John Hugh Edwards

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Hugh Edwards
J-Hugh-Edwards.jpg
Ganwyd 9 Ebrill 1869 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Mehefin 1945 Edit this on Wikidata (76 oed)
Ysbyty iechyd meddwl Holloway Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, gweinidog, Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd J. Hugh Edwards (9 Ebrill, 1869 - 14 Mehefin 1945) yn weinidog yn enwad yr Annibynwyr, yn awdur, yn olygydd, yn fargyfreithiwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Canol Morgannwg, Castell-nedd ac Accrington[1].

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Edwards yn Aberystwyth yn fab i John Edwards, marsiandwr gwlanen a Mary (née Evans) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Masnachol a Gramadegol Aberystwyth [2] a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae peth dryswch parthed ei gyfnod fel myfyriwr. Mae cofiant iddo yn y cylchgrawn Christian World yn dweud iddo gael gyrfa ddisglair yn y brifysgol; mae o'n cael ei ddisgrifio fel y Parch J. H. Hughes BD MA mewn gohebiaeth gan un o'i ofalaethau, ond yn ôl y mynegai i weinidogion annibynnol yn Llyfrgell Dr Williams methodd a graddio 6 gwaith[3]. Bu'n fyfyriwr, boed llwyddiannus neu beidio, yn Aberystwyth rhwng 1891 a 1897[4]. Yn y brifysgol gwasanaethodd mewn nifer o swyddi yn y gymdeithas ddadlau. Bu hefyd yn gyfrannwr rheolaidd i'r dadleuon gan fagu enw fel areithiwr huawdl dros achosion rhyddfrydiaeth a chenedlaetholdeb Cymreig. Tra'n fyfyriwr sefydlodd y cylchgrawn cenedlaetholgar Young Wales, cylchgrawn a ddisgrifiwyd gan Lloyd George fel un o'r asedau mwyaf at ddatblygu ysbryd cenedlaethol Cymru. Bu'n olygydd Young Wales o'i sefydlu ym 1895 hyd 1904 [5].

Gweinidogaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1897 cafodd Edwards wahoddiad i fod yn weinidog ar Eglwys Annibynnol Saesneg y Drenewydd.[6]. Derbyniodd yr alwad ond gofynnodd am ohirio cychwyn y gwaith am gyfnod o dri mis. Wedi gofyn am ohiriadau pellach ni chafodd ei ordeinio'n weinidog ar y capel hyd 1899 [7]. O fewn ychydig fisoedd o gychwyn ar ei weinidogaeth gofynnodd am gyfnod o absenoldeb er mwyn ysgrifennu cofiant i Tom Ellis, Prif Chwip y Blaid Ryddfrydol, a fu farw ym mis Ebrill 1899.

Ym mis Ionawr 1904 cafodd wahoddiad i fod yn weinidog ar Gapel Annibynnol, Dulwich Grove yn Ne Llundain. Derbyniodd y gwahoddiad ond fel ag yn achos y Drenewydd bu ohirio cyn iddo ddechrau ar ei waith. Ar ôl dwy flynedd bu anghydfod rhwng y gweinidog a blaenoriaid y capel. Yn wahanol i'r gynulleidfa yn y Drenewydd roedd rhai o'r aelodau yn anfodlon bod y gweinidog yn treulio cymaint o amser ar wleidyddiaeth ar draul ei waith bugeiliol. Gofynnodd ysgrifennydd y capel iddo ymddiswyddo ac fe gytunodd. Gwrthododd aelodau'r capel, dan arweiniad mab yr ysgrifennydd dderbyn yr ymddiswyddiad. Mynnodd Edwards barhau gyda'r ymddiswyddiad a gadawodd Eglwys rhwygedig Dulwich Grove yng Ngwanwyn 1908. Ym mis Ionawr 1908 derbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog ar gapel Annibynnol Hanover, Peckham, un o gapeli Annibynnol hynaf Lloegr. Ond eto, roedd yn trulio mwy o amser ar ei ddiddordebau gwleidyddol nag ar ei ddyletswyddau bugeilio. Bu hefyd yn defnyddio ei gyfnod yn Hanover i astudio'r gyfraith gan gael ei alw i'r bar yn y Deml Ganol ym 1910.

