Rigoletto

Oddi ar Wicipedia
 Rhybudd! Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon.
Beth am fynd ati i'w chywiro?

Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol.

Mae Rigoletto yn opera mewn tair act gan Giuseppe Verdi. Ysgrifennwyd y libreto Eidaleg gan Francesco Maria Piave wedi'i seilio ar ddrama 1832 Le roi s'amuse gan Victor Hugo. Er gwaethaf problemau difrifol gyda sensoriaeth Awstriaidd a rheolodd theatrau Gogledd yr Eidal ar y pryd, cafwyd perfformiad cyntaf llwyddiannus iawn yn La Fenice yn Fenis ar 11 Mawrth 1851.

Mae'r gwaith, yr unfed ar bymtheg yn y genre gan Verdi, wedi'i ystyried fel y cyntaf o'r campweithiau o yrfa adeg ganol i hwyr Verdi. Mae'r stori drasig yn canolbwyntio ar Ddug Mantua, ei gellweiriwr Rigoletto, a merch Rigoletto, Gilda. Mae teitl gwreiddiol yr opera, La maledizione (Y Felltith), yn cyfeirio at felltith a rhoddwyd ar y Dug a Rigoletto gan ŵr llys gan fod ei ferch wedi'i gamarwain gan y Dug gydag anogaeth Rigoletto. Mae'r felltith yn dod yn fyw pan gwympa Gilda mewn cariad gyda'r Dug ac aberthu ei bywyd er mwyn ei achub o asasin sydd wedi'i llogi gan ei thad.

Hanes cyfansoddi[golygu | golygu cod]

Comisiynodd theatr La Fenice yn Fenis opera newydd gan Verdi yn 1850. Roedd Verdi yn ddigon adnabyddus erbyn y cyfnod hwn i fwynhau gallu gosod testunau o ddewis ei hunain i gerddoriaeth. Yn gyntaf, gofynnodd Francesco Maria Piave (gyda phwy fe gydweithiodd yn barod i greu Ernani, I due Foscari, Macbeth, Il corsaro a Stiffelio) i asesu drama Alexandre Dumas o'r enw Kean, ond yn fuan daeth i'r farn roedd angen iddynt ddarganfod testun mwy egnïol.[1]

Daeth y testun yn ffurf drama 5-act Victor Hugo, Le roi s'amuse ('Mae'r Brenin yn diddanu ei hunain'). Esboniodd Verdi yn hwyrach fod "y testun yn fawreddog, yn enfawr, ac mae cymeriad ynddi o'r un o'r greadigaeth orau yn hanes theatr, mewn unrhyw wlad ac yn holl hanes."[2] Er hyn, roedd darluniad Hugo o Frenin llygredig, coeglyd a oedd yn cymryd mantais o fenywod (Francis I Ffrainc) wedi'i ystyrio yn annerbyniol a gwarthus. Gwaharddwyd y ddrama yn Ffrainc yn gynharach yn dilyn ei pherfformiad gyntaf bron i ugain mlynedd yn gynharach (heb ei llwyfannu eto tan 1882);[3] yn awr daeth ymlaen Bwrdd Sensoriaeth Awstria (ar y pryd, roedd Awstria yn rheoli llawer o Ogledd yr Eidal).

O'r dechrau, roedd y cyfansoddwr a'r libretydd y byddai'r cam hwn yn anodd. Fel ag ysgrifennodd Verdi mewn llythr i Piave: "defnyddia pedwar coes, rhed trwy'r dref a ffeindia i mi berson dylanwadol sydd yn gallu sicrhau caniatâd i greu Le Roi s'amuse".[2] Fe addawodd Guglielmo Brenna, ysgrifennydd La Fenice, ni fydd problemau gyda'r sensorwyr. Roedd yn anghywir, a lledaenwyd sibrydion yn yr haf gynnar y byddai'r cynhyrchiad yn cael ei gwahardd. Ym mis Awst, dychwelodd Verdi a PIave i Busseto, tref famol Verdi, er mwyn paratoi cynllun amddiffyn ar gyfer yr opera tra'n parahau eu gwaith arni. Er gwaethaf eu hymdrechion gorau, gan gynnwys gohebiaeth prysur gyda La Fenice, gwrthododd y sensorwr Awstriaidd De Gorzkowski ganiatâd i gynhyrhciad 'La Maledizione' (ei gyn-deitl) yn llythr yn rhagfyr 1850, gan alw'r opera yn esiampl "atgas o anfoeslondeb a bychander aflan".[4]

