Aida

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Aida
Opera gan Giuseppe Verdi
Verdi conducting Aida in Paris 1880 - Gallica - Restoration.jpg
Verdi yn arwain perfformiad o Aida ym Mharis tua 1880
Libretydd Antonio Ghislanzoni
Iaith Eidaleg
Premiere 24 Rhagfyr 1871 (1871-12-24)
Tŷ Opera Khedivial, Cairo

Mae Aida yn opera a gyfansoddwyd gan Giuseppe Verdi ym 1871 gyda libreto Eidaleg gan Antonio Ghislanzoni . Mae'r opera yn adrodd hanes Aida, tywysoges o Ethiopia, sydd wedi cael ei wneud yn gaethferch yn yr Aifft. Mae cadfridog ym myddin yr Aifft, Radamès wedi syrthio mewn cariad ag Aida ac mae'n cael ei rwygo rhwng ei ddyletswyddau fel milwr teyrngar a'i chariad. Er mwyn cymhlethu'r stori ymhellach, mae merch y Brenin, Amneris, mewn cariad â Radamès, er nad yw'n dychwelyd ei theimladau.[1]

Perfformiad cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Perfformiwyd Aida yn wreiddiol yn yr Aifft ar 24 Rhagfyr 1871 o dan arweiniad Giovanni Bottesini cyn cael ei berfformio yn Ewrop am y tro cyntaf yn La Scala, Milan ar 8 Chwefror, 1872 o dan arweiniad Franco Faccio. Chwaraewyd rhan Aida gan Antonietta Anastasi-Pozzoni a rhan Radamès gan Pietro Mongini yn y perfformiad cyntaf.

Cymeriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cymeriad Llais
Aida, Tywysoges o Ethiopia soprano
Brenin yr Aifft Baswr
Amneris, merch y brenin mezzo-soprano
Radamès, Capten y Gard tenor
Amonasro, Brenin Ethiopia bariton
Ramfis, Archoffeiriad Baswr
Negesydd tenor
Llais yr Archofferiades soprano
Offeiriaid, offeiriadesau, gweinidogion, capteiniaid, milwyr, swyddogion, Ethiopiaid, caethweision a charcharorion, Eifftiaid, anifeiliaid a chorws

Plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Act 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Aida yn Arena Verona 2011

Golygfa: Neuadd ym mhalas y Brenin; trwy'r giât cefn, mae pyramidiau a themlau Memphis yn weladwy.

Mae Ramfis, archoffeiriad yr Aifft, yn dweud wrth Radamès, y rhyfelwr ifanc, fod rhyfel gyda'r Ethiopiaid yn anochel, ac mae Radamès yn gobeithio y bydd yn cael ei ddewis fel cadlywydd yr Aifft.[2]

Mae Radamès yn breuddwydio am ennill buddugoliaeth ar faes y gad ac am Aida, y gaethferch o Ethiopia, y mae ef yn gyfrinachol mewn cariad a hi. Mae Aida, sydd hefyd yn gyfrinachol mewn cariad â Radamès, yn ferch i Amonesro, Brenin Ethiopia, sydd wedi cael ei chaethiwo. Nid yw ei charcharwyr yn yr Aifft yn ymwybodol phwy ydyw. Mae ei thad wedi ymosod ar yr Aifft i'w rhyddhau o gaethwasanaeth.

Mae Amneris, merch Brenin yr Aifft, yn mynd i mewn i'r neuadd. Mae hi hefyd yn caru Radamès, ond mae'n ofnai bod ei galon yn perthyn i rywun arall.

Mae Aida yn ymddangos, a phan mae Radamès yn ei gweld hi, mae Amneris yn sylwi bod golwg aflonydd ar ei wyneb. Mae hi'n amau bod Aida yn cystadlu gyda hi am serch Radamès, ond mae'n ceisio cuddio ei chenfigen ac ymagwedd tuag at Aida.

Daw'r Brenin i mewn, ynghyd â'r Archoffeiriad, Ramfis, a holl aelodau llys y palas. Mae negesydd yn cyhoeddi bod yr Ethiopiaid, dan arweiniad y Brenin Amonasro, yn gorymdeithio tuag at Thebes. Mae'r Brenin yn cyhoeddi rhyfel ac yn datgan mai Radamès yw'r dyn a ddewiswyd gan y dduwies Isis i fod yn arweinydd y fyddin. Ar ôl derbyn y mandad hwn gan y Brenin, mae Radamès yn mynd i deml Fwlcan i geisio bendith ar ei faich.

