Beersheba
| Math | dinas, dinas fawr, cyrchfan i dwristiaid |
|---|---|
| Poblogaeth | 209,000 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Ruvik Danilovich |
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Oni, Cebu City, Montréal, Winnipeg, Parramatta, Addis Ababa, Seattle, Adana, Cluj-Napoca, La Plata, Rosenheim, Wuppertal, Lyon, Niš, Huai'an, Bouaké |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Beersheba Subdistrict |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 117.5 km² |
| Uwch y môr | 260 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 31.2522°N 34.7867°E |
| Cod post | 84*** |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer |
| Pennaeth y Llywodraeth | Ruvik Danilovich |
![]() | |
Dinas fwyaf diffeithdir y Negev, de Israel, yw Beersheba, a chyfeirir ati'n fynych fel prifddinas y Negev yn y cyswllt hwn. Hyhi yw seithfed dinas fwyaf Israel gyda phoblogaeth o 206, 000 o bobl.
Daeth yn bwysig yn y 19g pan adeiladwyd gan yr Otomaniaid orsaf heddlu rhanbarthol yno. Cyn sefydlu gwladwriaeth Israel yn swyddogol, bwriadwyd i Feersheba bod yn rhan o wladwriaeth Balesteinaidd ar wahân. Ond wedi datgan bodolaeth swyddogol Israel gan y CU, meddianwyd y ddinas gan luoedd arfog yr Aifft, gan ysgogi Brwydr Beersheba. Fis Hydref 1948, gorchygwyd y ddinas gan Lu Amddiffyn Israel[1]. Ers hynny, mae'r ddinas wedi ffynnu a thyfu'n sylweddol.
Ystyr yr enw yw 'y saith ffynnon', am fod be'er yn yr Hebraeg yn golygu ffynnon, a sh'va, saith.

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Guide to Israel, Zev Vilnay, Hamakor Press, Jerusalem, 1972, tt.309–14