Dechreuodd Piave ar waith i adolygu'r libreto, gan ddefnyddio ohono opera arall, Il Duca di Vendome, lle'r oedd y sofran yn ddug a lle wnaeth y crwmach a'r felltith ddiflannu. Roedd Verdi yn hollol yn erbyn y datrysiad hwn, gan fod gwell ganddo drafod gyda'r sensoriaid dros bob pwynt yn y gwaith.[5] Fe wnaeth Brenna, ysgrifennwyd sympathetig y La Fenice, gyfryngu'r ddadlau gan ddangos yr Awstriaid llythyron ac erthyglau yn dangos cymeriad drwg o werth mawr, o'r artist. Erbyn Ionawr 1851, roedd y partis wedi setlo ar ganlyniad: mi fyddai drama'r opera yn cael ei symud, a byddai rhai cymeriadau yn cael eu hailenwi. Yn y fersiwn newydd, mi fyddai'r Dug yn rheoli Mantua ac yn perthyn i'r teulu Gonzaga. (Roedd Tŷ Brenhinol Gonzaga yn ddiflanedig erbyn yr 19eg ganrif, ac nid oedd Dugaeth Manuta yn bodoli erbyn y cyfnod hwn). Mi fyddai'r olygfa yn lle fe ymddeolodd y Dug i ystafell Gilda yn cael ei dileu, ei ymweliad i'r dafarn erbyn hyn ddim yn bwrpasol, ond yn ganlyniad i dwyllo. Cafodd y cellweiriwr ei ailenwi'n Rigoletto (yn wreiddiol o'r enw Triboulet) - daeth yr enw o'r Ffrengig rigoler am chwerthin, yn dod o barodi o gomedi gan Jules-Edouard Alboize de Pujol: Rigoletti, ou le dernier des fous (Rigoletti, neu'r Olaf o'r Ffyliaid) yn 1835. Erbyn 14 Ionawr, newidiwyd teitl yr opera i Rigoletto.[6]

Cwblhaodd Verdi y cyfansoddiad ar 5 Chwefror 1851, prin yn fwy na mis cyn y perfformiad cyntaf. Trefnodd Piave i'r setiau gael eu dylunio tra roedd Verdi yn gweithio ar act 3. Derbyniodd y cantorion dipyn o'u cerddoriaeth ar 7 Chwefror. Er hyn, cadwodd Verdi o leiaf trydedd o'r sgôr yn Busseto. Daeth â'r sgôr pan gyrhaeddodd yn Fenis ar gyfer ymarferion ar 19 Chwefror, a byddai'n parhau i weithio ar y trefniant i'r gerddorfa drwy gydol y cyfnod ymarfer.[7] Ar gyfer y perfformiad cyntaf, castiodd La Fenice Felice Varesi fel Rigoletto, y tenor ifanc Raffaele Mirate fel y Dug, a Teresa Brambilla fel Gilda (er byddai gwell gan Verdi Teresa De Giuli Borsi).[8] O ganlyniad i beryg copïo heb awdurdod, gorchmynnodd Verdi cyfrinachedd gan ei gantorion a'i gerddorion, yn enwedig Mirate: dim ond ychydig nosau cyn y perfformiad cyntaf oedd gan y 'Dug' ei sgôr, a chafodd ei wneud i dyngu ffyddlondeb na fyddai yn canu neu hyd yn oed yn chwibanu melodi 'La donna è mobile', yn eithrio yn ystod ymarferion.[9]

Hanes perfformio[golygu | golygu cod]

Cynyrchiadau 19eg ganrif[golygu | golygu cod]

Perfformiwyd Rigoletto am y tro cyntaf ar 11 Mawrth 1851 yn La Fenice fel rhan o berfformiad dwbl gyda'r bale Faust gan Giacomo Panizza. Arweiniodd Gaetano Mares, a chafodd y setiau eu dylunio gan Giuseppe Bertoja a Francesco Bagnara.[10] Roedd y noson agoriadol yn llwyddiant, yn enwedig yr olygfa scena drammatica ac aria 'La donna è mobile' y Dug, a chafodd ei chanu yn y strydoedd y bore wedyn.[11] (Llwyddodd Verdi i wneud y mwyaf o effaith yr aria gan ei ddatgelu i'r cast a'r gerddorfa rhyw oriau cyn y perfformiad, gan ei wahardd iddynt rhag canu, chwibanu, neu hyd yn oed meddwl am y melodi tu allan i'r theatr).[12] Blynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth merch Felice Varesi (y Rigoletto gwreiddiol), Giulia Cora Varesi, ddisgrifio perfformiad ei thad yn y perfformiad cyntaf. Roedd Varesi yn anghyffyrddus iawn gyda'r crwb roedd angen iddo wisgo; roedd mor ansicr cafodd ymosodiad o banig pan oedd angen iddo fynd ar lwyfan, er roedd yn gantor profedig. Sylweddolodd Verdi ei fod yn sownd i'r llawr a gwthiodd i'r llwyfan gan ymddangos gan faglu. Roedd y gynulleidfa wedi'i diddanu gan feddwl roedd yn fwriadol.[13]

