Pont Jacques Cartier

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Pont Jacques Cartier
Jacques-Cartier bridge.JPG
Math cantilever bridge, pont ffordd, metal bridge Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Jacques Cartier Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 Mai 1930 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Afon St Lawrence Edit this on Wikidata
Lleoliad Longueuil Edit this on Wikidata
Sir Ville-Marie, Le Vieux-Longueuil Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Canada Canada
Cyfesurynnau 45.5208°N 73.535°W Edit this on Wikidata
Hyd 2,687 metr Edit this on Wikidata
Perchnogaeth Federal Bridge Corporation Edit this on Wikidata
Deunydd Dur Edit this on Wikidata

Pont ddur sy'n rhychwantu Afon Sant Laurent ym Montréal, Canada. Mae'n cysylltu canol y ddinas (Ynys Montréal) yn y gogledd â maesdref Longueuil y ddinas ar yr ochr ddeheuol.

Disgrifiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i hagorwyd i draffig ar 14 Mai 1930, gan gael ei hagor yn swyddogol ddeg diwrnod yn ddiweddarach. Ei henw gwreiddiol oedd Pont du Havre, ond cafodd ei hailenwi ym 1934 er parch am Jacques Cartier, y fforiwr Ewropeaidd cyntaf i ddarganfod Canada ym 1534, i ddathlu pedwarcanmlwyddiant darganfyddiad Canada. Cymerodd ddwy flynedd a hanner i'w hadeiladu. Heddiw mae'r bont yn dwyn tua 43 miliwn o gerbydau bob blwyddyn, mwy nag unrhyw bont arall yng Nghanada heblaw am Bont Champlain, sydd hefyd ym Montréal.

Rhan ogleddol Pont Jacques Cartier

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]