Giulietta Simionato
Giulietta Simionato | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 12 Mai 1910 ![]() Forlì ![]() |
Bu farw | 5 Mai 2010 ![]() Rhufain ![]() |
Man preswyl | Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | canwr opera ![]() |
Arddull | opera ![]() |
Math o lais | mezzo-soprano ![]() |
Roedd Giulietta Simionato (12 Mai 1910 - 5 Mai 2010) yn fezzo-soprano Eidalaidd. Roedd ei gyrfa yn rhychwantu'r cyfnod o'r 1930au hyd iddi ymddeol ym 1966. Roedd yn enwog, am roi slap ar draws wyneb i Maria Callas, er i'r ddwy ddod yn ffrindiau yn y pen draw.[1]
Bywyd[golygu | golygu cod]
Ganwyd Siminato yn Forlì, Romagna. Astudiodd yn Rovigo a Padua, a gwnaeth ei ymddangosiad operatig yn Montagnana ym 1928. Ym 1928, canodd yn Rigoletto Verdi.[2] Roedd pymtheng mlynedd gyntaf ei gyrfa yn rhwystredig, dim ond rhannau bychain a roddwyd iddi, ond fe ddenodd sylw cynyddol ar ddiwedd y 1940au, ac erbyn diwedd ei gyrfa cafodd ei chydnabod fel un o gantorion mwyaf uchel ei pharch ei chenhedlaeth.
Gyrfa[golygu | golygu cod]
Ym 1936, ymddangosodd am y tro cyntaf yn La Scala ac ymddangosodd yno'n rheolaidd rhwng 1936 a 1966. Gwnaeth hi ei hun am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1953, lle fu hefyd yn ymddangos yn rheolaidd rhwng 1963 a 1965.
Gwnaeth Simionato ei ymddangosiad opera cyntaf yn yr Unol Daleithiau ym 1953 fel Charlotte yn Werther gan Jules Massenet. Perfformiwyd yr opera yn Opera San Francisco gyda Cesare Valletti yn rôl y teitl.[3].Ym 1959 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y Metropolitan Opera, fel Azucena yn Il trovatore, gyda Carlo Bergonzi, Antonietta Stella, a Leonard Warren.[4]. Ymddangosodd Simionato hefyd yng Ngŵyl Caeredin (1947), y San Francisco Opera (1953), y Teatro Nacional de São Carlos (1954), Opera'r Lyric o Chicago (1954-1961), Opera Fienna (o 1956), a Gŵyl Salzburg. Yn 1957 canodd yn Maria Bolena gyda Maria Callas.[5] Ym 1961, methodd a chyflawni tri pherfformiad yn y Metropolitan Opera, o herwydd dioddef gyda niwralgia trigeminol.[6]
Roedd gan Simionato repertoire mawr gan gynnwys Rosina gan Rossini a Cinderella, Charlotte yn Werther, a Carmen. Roedd hefyd wedi rhagori yn repertoire Verdi, fel Amneris, Eboli ac Azucena, ac fel Santuzza yn Cavalleria rusticana Mascagni.
Roedd yn artist recordio o bwys, a chafodd llawer o'i pherfformiadau eu darlledu'n fyw ar y radio neu cawsant eu dal ar ffilm. Mae Fono wedi casglu ei recordiadau ar y CD, The Color of a Voice. Ymddeolodd yn 1966, a phriododd Dr. Cesare Frugoni.[7]
Parhaodd i dderbyn edmygedd trwy ei gwaith yn addysgu a swyddi cyfarwyddo amrywiol, gyda bywiogrwydd anhygoel hyd yn oed yn ei 90au. Roedd yn rhan o ffilm ddogfen arobryn Daniel Bacmid Il Bacio di Tosca (Cusan Tosca) ym 1984 am gartref i gantorion opera sydd wedi ymddeol a sefydlwyd gan Giuseppe Verdi. Ymddangosodd hefyd mewn cyfweliad doniol gan Stefan Zucker yn ffilm 1999 Jan Schmidt-Garre, Opera Fanatic.