Roedd Rigoletto yn llwyddiant yn y swyddfa docynnau ar gyfer La Fenice, a dynododd yn llwyddiant Eidaleg gyntaf Verdi ers perfformiad cyntaf Macbeth yn Florence. Rhedodd am 13 perfformiad a chafodd ei adfywio yn Fenis y flwyddyn yn olynol, ac eto yn 1854. Er gwaethaf cynhyrchiad trychinebus yn Bergamo ar ôl y perfformiadau yn La Fenice, daeth yr opera yn rhan o'r repertoire cyffredin theatrau'r Eidal. Er yn 1852, perfformiwyd yn holl ddinasoedd mwyaf yr Eidal, er weithiau o dan deitlau gwahanol i osgoi sensoriaeth (er enghraifft, fel Viscardello, Lionello, a Clara de Perth). O 1852 ymlaen, cafodd ei pherfformio yn ninasoedd ar draws y byd, gan gyrraedd dinasoedd fel Alexandria a Constantinople yn 1854 a Montevideo a Havana yn 1855. Cafwyd y perfformiad Prydeinig gyntaf ar 14 Mai 1853 yn Nhŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yn Llundain gyda Giovanni Matteo Mario del Dug Mantua a Giorgio Ronconi fel Rigoletto. Yn yr UDA, gwelwyd yr opera gyntaf ar 19 Chwefror 1655 yn Academi Cerddoriaeth Efrog Newydd mewn perfformiad gan y Cwmni Opera Eidaleg Max Maretzek.[14][15][16]

Yr 20fed ganrif ac ymlaen[golygu | golygu cod]

Mae nifer o gynyrchiadau modern wedi newid y lleoliad gwreiddiol. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Lloegr yn 1982 gan Jonathan Miller, sydd wedi'i lleoli ymysg y Mafia yn 'Little Italy' Efrog Newydd yr 1950au; cynhyrchiad Doris Dorrie ar gyfer y Bavarian State Opera yn 2005, lle daeth Cwrt Manuta yn The Planet of the Apes; cynhyrchiad cyfarwyddwr Linda Brovsky ar gyfer Seattle Opera yn 2004, wedi'i lleoli yn yr Eidal ffasgaidd cyfnod Mussolini; a chynhyrchiad Michael Mayer yn 2013 ar gyfer y Opera Metropolitan, sydd wedi'i lleoli mewn casino yn Las Vegas yr 1960au. Mae gwahanol gymeriadau yn chwarae archdeipiau o'r cyfnod Rat Pack, gyda'r Dug yn cymryd ymlaen cymeriad Frank Sinatra, a Rigoletto yn Don Rickles.[17][18] Llwyfannodd Lindy Hume yr opera yn 2014 ar gyfer Opera Queensland, wedi'i lleoli yn y byd partïon cyn-brif weinidog yr Eidal, Silvio Berlusconi.[19]

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Cymeriad Llais Cast perfformiad cyntaf, 11 Mawrth 1851

Arweinydd: Gaetano Mares

Rigoletto, cellweiriwr y Dug bariton Felice Varesi
Gilda, ei ferch soprano Teresa Brambilla
Dug Mantua tenor Raffaele Mirate
Sparafucile, llofrudd bas Paolo Damnini
Maddalena, ei chwaer contralto Annetta Casaloni
Giovanna, nyrs Gilda mezzo-soprano Laura Saini
Cownt Ceprano bas Andrea Bellini
Contes Ceprano, ei wraig mezzo-soprano Liugia Morselli
Matteo Borsa, gŵr llys tenor Angelo Zuliani
Cownt Monterone bariton Feliciano Ponz
Marullo bariton Francesco De Kunnerth
Tywyswr y llys bas Giovanni Rizzi
Gwas bach mezzo-soprano Annetta Modes Lovati
Corws dynion: gŵyr llys y Dug

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Lleoliad: Mantua

Cyfnod: yr unfed ar bymtheg ganrif.

