James Idwal Jones

Oddi ar Wicipedia
James Idwal Jones
Ganwyd30 Mehefin 1900 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1982 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadegol Rhiwabon Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd James Idwal Jones (30 Mehefin 190018 Hydref 1982) yn brifathro ac yn wleidydd Plaid Lafur Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Wrecsam.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mrs Jones, Ponciau, Rhosllannerchrugog, Mam T. W. Jones, AS ac Idwal Jones, AS (5471095372)

Ganwyd Jones yn y Ponciau yn fab i James Jones, glöwr ac Elizabeth (née Bowyer), ei wraig. Roedd AS Meirionydd, T. W. Jones, Arglwydd Maelor yn frawd hŷn iddo. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Rhiwabon, bu'n ddisgybl athro yn Ysgol Genedlaethol y Bers ym 1918[2] cyn cymhwyso fel athro trwyddedig yng Ngholeg y Normal, Bangor. Ym 1936 enillodd gradd BSc (Econ) fel efrydydd allanol ym Mhrifysgol Llundain.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gweithio fel athro ym 1922 gan weithio mewn nifer o ysgolion yn ardal Wrecsam megis yr Holt, Pen y Cae ac Ysgol Uwchradd Fodern y Grango, Rhosllannerchrugog lle cafodd ei benodi'n brifathro ym 1938.[3]

Yn ogystal â bod yn athro roedd Jones hefyd yn Gweinidog lleyg ar Gapel Calfaria'r Bedyddwyr Albanaidd, y Rhos gan gael ei ordeinio ym 1924, parhaodd gyda'i ddyletswyddau fel gweinidog trwy gydol ei yrfa seneddol.[4]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Safodd Jones yn etholaeth Dinbych yn enw'r Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 1951 yn aflwyddiannus. Dewiswyd ef fel ymgeisydd Llafur etholaeth Wrecsam ar gyfer isetholiad a achoswyd drwy farwolaeth yr AS Llafur Robert Richards ar ddiwedd 1954 gan ddod yn fuddugol a chadw'r sedd o 1955 hyd ei ymddeoliad o'r senedd ym 1970. Gwasanaethodd fel Cadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig (pwyllgor o holl ASau Cymru) ym 1957-1958, ac yn gadeirydd Grŵp Llafur Cymru ym 1960-1961; bu'n aelod o'r pwyllgor seneddol ar ddiwygio cyfraith etholiadol ym 1965[5] a arweiniodd at Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1969 a newidiodd yr oedran bleidleisio o 21 i 18 mlwydd oed, er bod Jones ei hun wedi siarad yn erbyn gostwng yr oedran yn y Senedd[6].

Fel ei frawd ystyrid J Idwal Jones yn un o griw "cenedlaetholgar" Y Blaid Lafur Seneddol ynghyd â Goronwy Roberts, Cledwyn Hughes, Jim Griffiths ac ati, er hynny fu'n galw am ymddiswyddiad Huw T. Edwards o'r Blaid Lafur am feirniadu Hugh Gaitskell am ei ddiffyg cefnogaeth i ddatganoli Gymreig a'r Iaith Gymraeg ac yn ystod isetholiad 1955 ysgrifennodd lythyr i'r Daily Post i ddweud nad oedd yn gweld manteision Senedd i Gymru.[7]

Cafodd trychineb glofa Gresffordd effaith mawr ar Jones gan iddo golli nifer o gydnabod, gan gynnwys rhai o'i gyn disgyblion yn y danchwa. Credai mai'r ffordd orau o amddiffyn y bobl rhag y fath erchylltra oedd datblygu diwydiannau amgen mwy diogel a bu'n weithgar yn ceisio denu diwydiannau newydd i ardal Wrecsam. Cafodd ei feirniadu gan rhai aelodau o'r Blaid Lafur ac Undeb y Glowyr am beidio gwneud digon i amddiffyn maes glo Gogledd Cymru a bu ymgais aflwyddiannus i'w ddad-ddewis fel yr ymgeisydd cyn etholiad 1966. Ymddeolodd o'r Senedd ar adeg etholiad 1970.[5]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Priododd Catherine Humphreys ym 1931 bu iddynt un mab ac un ferch, bu farw'r ferch yn ifanc. Roedd y teulu'n byw yn y Ponciau yn y tŷ drws nesaf i'w brawd.

Roedd Jones yn ffotograffydd ac arlunydd amatur, gan gael ei ddisgrifio gan yr AS Ceidwadol Geraint Morgan fel yr arlunydd amatur gorau yn Nhŷ'r Cyffredin[8]. Cyflwynwyd un o'i luniau Yr Afon Artro i'r Swyddfa Gymreig ym 1965, mae copi o'r llun i'w gweld ar wefan Casgliad Celf y llywodraeth Archifwyd 2012-08-03 yn y Peiriant Wayback.. Bu'n llywydd y pwyllgor celf ar adeg ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol i Rhos ym 1945 a chafodd ei urddo i'r wisg wen yng Ngorsedd y Beirdd.

Bu farw yn ei gartref yn y Rhos ym 1982 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y pentref.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • A Geography of Wales (1938) 
  • An Atlas of Denbighshire (1950)
  • Atlas Hanesyddol Cymru (1952; argraffiad newydd, 1972) 
  • A Geographical Atlas of Wales(1955)
  • A Historical Atlas of Wales (1955) 
  • A New Geography of Wales (1960)
  • J. R. Jones (Ramoth) a'i Amserau (1967)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "JONES, JAMES IDWAL (1900-1982)", Y Bywgraffiadur; adalwyd 27 Mehefin 2016
  2. Bersham School 1868 - 1961 adalwyd 27 Mehefin 2016
  3. JONES, James Idwal’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 27 Mehefin 2016
  4. Baptist Members of Parliament tud 18/36 adalwyd 27 Mehefin 2016
  5. 5.0 5.1 K. Gildart, & D. Howell Dictionary of Labour Biography, Cyfrol 13 tud 180-188
  6. Hansard HC Deb 26 November 1968 vol 774 cc309-429 Voting Age Archifwyd 2016-08-19 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 27 Mehefin 2016
  7. Llythyrau Daily Post 8 Mawrth 1955
  8. W Geraint Morgan Denbighshire Members of Parliament in the 20th Century Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych 1971
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Robert Richards (Aelod Seneddol)
Aelod Seneddol Wrecsam
19551970
Olynydd:
Tom Ellis