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1894 etholwyd Edwards i Gyngor tref Aberystwyth, ym 1898 fe'i etholwyd i Gyngor Sir Ceredigion dros ward Trefeurig.[8]

Treuliodd Edwards fis Ionawr 1910 yn ymgyrchu gyda Lloyd George ym Mwrdeistrefi Arfon. Wedi'r etholiad bu'n cymryd rhan mewn ymgyrch gwrth sosialaidd yng nghymoedd y de lle bu ef, Clement Edwards a'r Parch W F Phillips yn annerch cyfarfodydd o anghydffurfwyr gan geisio eu perswadio bod sosialaeth yn groes i ddysgeidiaeth Crist. Bu'r holl ymgyrchu yn dod ag Edwards i sylw Cymdeithasau Rhyddfrydol fel ymgeisydd addas i'r senedd. Roedd rhai'n credu y byddai gweinidog arall yn sefyll yn erbyn y Parch John Williams aelod Llafur Gŵyr yn tynnu'r bleidlais anghydffurfiol yn ôl i'r Rhyddfrydwyr. Ym mis Tachwedd 1910 dywedodd AS Rhyddfrydol Canol Morgannwg, Frederick William Gibbins nad oedd am amddiffyn ei sedd yn yr etholiad nesaf [9]. Rhoddwyd enw Edwards gerbron cymdeithasau Rhyddfrydol y ddwy etholaeth, ac fe'i dewiswyd fel ymgeisydd Canol Morgannwg.[10]. Yn yr etholiad llwyddodd Edwards i drechu'r ymgeisydd Llafur gyda mwyafrif o 1,552 pleidlais.[11].

Oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf ni fu etholiad rhwng 1910 a 1918. Diddymwyd sedd Ganol Morgannwg ar gyfer etholiad 1918. Dewiswyd Edwards fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol ar gyfer etholaeth newydd Castell Nedd. Gweinidog arall o Lundain oedd ei wrthwynebydd Llafur sef y Parch Herbert Morgan, gweinidog capel Bedyddwyr Castle Street, y capel roedd Lloyd George yn ei fynychu yn Llundain. Bu ymgyrch Edwards yn 1910, yn datgan bod sosialaeth a Christionogaeth yn anghydnaws, yn hynod lwyddiannus. Byddai'n anodd iddo ail adrodd y dacteg yn etholiad 1918 efo'r gweinidog ar gapel Lloyd George yn wrthwynebydd iddo. Byddai galw bugail capel arweinydd ei blaid yn heretic neu'n anffyddiwr oedd a'i draed ar y ffordd i'r Uffern ddim yn dacteg dda. Ond gan fod Morgan yn Heddychwr a oedd yn gwrthwynebu'r Rhyfel llwyddodd Edwards i'w guro gyda mwyafrif mawr.

Etholiad cyffredinol 1918 Castell Nedd[12]

Nifer y pleidleiswyr 38,929

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Rhyddfrydol Parch John Hugh Edwards 17,818 64.8
Llafur Parch. Herbert Morgan 9,670 35.2
Mwyafrif 8,148 29.6
Y nifer a bleidleisiodd 70.6

Yn y Senedd gwasanaethodd Edwards ar Is-bwyllgor y farnwriaeth ac ar Gynhadledd y Llefarydd ar Lywodraeth i Gymru a'r Alban (cynhadledd i ystyried sut i gyflwyno datganoli i'r ddwy wlad).[13].

Mewn cyfnod o Ryfel Cyffredinol roedd yn orfodol i gyflwyno mesurau nad oeddynt yn rhyddfrydig iawn. Roedd pobl yn fodlon derbyn y fath drefn mewn argyfwng. Penderfynodd Lloyd George i barhau gyda chlymblaid y rhyfel wedi 1918. Ceidwadwyr oedd y mwyafrif yn y glymblaid oedd am barhau efo polisïau o reolaeth lem ar y boblogaeth ond Lloyd George oedd y Prif Weinidog felly'r Rhyddfrydwyr cafodd y bai. Ar ben hyn doedd dim llawer o dystiolaeth bod y Wlad Ffit i Arwyr a addawyd i'r milwyr ar y gorwel. Daeth y glymblaid i ben oherwydd i'r Ceidwadwyr dynnu sylw at nifer o sgandalau yng nghylch Lloyd George gan gynnwys y modd yr oedd yn gwerthu anrhydeddau. Canlyniad hyn oll oedd etholiadau trychinebus i'r Rhyddfrydwyr ym 1922. Collodd ddwy ran o dair o'i phleidlais a thri chwarter ei aelodau[4]; a ni fu adferiad byth i'r blaid. Ymysg y rhai i golli ei sedd oedd J Hugh Edwards.

