Franco Corelli
Franco Corelli | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1921 Ancona |
Bu farw | 29 Hydref 2003 o trawiad ar y galon Milan |
Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr opera |
Arddull | opera |
Math o lais | tenor |
Gwefan | http://www.francocorelli.org |
Tenor o'r Eidal oedd Franco Corelli (8 Ebrill 1921 - 29 Hydref 2003) a gafodd yrfa opera ryngwladol fawr rhwng 1951 a 1976. Yn gysylltiedig yn benodol â rolau tenor dramatig repertoire'r Eidal. Cafodd gyrfa hir a ffrwythlon gyda'r Metropolitan Opera yn Ninas Efrog Newydd rhwng 1961 a 1975. Ymddangosodd hefyd ar lwyfannau'r rhan fwyaf o brif dai opera Ewrop a chyda chwmnïau opera ledled Gogledd America.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dario Franco Corelli yn Ancona. Astudiodd beirianneg lyngesol ym Mhrifysgol Bologna. Wrth astudio yno cymerodd rhan mewn cystadleuaeth gerddorol o dan anogaeth gyfaill a oedd yn ganwr amatur. Er na enillodd y gystadleuaeth, cafodd ei annog gan y beirniaid i ddilyn gyrfa canu ac aeth Corelli i Gonservatoire Gerdd Pesaro i astudio opera dan Rita Pavoni.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Gyrfa Gynnar: 1951-1960
[golygu | golygu cod]Yn ystod haf 1951, enillodd Corelli y Maggio Musicale Fiorentino yn Fflorens. Y wobr oedd cyfle i ymddangos yn Spoleto yr hydref canlynol. Yn wreiddiol, y bwriad oedd iddo ganu Radames yn Aida Verid a threuliodd dri mis yn paratoi ar gyfer y rôl gyda'r arweinydd Giuseppe Bertelli. Yn y pen draw, newidiodd Corelli i Don José yn Carmen Bizet, gan deimlo nad oedd ganddo'r ystryw dechnegol a'r legato oedd ei angen ar gyfer rôl Radamès. Ym mis Mai 1952, gwnaeth ei début yn Opera Rhufain fel Maurizio yn Adriana Lecouvreur gyferbyn â Maria Caniglia fel Adriana. Yr un flwyddyn ymddangosodd mewn operâu gyda thai opera llai ledled yr Eidal ac ar y radio Eidalaidd. Ym 1953, ymunodd â rhestr o brif denoriaid Opera Rhufain lle treuliodd lawer o'i amser yn perfformio drwy 1958. Ei rôl gyntaf gyda chwmni Rufain ym 1953 oedd fel Romeo yn opera Zandonai Giulietta e Romeo. Yn ddiweddarach yr un tymor canodd Pollione yn Norma Bellini gyferbyn â Maria Callas yn rôl y teitl. Dyma'r tro cyntaf i'r ddau ganu gyferbyn â'i gilydd a daeth Callas yn edmygydd o waith Corelli. Perfformiodd y ddau yn aml gyda’i gilydd dros y blynyddoedd nesaf mewn partneriaeth a barhaodd hyd ddiwedd gyrfa Callas.[3]
Wrth ganu yn Opera Rhufain, ymddangosodd Corelli gyda nifer o dai opera eraill yn yr Eidal ac yn rhyngwladol. Fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn La Scala ym Milan ym 1954, fel Licinio yn La vestale gan Spontini gyferbyn â Callas yn chware rôl Giulia ar gyfer agoriad tymor 1954-1955.[4] Dychwelodd sawl gwaith i'r tŷ dros y pum mlynedd nesaf, gan ganu gyferbyn â Callas mewn cynyrchiadau o Fedora (1956), Il pirata (1958) a Poliuto (1960). Yn ogystal, portreadodd rôl Dick Johnson mewn perfformiad hynod o dda o La fanciulla del West yn La Scala ym 1956, gyferbyn â Gigliola Frazzoni a Tito Gobbi, a ddarlledwyd yn fyw ar y radio Eidalaidd. Daeth ei début yn y Maggio Musicale Fiorentino yn Fflorens a Gŵyl Arena di Verona ym 1955. Perfformiodd i Opera Taleithiol Fienna fel Radamès a'r Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Llundain fel Cavaradossi, ym 1957.[3] Perfformiodd yn y Teatro Nacional de São Carlos yn Lisbon, Opera Lyric Chicago ac Opera San Francisco ym 1958; ac Opera Taleithiol Berlin ym 1961. Ymhlith llwyddiannau niferus y degawd i Corelli oedd dau berfformiad enwog yn y Teatro di San Carlo yn Napoli, ymddangosodd ym 1958 fel Don Alvaro yn La forza del destino gyferbyn â Renata Tebaldi fel Leonora ac ym 1959 perfformiodd Maurizio yn Adriana Lecouvreur gyferbyn â Magda Olivero yn rôl y teitl.[5]
