Martinique

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Martiniciaid)
Jump to navigation Jump to search
Martinique
Martinique 14.6346N 61.0051W Landsat7.jpg
BlasonMartinique.svg
Math Rhanbarthau Ffrainc, overseas department of France Edit this on Wikidata
Prifddinas Fort-de-France Edit this on Wikidata
Poblogaeth 380,877 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Serge Letchimy Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Antilles Leiaf, Windward Islands Edit this on Wikidata
Sir Ffrainc Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Arwynebedd 1,128 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 14.6667°N 61°W Edit this on Wikidata
FR-MQ Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Regional Council of Martinique Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Serge Letchimy Edit this on Wikidata
Arian Ewro Edit this on Wikidata
Martinique

Ynys yn nwyrain Môr y Caribî a Département tramor o Ffrainc yw Martinique.

Fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Dominica ac i'r gogledd o Sant Lwsia. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 397,732. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Fort-de-France, gyda phoblogaeth o 134,727 yn 1999, 35% o boblogaeth yr holl ynys. Dinasoedd eraill yw Le Lamentin, Sainte-Marie a Le Robert.

Saint-Pierre

Ffrangeg yw'r iaith swyddogol, ond mae bron pawb o'r trigolion hefyd yn siarad Créole Martiniquais.

Ar 8 Mai 1902, ffrwydrodd llosgfynydd Mont Pelée, a dinistriwyd prifddinas yr ynys yr adeg honno, Saint-Pierre, yn llwyr. Lladdwyd bron y cyfan o'i thrigolion, tua 30,000, gan gymylau o lwch folcanig chwilboeth; dywedir mai dim ond dau o drigolion Saint-Pierre a adawyd yn fyw.