Canol y Ddinas
-
Canol y Ddinas
-
Montréal o Mont Royal
-
Montréal o Mont Royal
-
Eglwys Gadeiriol Anglicanaidd Eglwys Crist
-
Marchnad Bonsecours yn yr Hen Dref
-
Place Jacques Cartier
-
Pont Jacques Cartier
- ↑ "Things to Do in Montreal". Miss Tourist.