Blynyddoedd y Met: 1961–1975
[golygu | golygu cod]Gwnaeth Corelli ei ymddangosiad cyntaf i Metropolitan Opera Efrog Newydd ar 27 Ionawr 1961 fel Manrico yn Il trovatore gyferbyn â Leontyne Price fel Leonora a oedd hefyd yn ymddangos am y tro cyntaf yn y Met y noson honno.[6] Canodd i ganmoliaeth fawr yn y Met tan 1974 mewn rolau fel Calaf (gyda Birgit Nilsson fel Turandot), Cavaradossi, Maurizio, Ernani, Rodolfo ac Edgardo. Ymgymerodd hefyd â rhannau Ffrangeg mewn cynyrchiadau newydd o Roméo et Juliette a Werther. Canodd mewn nifer o nosweithiau hanesyddol yn y Met gan gynnwys gala cau'r Hen Met, y cyngerdd yn anrhydeddu ymddeoliad Syr Rudolf Bing, ac adferiad chwedlonol Callas o Tosca. Ei berfformiad olaf yn y Met oedd ar 28 Rhagfyr 1974 fel Calàf gydag Ingrid Bjoner, a oedd hefyd yn gwneud ei ymddangosiad olaf yn y Met fel Turandot. Fodd bynnag, aeth Corelli ar daith helaeth gyda'r Metropolitan Opera yn 1975, gan ganu mewn perfformiadau mewn dinasoedd ledled yr Unol Daleithiau a Japan
Wrth ganu yn y Met, parhaodd Corelli i fod yn bresenoldeb ar y llwyfan rhyngwladol. Ym 1961 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda'r Deutsche Oper Berlin. Dychwelodd i La Scala ym 1962, ar gyfer adfywiad Les Huguenots Meyerbeer, gyferbyn â Joan Sutherland, ac ymddangosodd yr un flwyddyn fel Manrico mewn cynhyrchiad clodwiw o Il trovatore yng Ngŵyl Salzburg dan Herbert von Karajan a gyferbyn â Leontyne Price, Giulietta Simionato, ac Ettore Bastianini. Hefyd yn 1962 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda Chwmni Opera Philadelphia Lyric fel Mario Cavaradossi. Dychwelodd i Philadelphia bron bob blwyddyn hyd 1971 yn portreadu bron i ddwsin o wahanol gymeriadau. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Paris Opéra ym 1964 gyferbyn â Callas yn Tosca a Norma.[7] Enillodd glod uchel hefyd wrth gydweithio â'r arweinydd Eidaleg-Americanaidd Alfredo Antonini mewn sawl cyngerdd gala yn Efrog Newydd yn ystod ganol y 1960au
Yn gynnar yn y 1970au, dechreuodd llais Corelli ddangos arwyddion o ddirywiad [4] ar ôl blynyddoedd o ddefnydd caled mewn repertoire heriol. O ganlyniad, daeth perfformio yn fwyfwy anodd i'r tenor. Gwnaeth ei ymddangosiad opera olaf fel Rodolfo ym 1976 yn Torre del Lago yn 55 oed.[8]
Teulu
[golygu | golygu cod]Ym 1957 cyfarfu Corelli â'r soprano Loretta di Lelio pan aeth i gefn llwyfan ar ôl un o'i berfformiadau yn Nhŷ Opera Rhufain i gael ei lofnod. Fe ddechreuon nhw weld ei gilydd yn rhamantus cyn priodi ym 1958. Ar ôl eu priodas, rhoddodd Loretta ei gyrfa opera newydd i fyny i weithio fel rheolwr busnes, ysgrifennydd, asiant cysylltiadau cyhoeddus, cogydd a chyfieithydd Saesneg ei gŵr. Parhaodd eu priodas nes i Corelli farw 45 mlynedd yn ddiweddarach.[2]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ar ôl ymddeol o'r llwyfan, daeth Corelli yn athro llais poblogaidd yn Ninas Efrog Newydd, cafodd ei berswadio i ddod allan o ymddeoliad am gyngherddau ym 1980 a 1981.