Act 1[golygu | golygu cod]

Golygfa 1: Mantua. Neuadd ysblennydd ym mhalas y dug. Mae drysau yn y cefn yn agor i ystafelloedd eraill, wedi'u goleuo'n wych. Mae torf o arglwyddi a menywod mewn gwisgoedd crand yn cael eu gweld yn cerdded yn yr ystafelloedd cefn; mae gweision bach yn mynd a dod. Mae'r dathliadau yn mynd ymlaen. Clywir cerddoriaeth o du ôl i'r llwyfan. Mae'r Dug a Borsa yn dod i mewn o ddrws yn y cefn.

Yn ystod dawns yn ei balas, mae'r Dug yn canu am fywyd pleserus gyda chymaint o fenywod â phobl, gan ddweud ei fod yn mwynhau twyllo ei ŵyr llys o'i fenywod: "Questa o quella" ('Y fenyw hon neu'r llall.') Mae'n dweud wrth Borsa gwelodd merch brydferth yn yr eglwys a hoffai ei'i chael, ond hefyd hoffai gamarwain yr Iarlles Ceprano. Mae Rigoletto, cellweiriwr cefngrwm y Dug yn gwneud hwyl am ben gŵyr y menywod y mae'r Dug yn ceisio eu camarwain, gan gynnwys y Cownt Ceprano. Mae'n cynghori'r Dug i gael gwared â'r Cownt Ceprano gan ei wenwyno, ei alltudio, neu ei ladd. Mae'r Dug yn chwerthin, ond nid yw Cerpano wedi'i ddiddanu. Mae Marullo, gwestai yn y ddawns, yn dweud wrth y gŵyr llys fod gan Rigoletto 'gariad', sy'n eu synnu nhw. (Nid yw Marullo yn ymwybodol bod 'cariad' Rigoletto yn ei ferch ifanc). Mae'r gŵyr llys, yn dilyn awgrym Ceprano, i ddial ar Rigoletto ar wneud hwyl am eu pennau. Mae'r dathliadau yn cael eu torri ar draws gan gyrhaeddiad yr hen Gownt Monterone, tad i'r ferch y mae'r Dug wedi'i chamarwain. Mae Rigoletto yn pryfocio'r Cownt gan wneud hwyl am ben ei ddiymadferthedd i ddial ar anrhydedd ei ferch. Mae Monterone yn gwrthdaro gyda'r Dug, ac yn cael ei arestio gan warchodwyr y Dug. Cyn iddo gael ei gymryd i'r carchar, mae Monterone yn rhoi melltith ar y Dug am yr ymosodiad ar ei ferch ac ar Rigoletto am watwar ei ddicter. Mae'r felltith yn brawychu Rigoletto, sy'n credu yn yr ofergoeliaeth poblogaidd fod gan y felltith hen ŵr pŵer aruthrol.

Offeryniaeth[golygu | golygu cod]

Sgoriwyd y gerddorfa ar gyfer 2 ffliwt (Ffliwt 2 yn dybli piccolo), 2 obo (obo 2 yn dybli gorn Saesnig), 2 glarinét, 2 fasŵn, 4 corn Ffrengig yn E♭, D, C, A♭, G a F, 2 drymped yn C, D, a Eb, 3 trombôn, cimbasso, timpani, drwm fas, symbalau a llinynnau.

  • Tu ôl i'r llwyfan: Banda, drwm fas, 2 gloch, periant taranau
  • Ar lwyfan: Ffidl I a II, fiola, bas dwbl.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r rhagarweiniad cerddorfaol byr wedi'i seilio ar thema'r felltith, yn cael ei chwarae'n dawel gan yr adran bres ac yn cael ei adeiladu yn ei angerdd gan y gerddorfa lawn, gan orffen gyda drum roll ailadroddus pob yn ail gyda'r pres, gan gynyddu'n raddol yn ddeinameg i ddod i gasgliad tywyll.[20] Wrth i'r llenni godi, mae gwrthgyferbyniad yn syth gyda cherddoriaeth ddawns hwyliog yn cael ei chwarae gan fand tu ôl i'r llwyfan tra i'r Dug a'i ŵyr llys trafod gyda'i gilydd. Mae'r Dug yn mynd ymlaen i ganu 'Questa o quella' i felodi gwamal, ac mae'n ceisio camarwain yr Iarlles Ceprano tra mae llinynnau'r gerddorfa siambr ar lwyfan yn chwarae minuet cain.[20] Mae'r gerddoriaeth o du ôl i'r llwyfan yn parhau ac mae ensemble yn adeiladu rhwng Rigoletto, y gŵyr llys crac a'r Dug, sydd wedi'i thorri ar draws gan Monterone. Mae effeithiau llithredig yn y llinynnau yn cyfeilio Rigoletto pan mae'n wneud hwyl am ben yr hen ddyn, sy'n ymateb gyda'i felltith, gan arwain at ensemble dramatig olaf.