Wedi ei gadael ar ei phen ei hun yn y neuadd, mae Aida yn teimlo rhwyg rhwng ei chariad at ei thad, ei gwlad, a Radamès.

Golygfa 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Set Teml Fwlcan gan Philippe Chaperon (Cairo 1871)

Golygfa: Tu fewn i Deml Fwlcan

Cynhelir seremonïau a dawnsfeydd defodol gan yr offeiriaid. Dilynir hyn gan urddo Radamès i swydd pen gadlywydd lluoedd yr Aifft. Mae pawb sy'n bresennol yn y deml yn gweddïo'n frwd am fuddugoliaeth i'r Aifft ac amddiffyniad dwyfol i'w rhyfelwyr.[3]

Act 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa 1[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Siambr Amneris.

Mae dawnsfeydd a pherfformiadau cerddorol yn cael eu cynnal i ddathlu buddugoliaeth Radamès. Mae Amneris yn dal yn ansicr o deimladau Radamès tuag ati ac yn amau bod Aida mewn cariad ag ef, a'i fod ef mewn cariad ag Aida. Mae'n ceisio anghofio ei hamheuon, gan ddiddanu ei chalon drom trwy ymhyfrydu yn nawns y caethweision Mwraidd.

Pan fydd Aida yn dod i'r siambr, mae Amneris yn gofyn i bawb arall i ymadael. Mae hi'n ddweud celwydd wrth Aida bod Radamès wedi marw yn y frwydr, i geisio ei thwyllo i fynegi ei chariad tuag ato. Mae'r twyll yn gweithio, mewn galar o glywed y newyddion arteithiol, mae Aida yn cyfaddef bod ei chalon yn perthyn i Radamès yn oes oesol. Mae canfod y gwir yn tanio eiddigedd Amneris gyda chryndod, ac mae hi'n bwriadu cael dial ar Aida. Mae Aida yn cael ei adael yn unig yn y siambr gan alaru.[4]

Golygfa 2[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Porth Mawr Ddinas Thebes

Aaida yn Theatr Rufeinig Plovdiv, Bwlgaria

Mae Radamès yn dychwelyd yn fuddugol ac mae'r milwyr yn gorymdeithio i mewn i'r ddinas.[5]

Mae Brenin yr Aifft yn dyfarnu y gall y Radamès fuddugoliaethus cael unrhyw beth y mae'n dymuno ar y diwrnod arbennig hwn. Mae caethweision Ethiopia yn cael eu harwain ar hyd y llwyfan mewn cadachau, mae Amonasro yn eu plith. Mae Aida yn rhuthro ar unwaith at ei thad, sy'n sibrwd iddi i gogio nad yw hi'n gwybod mae Brenin Ethiopia ydyw er mwyn cuddio ei statws rhag yr Eifftiaid. Mae Amonasro yn datgan yn oddefgar i'r Eifftiaid bod brenin Ethiopia (yn cyfeirio ato'i hun) wedi cael ei ladd yn y frwydr. Mae Aida, Amonasro, a'r Ethiopiaid a ddaliwyd yn erfyn ar i Frenin yr Aifft i ddangos trugaredd, ond mae Ramfis a'r offeiriaid yn galw am eu marwolaeth.

Wrth hawlio'r wobr a addawyd iddo gan Frenin yr Aifft, mae Radamès yn pledio iddo waredu bywydau'r carcharorion a'u gosod yn rhydd. Mae'r Brenin yn cydsynio a dymuniad Radamès, ac yn datgan mai Radamès bydd ei olynydd fel Brenin yr Aifft ac y bydd yn cael priodi, Amneris ei ferch i selio'r olyniaeth. Ar awgrym Ramfis, mae'r Brenin yn cytuno i gadw Aida ac Amonasro fel gwystlon i sicrhau na fydd yr Ethiopiaid yn ceisio dial eto am eu trechu.

Act 3[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygfa: Ar lannau'r Nîl, ger Teml Isis.

Regina Opera, Brooklyn (2018)

Cyflwynir gweddïau yn y deml i'r dduwies Isis ar noswyl priodas Amneris a Radamès. Y tu allan, mae Aida yn aros i gwrdd â Radamès, fel y maent wedi cynllunio gwneud.

