Futsal

Mae futsal yn fath o bêl-droed sy'n cael ei chwarae ar lain yr un maint â chwrt pêl-law ac sydd fel rheol o dan do ac ar lawr caled. Mae'n debyg i gêm pêl-droed pump-bob-ochr, pêl-droed dan-do, pêl-droed y traeth, pêl-droed chwech neu saith-bob-ochr, a phêl-droed SUB.
Daw'r enw "Futsal" fel gair cyfansawdd o'r Portiwgaleg "futbol de salão" a Sbaeneg "fútbol sala/de salón" sy'n golygu "pêl-droed dan do".
Hanes[golygu | golygu cod]
Dyfeisiwyd Futsal yn strydoedd Montevideo yn y 1930au yn dilyn llwyddiant Wrwgwái yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno. Roedd Juan Carlos Ceriani, a oedd yn athro, a oedd am addasu pêl-droed ar gyfer chwarae dan do mewn clybiau YMCA. Yn y degawdau dilynol, ymledodd y gêm i weddill America Ladin ac yna i Ewrop.
Ym 1989, cynhaliwyd pencampwriaeth cyntaf y byd gan FIFA, ac ers 1992 cynhaliwyd pencampwriaethau'r byd bob pedair blynedd. Yn ogystal, ceir cynghreiriau proffesiynol mewn gwahanol fannau yn y byd, gan gynnwys Sbaen a'r Eidal.
Rheolau[golygu | golygu cod]

Fel arfer mae Futsal yn cael ei chwarae dan do ar gwrt neu faes sydd yr un maint â pêl-law. Lleiafswm y maint yw 25m × 16m, mwyafswm yw 42m × 25m. Os yw'r bêl yn mynd allan o chwarae, mae'r gêm yn ail-dechrau gyda chic ail-gychwyn o'r ochr. Nid oes rheol cam sefyll. Mae maint y gôl yr un maint â gôl mewn gêm pêl-law (handball).
Mae'r bêl a ddefnyddir yn futsal yn bêl arbennig i'r gêm nad sydd yn bownsio cymaint â phêl bêl-droed arferol. Mae'r bêl yn pwyso'r un fath â phêl pêl-droed rheolaidd, ond mae ganddo bêl fewnol feddalach sy'n cynyddu rheolaeth y bêl.
Mae tîm futsal yn cynnwys un gôl-geidwad a phedwar chwaraewr maes. Ceir dwy hanner i bob gêm, sy'n para 20 munud yr un gydag egwyl o 15 munud.
Futsal Cymru[golygu | golygu cod]
Mae futsal yn gêm gymharol newydd i Gymru (a Phrydain). Mae gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru dîm futsal genedlaethol. Enillodd y tîm Gwpan gyntaf Fursal Gwledydd Prydain ac Iwerddon ('Home Nations') yn 2016.[1]
Bu gêm gyntaf Tîm Genedlaethol Futsal Cymru yn erbyn Andorra ar 2 Medi 2012. Yn anffodus collodd Cymru 2-1.
Ceir hefyd Cwpan Futsal CBDC. Enillwyd y Gwpan gyntaf yn 2011 gan dîm futsal C.P.D. Y Seintiau Newydd[2] Er hynny mae timau Prifysgol Caerdydd, C.P.D. Dinas Caerdydd a C.P.D. Wrecsam wedi ennill y gwpan.
Tîm Futsal Prifysgol Caerdydd oedd unig gynrychiolwyr Cymru ym Mhencampwriaeth Cynghrair Futsal UEFA a gynhaliwyd yn 2018-19[3]
Enillwyr Pencampwriaeth Byd Futsal[golygu | golygu cod]
Pencampwriaeth Futsal y Byd (Cwpan y Byd Futsal) yw'r bencampwriaeth tîm pwysicaf i unrhyw dîm cenedlaethol. Cynhaliwyd y bencampwriaeth gyntaf yn 1980 ac yna yn 1992 ac wedi hynny, pob pedair mlynedd.
Resultater[golygu | golygu cod]
Cwpan y Byd | Gwlad Cynnal | Aur | Arian | Efydd |
---|---|---|---|---|
CyB Futsal Dynion 1989 | Iseldiroedd | ![]() |
![]() |
![]() |
CyB Futsal Dynion 1992 | Hong Kong | ![]() |
![]() |
![]() |
CyB Futsal Dynion 1996 | Sbaen | ![]() |
![]() |
![]() |
CyB Futsal Dynion 2000 | Guatemala | ![]() |
![]() |
![]() |
CyB Futsal Dynion 2004 | Taiwan | ![]() |
![]() |
![]() |
CyB Futsal Dynion 2008 | Brasil | ![]() |
![]() |
![]() |
CyB Futsal Dynion 2012 | Thailand | ![]() |
![]() |
![]() |
CyB Futsal Dynion 2016 | Columbia | ![]() |
![]() |
![]() |