Robert Richards (Aelod Seneddol)

Oddi ar Wicipedia
Robert Richards
Ganwyd7 Mai 1884 Edit this on Wikidata
Llangynog, Powys Edit this on Wikidata
Bu farw22 Rhagfyr 1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Robert (Bob) Richards (7 Mai 188422 Rhagfyr 1954) yn Aelod seneddol ar dri achlysur rhwng 1929 a 1954 ar ran Y Blaid Lafur ac yn Athro Economeg ym Mhrifysgol Bangor.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Richards ym 1884 yn Llangynog, Sir Drefaldwyn yn fab i John Richards, chwarelwr ac Ellen ei wraig.[1]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llangynog ac Ysgol y Sir Llanllyfni; cyd ddisgybl iddo yn ysgol Llanfyllin oedd Clement Davies a ddaeth yn AS Rhyddfrydol dros Sir Drefaldwyn ac yn arweinydd y Blaid Ryddfrydol. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth o 1903 i 1906 dilynodd gyrsiau gradd mewn gwyddor gwleidyddiaeth, Lladin, Ffrangeg ac athroniaeth gan ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn gwyddor gwleidyddiaeth. Ar ôl cwblhau ei gwrs yn Aberystwyth aeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt lle enillodd radd BA gydag Anrhydedd mewn Economeg [2]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Llafur etholaeth Wrecsam am dri chyfnod. Cipiodd y sedd am y tro cyntaf yn Etholiad Cyffredinol 1922 gan ddisodli'r Rhyddfrydwyr, cadwodd y sedd yn Etholiad Cyffredinol 1923. Gwasanaethodd fel Is Ysgrifennydd Seneddol dros yr India yn y Llywodraeth Lafur cyntaf o dan Brif Weinidogaeth Ramsay MacDonald. Collodd ei sedd i Christmas Price Williams yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn Etholiad cyffredinol 1924. Cafodd Richards ei ail-ethol yn Etholiad Cyffredinol 1929, ond collodd y sedd eto ddwy flynedd yn ddiweddarach yn Etholiad Cyffredinol 1931 i'r ymgeisydd Ryddfrydol Aled Owen Roberts. Yn etholiad 1935 adenillodd y sedd eto a bu'n gwasanaethu fel AS Wrecsam hyd ei farwolaeth.

Cafodd gynnig i ymadael a'i waith Seneddol trwy gael ei benodi yn Llywodraethwr Frenhinol Malta a'i ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ond gwrthododd derbyn y cynigion.

Arweiniodd Ddirprwyaeth Seneddol i'r India ym 1946 i edrych ar drefniadau rhoi Annibyniaeth i'r India a Phacistan yn ôl Jinnah a Gandhi bu ei ddirprwyaeth yn foddion i esmwytháu’r broses honno.

Er gwaethaf ei waith yn esmwytháu proses annibyniaeth i'r India yr oedd yn gwbl wrthwynebus i unrhyw fath o hunain lywodraeth na datganoli i Gymru.

Gyrfa academaidd[golygu | golygu cod]

Tu allan i'w gwaith gwleidyddol bu Roberts yn ddarlithydd mewn economeg wleidyddol ym Mhrifysgol Glasgow o 1909 i 1911. Tra yng Nglasgow cyfieithodd gwaith yr economegwyr Ffrenig Charles Gide a Charles Rist fel A History of Economic Doctrines; ail gyhoeddwyd ei gyfieithiad dros 15 o weithiau yn ystod ei oes ac roedd yn parhau i fod mewn print hyd y flwyddyn 1979.

Yn 1911 fe'i penodwyd fel darlithydd efrydiau allanol llawn amser cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor, ac fe fu'n cynnal darlithoedd am bynciau megis Economeg, Hanes Ewrop a Gwyddor Llywodraeth mewn trefi a phentrefi ar hyd Gogledd Cymru. Ym 1916 cafodd ei secondio i'r Swyddfa Ryfel a'r Bwrdd Amaeth i gyfrannu at waith y wladwriaeth yng Nghyfnod Y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi'r cadoediad dychwelodd i'w gwaith ym Mhrifysgol Bangor gan gael ei ddyrchafu'n bennaeth Adran economeg y Brifysgol.

Fel ategiad i'w waith fel darlithydd allanol penderfynodd bod angen cylchgrawn Cymraeg i egluro pynciau megis economeg, athroniaeth, gwyddoniaeth a phynciau tebyg i'r werin ddysgedig; i'r perwyl hwnnw golygodd 4 rhifyn o Y Tyddynwr ym 1922 a 1923. Profodd y Tyddynwr yn gylchgrawn poblogaidd ond gan fod Richards yn ceisio ysgrifennu'r rhan fwyaf o'i gynnwys yn hytrach na golygu cyfraniadau gan eraill profodd yr arbrawf yn drech nag ef.

Yn ystod ei gyfnod allan o'r Senedd 1931 hyd 1935 fe fu yn diwtor mewn economeg a gwyddor gwleidyddiaeth yng Ngholeg Harlech .[3]

O bosib, ei gyfraniad pwysicaf i fywyd academaidd Cymru oedd cyhoeddi ei gampwaith Cymru'r Oesoedd Canol gan Hughes a'i Fab ym 1933 cyfrol sy'n ymdrin â phob agwedd o fywyd cymdeithasol Cymru yn ystod y cyfnod dan sylw.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

O 1935 hyd ei farwolaeth bu Richards yn Cadlywydd Lluoedd Amddiffyn Sifil Gogledd Cymru. Priododd Mary Myfanwy Owen ym 1918 ond ni chawsant blant. Bu farw yn ei gartref Brynglas, Llangynog ar Ragfyr 24in 1954 a'i gladdu ym mynwent Peniel (MC), Llangynog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-RICH-ROB-1884.html
  2. Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion - 1955 1956 Coffâd : Robert Richards, M.A., F.S.A., A.S. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewpage/llgc-id:1386666/llgc-id:1414577/llgc-id:1414660/get650 adalwyd 4 Rhag 2013
  3. RICHARDS, Robert’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2007; online edn, Oxford University Press, Dec 2007 http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U242280, adalwyd 3 Rhag 2013
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Robert John Thomas
Aelod Seneddol dros Wrecsam
19221924
Olynydd:
Christmas Price Williams
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Christmas Price Williams
Aelod Seneddol dros Wrecsam
19291931
Olynydd:
Aled Owen Roberts
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Aled Owen Roberts
Aelod Seneddol dros Wrecsam
19351955
Olynydd:
James Idwal Jones