Mae Amonasro yn ymddangos ac yn gorchymyn Aida i ganfod lleoliad byddin yr Aifft gan Radamès. Mae Aida, wedi ei thorri rhwng ei chariad at Radamès a'i theyrngarwch i'w thir brodorol a'i thad, yn cytuno'n anfoddog. Pan ma Radamès yn cyrraedd, mae Amonasro yn cuddio tu ôl i graig ac yn gwrando ar y sgwrs. Mae Radamès yn cadarnhau ei fwriad i briodi Aida, ac mae Aida yn ei argyhoeddi i ffoi i'r anialwch gyda hi.[6]

Er mwyn sicrhau eu bod yn dianc yn ddiogel, mae Radamès yn cynnig eu bod yn defnyddio llwybr cudd lle na fydd perygl eu canfod. Mae'n datgelu bod y llwybr yn agos i'r fan lle mae ei fyddin yn paratoi ymosodiad. O glywed hyn mae Amonasro yn dod allan o'i guddfan ac yn datgelu pwy ydyw. Mae Radamès yn sylweddoli ei fod wedi datgelu cyfrinach filwrol hanfodol i'r gelyn ar gam. Ar yr un pryd, mae Amneris a Ramfis yn gadael y deml ac, o weld Radamès yn trafod gyda'r gelyn, yn galw am y gwarchodwyr imperialaidd. Mae Amonasro yn tynnu dagr, gan fwriadu lladd Amneris a Ramfis cyn i'r gwarchodwyr eu canfod, ond mae Radamès yn ei ddiarfogi ac yn ei annog i ffoi gydag Aida. Mae Radamès yn ildio i'r gwarchodwyr imperial wrth i Aida a Amonasro redeg. Mae'r gwarchodwyr yn ei arestio am deyrnfradwriaeth.

Act 4[golygu | golygu cod y dudalen]

Ptah

Golygfa: Neuadd yn nheml cyfiawnder. Ar un ochr mae drws sy'n arwain i gell carchar Radamès.

Mae Amneris yn dymuno achub Radamès. Mae'n galw ar y gwarcheidwad i ddod ag ef iddi hi. Mae'n gofyn i Radamès wadu'r cyhuddiadau, ond mae Radamès, sydd ddim yn dymuno byw heb Aida, yn gwrthod. Mae'n falch o wybod bod Aida yn dal i fyw ac mae'n gobeithio iddi gyrraedd ei gwlad ei hun yn ddiogel.

Ar ochr y llwyfan mae Ramfis yn darllen y cyhuddiadau yn erbyn Radamès ac yn galw arno i amddiffyn ei hun, ond mae'n sefyll yn fud. Mae'n cael ei ddedfrydu i'r gosb eithaf am frad. Mae Amneris yn protestio bod Radamès yn ddieuog, ac yn pledio gyda'r offeiriaid i ddangos trugaredd. Dyw'r offeiriaid ddim yn ildio ac mae'n yn ei ddedfrydu i gael ei gladdu'n fyw. Mae Amneris yn llefain ac yn melltithio'r offeiriaid wrth iddo gael ei dynnu i ffwrdd at ei dynged.

Mae Radamès wedi ei gloi mewn daeargell ar lawr isaf y deml gan gredu ei fod ar ei ben ei hun. Wrth iddo obeithio bod Aida mewn lle diogel, mae'n clywed ochenaid ac yna'n gweld Aida. Mae hi wedi cuddio ei hun yn y ddaeargell er mwyn marw gyda Radamès. Maent yn derbyn eu tynged ofnadwy ac yn ffarwelio â'r Ddaear a'i dristwch. Uchod y gell yn nheml Fwlcan, mae Amneris yn llefain ac yn gweddïo i'r dduwies Isis. Yn y gell isod, mae Aida yn marw ym mreichiau Radamès. Wrth i'r llenni cau clywir yr offeiriaid yn canu clodydd Ptah, duw'r Aifft sy'n helpu pobl ar eu taith i fyd y meirw.[7]

Detholiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Aida - Disgyddiaeth

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. The New Grove Dictionary of Opera, Gwasg Prifysgol Rhydychen 1992, Golygydd: Stanley Sadie ar gael trwy Oxford Music Online gyda thocyn darllenydd LlGC.
  2. English national Opera - Aida adalwyd 9 Hydref 2018
  3. Met Opera Synopsis: Aida adalwyd 9 Hydref 2018
  4. Summary of “Aida” in 3 Minutes - Opera Synopsis adalwyd 9 Hydref 2018
  5. Opera Today : VERDI: Aida adalwyd 9 Hydref 2018
  6. Synopsis of Verdi's Opera, Aida adalwyd 9 Hydref 2018
  7. Crystalinks – Ptah adalwyd 9 Hydref 2010

Ffynonellau