Bu etholiad arall ym 1923 a safodd Edwards fel yr ymgeisydd yn etholaeth Accrington, Swydd Caerhirfryn. Roedd y sedd yn nwylo'r Blaid Lafur ers 1922 ond fe lwyddodd Edwards i'w chipio'n ôl i'r Rhyddfrydwyr, cadwodd y sedd yn etholiad cyffredinol 1924 ond fe gollodd i'r ymgeisydd Llafur yn etholiad 1929. Dyna oedd y tro olaf iddo sefyll fel ymgeisydd seneddol.

Wedi'r senedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Edwards wedi prynu tŷ yn Purley, Surry ym 1920 ac aeth i fyw yno wedi colli ei sedd[14]. Bu'n aelod o gynghorau lleol ac yn gwasanaethu fel ynad heddwch. Gwasanaethodd fel aelod o gynghorau Prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd ac fe fu'n un o lywodraethwyr y Llyfrgell Genedlaethol[15]. Ei brif waith ar ôl ei gyfnod seneddol oedd fel awdur llyfrau ac erthyglau i gyfnodolion gwleidyddol a chrefyddol.

Priodas a marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ystod ei gyfnod yn y senedd bu Edwards yn aelod o glwb cinio'r dynion di-briod, ond ym 1933, yn 63 mlwydd priododd Doris Faire merch Syr Donald Faire.

Ym mis mai 1945 aed ag Edwards i ysbyty iechyd meddwl Holloway Sanatorium. Bu farw yn yr ysbyty ar 14 Mehefin 1945 yn 76 mlwydd oed. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Sant Luke, Grayshott, Hampshire[4].

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Clawr y Cylchgrawn New Wales
  • From Village Green to Downing Street. Life of D. Lloyd George (Llundain, 1908)
  • Life of David Lloyd George; with a short history of the Welsh People , 4 cyfrol (Llundain, 1913-19 )
  • David Lloyd George, the man and the statesman , 2 cyfrol (Efrog Newydd, 1929)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur - EDWARDS , JOHN HUGH (1869 - 1945), gwleidydd ac awdur adalwyd 24/03/2018
  2. "THE COMMERCIAL AND GRAMMAR SCHOOL ABERYSTWYTH - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1891-07-31. Cyrchwyd 2018-04-24.
  3. Index of Congregational Ministers, Cerdyn Rhif No. 215, Llyfrgell Dr Williams', Llundain
  4. 4.0 4.1 4.2 Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Cyfrol 33, rhif 1, Haf 2003 THE IMMACULATE JOHN HUGH: JOHN HUGH EDWARDS (1869-1945) adalwyd 24/03/2018
  5. "WELSH GOSSIP - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1895-01-03. Cyrchwyd 2018-04-24.
  6. "MwyMmtCymreig - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1897-08-26. Cyrchwyd 2018-04-23.
  7. "WELSH GOSSIP - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1899-04-04. Cyrchwyd 2018-04-23.
  8. "COUNTY COUNCIL ELECTION - The Aberystwith Observer". David Jenkins. 1898-04-07. Cyrchwyd 2018-04-23.
  9. "MID GLAMORGAN SURPRISE - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1910-11-18. Cyrchwyd 2018-04-23.
  10. "MID GLAMORGAN - The Cambrian News and Merionethshire Standard". John Askew Roberts, Edward Woodall & Richard Henry Venables. 1910-12-02. Cyrchwyd 2018-04-23.
  11. "MID GLAMORGAN - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1910-12-09. Cyrchwyd 2018-04-23.
  12. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  13. Charmley, G. (2011-05-19). Edwards, John Hugh (1869–1945), Congregational minister and politician. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 23 Ebrill 2018
  14. Who's Who in Wales 1933 tud 54; A G Reynolds & Sons London; Llundain 1933
  15. Edwards, John Hugh, (m. 14 Mehefin 1945), JP Surrey. WHO'S WHO & WHO WAS WHO adalwyd 23 Ebrill 2018
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Frederick William Gibbins
Aelod Seneddol Canol Morgannwg
19101918
Olynydd:
diddymu'r sedd
Rhagflaenydd:
Sedd newydd
Aelod Seneddol Castell-nedd
19181922
Olynydd:
William Jenkins
Rhagflaenydd:
Charles Roden Buxton
Aelod Seneddol Accrington
19231929
Olynydd:
Tom Snowden