Pêl-droed pump-bob-ochr

Oddi ar Wicipedia
Pêl-droed pump-bob-ochr
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon Edit this on Wikidata
Mathchwaraeon peli, pêl-droed Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gêm o bêl-droed pump-bob-ochr ar gael artiffisial yn Singapôr

Mae pêl-droed pump-bob-ochr yn fath o bêl-droed gyda phum chwaraewr gan bob tim (pedwar chwaraewr allan ar y cae ac un gôl-geidwad). Mae gwahaniaethau yn y gêm yn cynnwys cae llai o faint, goliau llai, a llai o amser chwarae. Mae gemau yn cael eu chwarae dan-do neu yn yr awyr agored, ar astroturf, 'tywarch plastig' neu 'lawnt artiffisial' o fewn i furiau neu "gawell" i atal y bêl rhag gadael y maes chwarae a chadw'r gêm yn llifo. 

Mae pêl-droed pum-bob-ochr yn debyg i gêm Futsal a ddatblygodd yn Wrwgwái ond sydd nawr â strwythur byd-eang ac o dan ymbarél UEFA a FIFA. Ceir strwythur Cymreig i Futsal o dan reaolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Rheolau[golygu | golygu cod]

Mae'r cwrt cosbi yn wahanol iawn i bêl-droed: mae'n siap hanner cylch, dim ond y gôl-geidwad sy'n cael cyffwrdd y bêl o fewn iddo, ac nid oes ganddo neu ganddi hawl i adael y cwrt. Rhaid i'r gôl-geidwad ddefnyddio'r dwylo i roi'r bêl i chwaraewr arall. Dim ond wrth arbed y bêl rhag mynd i'r gôl y caiff gicio'r bêl. Nid oes rheol camsefyll. Mae chwaraewyr yn cael penio'r bêl. Nid oes protocol ar gyfer llawio bwriadol a damweiniol - rhaid i'r dyfarnwr wneud penderfyniad ar sail y pellter y cafodd y bêl ei tharo. Gall cerdyn melyn olygu bod rhaid i'r troseddwr dreulio cyfnod yn y cell cosb.  Mae cardiau coch yn gweithio yn yr un ffordd a gêm 11-bob-ochr. Mae taclo trwy siarsio neu sleidio yn cael eu cosbi gyda cherdyn melyn.

Nid yw esgidiau gyda styds metel neu lafnau wedi'u caniatau am eu bod yn difrodi arwyneb y maes chwarae. Gwaherddir hefyd esgidiau â stydiau metal neu esgyll rhag eu gwisgo gan y byddai hynny'n niweidio'r arwyneb. Annogir y chwaraewyr fel rheol i wisgo padiau ffer ond mae hynny yn ôl barn y dyfarnwr.

Mae pêl-droed pump-bob-ochr fel arfer yn cael ei chwarae yn anffurfiol, ac felly mae'r rheolau yn hyblyg ac weithiau'n cael eu penderfynu yn syth cyn dechrau chwarae; mae hynny'n wahanol i futsal, sydd a rheolau swyddogol wedi'u cyhoeddi gan FIFA.  

Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi llunio rhestr lawn o reolau ar gyfer y gêm pump-bob-ochr sy'n ymhelaethu ar y rheolau uchod ac yn gosod isafswm ac uchafswm maint y cae chwarae ynghyd â manylion technegol ar gyfer ciciau rhydd ac agweddau eraill o'r gêm.[1][2][3][4] Mae amrywiadau o bêl-droed pump-bob-ochr yn cynnwys Futsal, pêl-droed dan-do, pêl-droed y traeth, pêl-droed chwech neu saith-bob-ochr, a phêl-droed SUB.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "TheFA.com - Small Sided Football - Laws of the Game". The FA. Cyrchwyd 2016-05-20.
  2. David Conn (2012-05-28). "FA votes for smaller-sided matches for young footballers | Football". London: The Guardian. Cyrchwyd 2012-07-16.
  3. Football (2012-05-28). "Football Association make historic decision on future of youth football for the future good of England". London: Telegraph. Cyrchwyd 2012-07-16.
  4. Roan, Dan (2012-05-28). "BBC Sport - Football Association vote in favour of youth football changes". Bbc.co.uk. Cyrchwyd 2012-07-16.