Bu farw ym Milan yn 2003, yn 82 oed, ar ôl dioddef strôc yn gynharach y flwyddyn honno. Cafodd ei gladdu ym Mynwent Cimitero Milan.[2]
Disgyddiaeth dethol
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Opera | Cast | Arweinydd, Tŷ opera a cherddorfa |
Label |
---|---|---|---|---|
1956 | Verdi – Aida | Mary Curtis Verna, Franco Corelli, Miriam Pirazzini, Giangiacomo Guelfi, Giulio Neri |
Angelo Questa Cerddorfa a chorws RAI Turin |
Cetra |
1960 | Bellini – Norma | Maria Callas, Christa Ludwig, Franco Corelli, Nicola Zaccaria |
Tullio Serafin Coro e Orchestra Teatro alla Scala |
EMI |
1960 | Leoncavallo – Pagliacci | Franco Corelli, Lucine Amara, Tito Gobbi, Mario Zanasi |
Lovro von Matačić Coro e Orchestra Teatro alla Scala |
EMI |
1962 | Mascagni – Cavalleria rusticana | Victoria de los Ángeles, Franco Corelli, Mario Sereni |
Gabriele Santini
Cerddorfa a chorws Opera Rhufain |
EMI |
1963 | Bizet – Carmen | Leontyne Price, Franco Corelli, Mirella Freni, Robert Merrill |
Herbert von Karajan Wiener Philharmoniker and Wiener Staatsopernchor |
RCA |
1963 | Giordano – Andrea Chénier | Franco Corelli, Antonietta Stella, Mario Sereni |
Gabriele Santini Cerddorfa a chorws Opera Rhufain |
EMI |
1964 | Verdi – Il trovatore | Franco Corelli, Gabriella Tucci, Giulietta Simionato, Robert Merrill, Ferruccio Mazzoli |
Thomas Schippers Cerddorfa a chorws Opera Rhufain |
EMI |
1965 | Puccini – Turandot | Birgit Nilsson, Franco Corelli, Renata Scotto, Bonaldo Giaiotti |
Francesco Molinari-Pradelli Cerddorfa a chorws Opera Rhufain |
EMI |
1967 | Verdi – Aida | Birgit Nilsson, Franco Corelli, Grace Bumbry, Mario Sereni, Bonaldo Giaiotti |
Zubin Mehta Cerddorfa a chorws Opera Rhufain |
EMI |
1966 | Gounod – Faust | Joan Sutherland, Franco Corelli, Nicolai Ghiaurov |
Richard Bonynge Ambrosian Opera Chorus, London Symphony Orchestra |
DECCA |
1966 | Puccini – Tosca | Birgit Nilsson, Franco Corelli, Dietrich Fischer-Dieskau |
Lorin Maazel Orchestra dell'Accademia Nazionale di Santa Cecilia |
DECCA |
1968 | Gounod – Roméo et Juliette | Franco Corelli, Mirella Freni, Xavier Dupraz |
Alain Lombard
Cerddorfa a chorws Opera Paris |
EMI |
1970 | Bizet – Carmen | Franco Corelli, Anna Moffo, Helen Donath, Piero Cappuccilli |
Lorin Maazel Orchester und Chor dêr Deutschen Oper Berlin |
RCA |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Celletti, R., & Blyth, A. (2001, January 01). Corelli, Franco. Grove Music Online adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ 2.0 2.1 2.2 NY Times 30, Hydref 2003). "Franco Corelli, Italian Tenor of Power and Charisma, and Pillar of the Met, Dies at 82" adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ 3.0 3.1 Bywgraffiad Corelli ar Opera Vivrà adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ 4.0 4.1 Telegraph 31 Hydref 2003 OBITUARIES Franco Corelli adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Historical Tenors Franco Corelli adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Archif y Met Il Trovatore {320} Metropolitan Opera House: 01/27/1961.[dolen farw] adalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Guardian 31 Hydref 2003 Franco Corelli adaalwyd 2 Mai 2019
- ↑ Encyclopædia Britannica Franco Corelli adalwyd 2 Mai 2019