Thebes, Yr Aifft

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thebes, Yr Aifft
Luxor Tempel.jpg
Math dinas hynafol, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 3200 CC (dyddiad Gregoraidd cyn 1584) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Luxor Governorate Edit this on Wikidata
Gwlad Yr Aifft Edit this on Wikidata
Uwch y môr 78 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 25.7206°N 32.6103°E Edit this on Wikidata

Mae Thebes neu Thebai yn Safle Treftadaeth y Byd yn yr Aifft. Thebai (Θῆβαι) Thēbai, (Arabeg: طيبة) yw'r enw Groeg am y ddinas hon, un o'r rhai pwysicaf yn yr Hen Aifft, a saif ar ochr ddwyreiniol yr Afon Nîl. Sefydlwyd hi tua 3200 CC. Daeth yn brifddinas yr Hen Aifft yn y 11ed frenhinlin ac wedyn yn y 18fed frenhinlin pan adeiladwyd llynges a phorthladd gerllaw gan y Frenhines Hatshepsut yn Elim. Roedd Thebai yn enwog drwy'r Henfyd a chyfeiria Homer ati yn yr Iliad (Llyfr IX).

Saif Luxor ar yr un safle heddiw.

O'r enw Copteg Ta-Opet ("teml") daeth yr enw Thebai i'r Roeg ond niwt-imn ("Dinas Amun") oedd hi yn yr Eiffteg a dyma'r enw Beiblaidd yn Hebraeg, sef נא אמון nōˀ ˀāmôn (Nahum 3:8), neu נא ("No") (Eseciel 30:14). Troswyd hyn yn llythrennol i'r Roeg fel Διόσπολις Diospolis ("Dinas Zeus") neu weithiau Διόσπολις μεγάλη Diospolis megale ("Dinas Fawr Zeus") rhag drysu rhwng y gwahanol Diospolisau eraill. Y fersiwn Lladin a arferid gan y Rhufeiniaid oedd Diospolis Magna.

Erbyn heddiw mae dwy dref ar safle Thebai sef Luxor (Arabeg: الأقصر, Al-Uqṣur, "Y Palasau") ac al-Karnak (الكرنك).

Cerflun Pharaonaidd yn Nheml Luxor
Teml Luxor
Teml Luxor

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Gauthier, Henri. 1925–1931. Dictionnaire des noms géographiques contenus dans les textes hieroglyphiques. Cyf. 3 o 7. Cairo: Imprimerie de l’Institut français d’archéologie orientale du Caire. (Adargraffiad, Osnabrück: Otto Zeller Verlag, 1975). 75, 76.
  • Polz, Daniel C. 2001. "Thebes". Yn The Oxford Encyclopedia of ancient Egypt, gol. Donald Bruce Redford. Cyf. 3 o 3. Rhydychen, Efrog Newydd, a Cairo: Gwasg Prifysgol Rhydychen a'r American University in Cairo Press. 384–388.
  • Redford, Donald Bruce. 1992. "Thebes". Yn The Anchor Bible Dictionary, gol. David Noel Freedman. Cyf. 6 o 6. Efrog Newydd: Doubleday. 442–443. ISBN 0-385-42583-X
  • Strudwick, Nigel C., & Strudwick, Helen, Thebes in Egypt: A Guide to the Tombs and Temples of Ancient Luxor. Llundain: British Museum Press, 1999, ISBN 0-8014-3693-1 (clawdd caled)/ISBN 0-8014-8616-5 (clawdd papur)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Egypt.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Aifft. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.