Disgyddiaeth dethol[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Cyfansoddwr – Opera (rôl) |
Cast, Cerddorfa, Corws, Arweinydd |
Label |
---|---|---|---|
1940 | Pietro Mascagni – Cavalleria Rusticana (Lucia) |
Lina Bruna Rasa (Santuzza), Beniamino Gigli (Turiddu), Gino Bechi (Alfio) Cerddorfa a chorws Teatro alla Scala Pietro Mascagni |
CD: Pearl GEMM CDS 9288 (+Pagliacci), Naxos Historical 8.110714-15 (+excerpts) (2001) |
1954 | Georges Bizet – Carmen (Carmen) |
Nicolai Gedda (Jose), Hilde Güden (Micaela), Michel Roux (Escamillo) Wiener Symphoniker, Wiener Singerverein Herbert von Karajan Recordiad o gyngerdd (8 Hydref 1954) |
CD: Andante AN 3100 (2005) |
1954 | Giuseppe Verdi – Rigoletto (Maddalena) |
Aldo Protti (Rigoletto), Hilde Güden (Gilda), Cesare Siepi (Cesare Siepi) Cerddorfa a chorws Santa Cecilia Alberto Erede |
CD: Decca 440 242-2 (1994) |
1955 | Giuseppe Verdi – La Forza del Destino (Preziosilla) |
Mario del Monaco (Alvaro), Renata Tebaldi (Leonora), Ettore Bastianini (Don Carlo), Cesare Siepi (Padre Guardiano), Fernando Corena (Fra Melitone) Cerddorfa a chorws Santa Cecilia Alberto Erede |
CD: Decca Originals 475 8681 (2007) |
1956 | Giuseppe Verdi – Il trovatore (Azucena) |
Mario del Monaco (Manrico), Renata Tebaldi (Leonora), Ugo Savarese (Conte di Luna) Grand Théâtre de Genève, Maggio Musicale Fiorentino Alberto Erede |
CD: Decca 470 589-2 (2002) |
1957 | Giuseppe Verdi – La Forza del Destino (Preziosilla) |
Pier Miranda Ferraro (Alvaro), Anita Cerquetti (Leonora), Aldo Protti (Don Carlo), Boris Christoff (Padre Guardiano), Renato Capecchi (Fra Melitone) Cerddorfa a chorws RAI Roma Nino Sanzogno Recordiad o berfformiad a darlledwyd ar 29 Medi 1957 |
CD: Bongiovanni GAO 174–176 (1995), Myto 3MCD 992 203 (1999) |
1959 | Giuseppe Verdi – Aida (Amneris) |
Carlo Bergonzi (Radames), Renata Tebaldi (Aida), Cornell MacNeil (Amonasro) Wiener Philharmoniker, Wiener Singerverein Herbert von Karajan |
CD: Decca Legends 460 978-2 (1999) |
1960 | Giuseppe Verdi – La Forza del Destino (Preziosilla) |
Giuseppe di Stefano (Alvaro), Antonietta Stella (Leonora), Ettore Bastianini (Don Carlo), Walter Kreppel (Padre Guardiano), Karl Dönch (Fra Melitone) Cerddorfa a chorws Wiener Philharmoniker Dimitri Mitropoulos Recordiad o berfformiad gan Opera Taleithiol Fienna (23 Medi1960). |
CD: Myto 2MCD 004 228 (2000), Orfeo C 681 0621 (2007) |
1960 | Pietro Mascagni – Cavalleria Rusticana (Santuzza) |
Mario del Monaco (Turiddu), Cornell MacNeil (Alfio) Cerddorfa a chorws Santa Cecilia Tullio Serafin |
CD: Decca 467 484-2 (+Pagliacci) (2002) |
1962 | Giuseppe Verdi – Il trovatore (Azucena) |
Franco Corelli (Manrico), Leontyne Price (Leonora), Ettore Bastianini (Conte di Luna) Corws y Wiener Staatsoper, Wiener Philharmoniker Herbert von Karajan Recordiad o berfformiad yn Salzburg (31 Gorffennaf 1962) |
CD: DG 447 659-2 (1995) |
1964 | Giuseppe Verdi – Il trovatore (Azucena) |
Franco Corelli (Manrico), Gabriella Tucci (Leonora), Robert Merrill (Conte di Luna) Cerddorfa a chorws Teatro dell'Opera di Roma Thomas Schippers |
CD: HMV Classics HMVD 5 73413-2(1999) |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Great Singers - Giulietta Simionato adalwyd 3 Mai 2016
- ↑ Washington Post 6 Mai, 2010 Obituary: Italian mezzo-soprano Giulietta Simionato dies adalwyd 3 mai 2019
- ↑ Driscoll, F. Paul Gorffennaf 2010). "Obituaries: The peerless Giulietta Simionato dies at ninety-nine". Opera News. 75 (1) Archifwyd 2019-05-03 yn y Peiriant Wayback. ] adalwyd 3 mai 2019
- ↑ "A New Production of 'Trovatore' Opens Met's 75th Season". The New York Times. 25 Hydref 1959
- ↑ "Giulietta Simionato, star scaligera, muore a 99 anni a Roma", Reuters Italia, 5 Mai 2010 Archifwyd 2019-05-03 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 3 mai 2019
- ↑ "ILLNESS CURTAILS SOPRANO'S SEASON; Giulietta Simionato Stricken With Neuralgia", The New York Times, 18 Chwefror 1961
- ↑ Giulietta Simionato obituary - Music The Guardian 7 Mai 2010 adalwyd 3 mai 2019