Mae defnydd ffynonellau offerynnol (y gerddorfa yn y pit, band tu ôl i'r llwyfan, ac ensemble siambr o linynnau ar y llwyfan), pacing dramatig a'r gerddoriaeth barhaol throughcomposed (un lle egwylion byr lle mae pob aria yn dilyn ei gilydd). Roedd yr olygfa agoriadol ar y pryd yn Ewrop yn ddigynsail yn opera Eidaleg.[20]

Mae'r deuawd sy'n agor yr ail olygfa o'r act gyntaf rhwng Rigoletto a Sparafucile hefyd yn ddigynsail yn ei strwythur: mae'n ddeialog rhydd gyda melodïau yn y gerddorfa yn lle'r lleisiau, ar gyfer unawd i'r soddgrwth, unawd bas dwbl, a chwythbrennau is er mwyn creu awyrgylch sinistr.[20]

Mae'r pedwarawd yn act 3 yn ddeuawd dwbl gyda chymeriad cerddorol i bob rhan - canu cariad y Dug gyda'r brif felodi tra mae Maddalena yn chwerthin i'w wrthdynnu, tra bod tu allan mae Gilda yn llefain yn ei llinell leisiol ac mae ei thad yn addo dial.[21] Fe wnaeth Victor Hugo llidio fod ei ddrama, a gafodd ei gwahardd yn Ffrainc, yn cael ei addasu i opera Eidaleg ag ystyriodd yn llên-ladrad (ar y pryd nid oedd cyfyngiadau hawlfraint).[22] Pan fynychodd Hugo berfformiad o'r opera ym Mharis, ffeindiodd ei hun yn rhyfeddu am gerddoriaeth Verdi yn y pedwarawd a'r ffordd a wnaeth emosiynau'r pedwar cymeriad allu dod ar draws i'r gynulleidfa wrth aros yn rhan o ensemble. Dymunodd Hugo ffordd o alluogi'r dechneg hon yn y ddrama lafar.[23]

Roedd yr adran yn dilyn y pedwarawd, 'Scena e Terzetto Tempesta' (triawd yr olygfa a storm) "heb ragflaenydd", yn ôl y cerddolegydd Julian Budden.[24] Roedd yn wahanol iawn i gerddoriaeth y storm a gellir ei chlywed yn Il barbiere di Siviglia neu La Cenerentola Rossini, ac nid yw'r storm yn Rigoletto yn anterliwt rhwng actau neu olygfeydd, ond sydd wedi cael ei integreiddio i'r plot, gyda llinynnau yn y bas, ymyriadau'r obo a phiccolo, ac yn enwedig y corws dynion tu ôl i'r llwyfan yn hymian i greu sŵn y gwynt. Ysgrifennodd y cyfansoddwr a'r athro cerddoriaeth ragbrofol, Dieter Schenbel (1930-2018):

The central storm scene is, so to speak, a film with sound, whose moving images show an exterior and interior drama. The furtive encounters between people in the darkness, irregularly broken by lightning, are exposed by the empty fifths, the tremolos of strings, the brief breakthroughs of the wind instruments, the thunderclaps and the sinister sighs of the chorus, which express as well an external process that is internal: death arrives with thunderclaps. The music always passes in this scene from jerky recitatives to fluid arias...[25]

