Geraint Morgan (gwleidydd a chyfreithiwr)
| Geraint Morgan | |
|---|---|
| Ganwyd | 2 Tachwedd 1920 |
| Bu farw | 2 Gorffennaf 1995 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr |
| Swydd | Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, plaid Ryddfrydol |
Gwleidydd a chyfreithiwr o Gymru oedd William Geraint Oliver Morgan, QC (2 Tachwedd 1920 – 2 Gorffennaf 1995). Roedd yn aelod o'r Blaid Geidwadol Brydeinig, yn hyrwyddwr yr iaith Gymraeg a chyn-filwr o'r Ail Ryfel Byd.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Geraint Morgan yn ardal Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, yn fab i’r ffermwr llaeth Morgan Morgan (1888–1950) ac Elizabeth ‘Lizzie’ Oliver (1893–1980). Symudodd y teulu i Newport Pagnell, Swydd Buckingham, lle parhaodd ei dad i ffermio yn Woad Farm, Lathbury. Addysgwyd Morgan yn Ysgol Bedford, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Neuadd y Drindod, Caergrawnt. Yn ddwyieithog ers yn blentyn ifanc yn y Gymraeg a’r Saesneg, dysgodd Ffrangeg i safon uchel yn yr ysgol a dysgodd Almaeneg ac Eidaleg trwy ei ymdrechion ei hun. Ymunodd â Chatrawd Suffolk yn 1939, a chafodd ei gomisiynu yn y Royal Marines. Glaniodd ar Draeth Aur ar D-Day a gweld diwedd y rhyfel fel Uwchgapten. Daeth yn fargyfreithiwr, ei alw i'r bar gan Gray's Inn yn 1947, ac yn Gwnsler y Frenhines. Bu'n ymarfer ar gylchdaith y Gogledd.
Cystadlodd Geraint Morgan Meirionydd yn 1951 a Huyton yn 1955 yn erbyn Harold Wilson.[2] Bu'n Aelod Seneddol dros Ddinbych o 1959 i 1983, pan ddiddymwyd y sedd trwy newidiadau ffiniau. Nodwyd mai prin y byddai'n gwneud unrhyw areithiau yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod ei 24 mlynedd fel aelod. Cofnododd ei ysgrif goffa yn The Independent (papur newydd Prydeinig):
- "Although not the most frequent of speakers in the Commons, his commitment to the North Wales constituency was unswerving - and totally fair to those he represented. He answered letters from Welsh-speakers in Welsh - and in his own meticulous handwriting. There were triumphs too small to register on the Westminster scale which were of importance to his constituents. Many householders living near the A55 - a road designated "a highway of opportunity" - thanked him for the compensation they received when the road was upgraded."
- "Er nad oedd yn un a siaredir yn aml yn Nhŷ'r Cyffredin, diflino oedd ei ymroddiad i'w etholaeth yng Ngogledd Cymru - ac yn hollol deg i'r cyfan a gynrychiolodd. Atebodd lythyrau gan siaradwyr Cymraeg yn y Gymraeg - ac yn ei lawysgrifen fanwl gywir. Yr oedd ei fuddugoliaethau, er yn bitw yn San Steffan, o bwysigrwydd mawr i'w etholwyr. Diolchodd nifer o breswylwyr ger A55 - ffordd a hyrwyddwyd fel "priffordd cyfleoedd" - am yr iawndal y derbynion yn sgil uwchraddio'r ffordd."
Ni fu Geraint Morgan erioed yn un ufudd i chwipiaid ei blaid. Yn fuan ar ôl ei ethol, gwrthododd gefnogi ei blaid ei hun dros Helynt Profumo. Ym 1972, pleidleisiodd yn erbyn ymuniad Prydain â'r Farchnad Gyffredin, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd. Yr oedd hyn yn groes i bolisi'r blaid, gan fod ymuniad Prydain â'r Farchnad Gyffredin yn nod canolog, bryd hynny, i bolisi y Ceidwadwyr ac yn arbennig i'r Prif Weinidog, Edward Heath.
Yn etholiad cyffredinol 1983 ceisiodd gael ei ddewis ar gyfer sedd newydd Gogledd Orllewin Clwyd, a oedd wedi'i seilio i raddau helaeth ar ei hen etholaeth yn Ninbych, gydag ychwanegiad rhannau o etholaeth Gorllewin Sir y Fflint, ond cafodd ei hun mewn brwydr ddethol frwd rhwng Syr Anthony Meyer a Beata Brookes, yr Aelod Senedd Ewrop dros Ogledd Cymru. Ceisiodd swyddfa ganolog y Blaid Geidwadol barasiwtio Beata Brookes i i sefyll fel yr ymgeisydd, er nad oedd ganddi gefnogaeth ar lawr gwlad yn Ninbych na'r Fflint. Llwyddodd Anthony Meyer mewn achos llys i ddatgan bod gorfodi Brooks fel ymgeisydd ar etholaeth newydd yn anghyfreithlon. Cynhaliwyd cyfarfod dethol newydd, ble’r oedd y dewis rhwng Meyer a Brookes. Gwrthodwyd cais Geraint Morgan i gael ei gynnwys yn y cyfarfod, er yn ôl llygad-dystion, yr oedd yn derbyn cefnogaeth sylweddol o lawr y cyfarfod cyhoeddus (yn agored i aelodau’r Blaid Geidwadol, ond heb ganiatâd pleidlais gyffredinol).
Ar ôl gadael Senedd San Steffan, parhaodd Geraint Morgan i ymarfer y gyfraith fel Cofiadur Llys y Goron.
Yr oedd Geraint Morgan yn briod, gyda phedwar o blant.[3]
Yn hanesydd, yn ogystal ag ieithydd, yr oedd Geraint Morgan yn hoff o nodi, pan wyddai mai ef fyddai AS olaf Dinbych, bod AS cyntaf Dinbych wedi meddiannu'r sedd (llythrennol) nesaf i AS olaf dros Calais, yn Senedd San Steffan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "MORGAN, WILLIAM GERAINT OLIVER (1920-1995), gwleidydd Ceidwadol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2025-10-26.
- ↑ "Parliamentary career for Geraint Morgan - MPs and Lords - UK Parliament". members.parliament.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-10-26.
- ↑ "Obituary: Geraint Morgan". The Independent (yn Saesneg). 1995-07-07. Cyrchwyd 2025-10-26.
- Times Guide to the House of Commons, 1955, 1966 a 1979
- Leigh Rayment's Historical List of MPs