Disgrifiodd y cerddolegydd Julian Budden yr opera yn "chwyldroadol", yn yr un modd ag oedd Symffoni Eroica Beethoven: "mae'r rhwystrau rhwng melodi ffurfiol a rectitative wedi cwympo fel na chafwyd o'r blaen. Yn ystod yr holl opera, dim ond un aria ddwbl gonfensiynol sydd ... [ac nid oes] diweddgloeon i'r actau".[26] Defnyddiodd Verdi yr un gair - "chwyldroadol" - mewn llythyr i Piave, ac mae Budden hefyd yn cyfeirio at lythyr ysgrifennodd Verdi yn 1852 lle ddywedodd y cyfansoddwr "Fe wnes i ddychmygu Rigoletto fel opera bron i fod heb aria, heb ddiweddgloeon ond dim ond deuawdau diddiwedd."[27] Mae casgliadau Budden am yr opera a'i lle yng nghyfansoddion Verdi wedi'u crynhoi gan nodi:

"Yn fuan ar ôl 1850 yn 38 oed, fe drodd Verdi ei gefn ar gyfnod o opera Eidaleg gyda Rigoletto. Roedd cyfnod cerddoriaeth yr ottocento wedi'i gorffen. Mi fydd Verdi yn parhau i ddefnyddio rhai o'r ffurfiau ar gyfer yr operâu nesaf, ond mewn ysbryd hollol wahanol."[28]

Derbyniad beirniadol[golygu | golygu cod]

Roedd yr opera yn hynod lwyddiannus gyda chynulleidfaoedd o'r dechrau. Er hyn, condemniodd beirniaid o nifer o wledydd y gwaith am ei blot tywyll a thrasig gyda'i gyfuniad o felodïau poblogaidd. Ar ôl y perfformiad cyntaf yn Fenis yn 1851, gresynodd y Gazzetta ufficiale di Venezia y cafodd y libreto ei hysbrydoli gan yr 'ysgol Satanaidd' ac roedd Verdi a Piave wedi ceisio creu prydferthwch o'r 'anffurfiedig a gwrthyrrol'.[29]

Yn debygol o'r ymateb ym Mhrydain, Awstria a'r Almaen oedd adolygiad yn y Frankfurter Nachrichten ar Orffennaf 24, 1859: "Mae'n adnabyddus y mae'r gwaith bratiog yn cyflwyno feisiau a rhinweddau cerddoriaeth Verdi: cerddoriaeth ysgafn, rhythmau dawns ar gyfer golygfeydd brawychus; mae marwolaeth a llygredd yn cael eu cynrychioli yn holl weithiau'r cyfansoddwr gan garlamu a ffefrynnau parti."[30]

Yn ystod yr ail hanner o'r ugeinfed ganrif ac yn yr unfed ar hugain, mae Rigoletto wedi ennill clod gan gyfansoddwyr avant-garde a rhagbrofol fel Liugi Dallapiccola, Luciano Berio ac Ernst Krenek.[31] Ysgrifennodd Igor Stravinsky: "Rwyf yn dweud yn aria 'La donna è mobile', er enghraifft, y mae'r elît yn ei feddwl yn anhygoel ac arwynebol, y mae mwy o sylwedd a theimlad ynddo nag yn holl gylch y Ring Wagner."[31]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Phillips-Matz (1993), t. 265
  2. 2.0 2.1 Verdi i Piave, 28 Ebrill 1850, yn Phillips-Matz (1993), t. 265 "Use four legs, run through the town and find me an influential person who can obtain the permission for making Le Roi s'amuse."
  3. Hugo (1863), pp. 163-164.
  4. Phillips-Matz (1993), t. 270. "a repugnant [example of] immorality and obscene triviality."
  5. Phillips-Matz (1993), t. 272.
  6. Phillips-Matz (1993), t. 273
  7. Phillips-Matz (1993), pp. 278, 281, 283.
  8. Budden (1984), t. 482.
  9. Downes (1918), t. 38.
  10. Casaglia (2005).
  11. Downes (1918), pp. 38-39
  12. Rahim, Sameer (3 April 2012). "The opera novice: Rigoletto by Giuseppe Verdi". The Daily Telegraph. London. Retrieved 9 March 2013.
  13. Kimbell (1985), t. 279
  14. Kimbell (2001), t. 991
  15. Phillips-Matz (1993), t. 286.
  16. Martin (2011), t. 81.
  17. Loomis (2005).
  18. O'Connor (1989).
  19. Lindy Hume, "Verdi's Rigoletto plays right into the hands of a Silvio fox", The Guardian (London), 19 Mawrth 2014
  20. 20.0 20.1 20.2 20.3 Parker (2001)
  21. Brandenburg, Daniel (2012). Verdi:Rigoletto. Bärenreiter. ISBN 978-3-7618-2225-8.
  22. Csampai, Attila (1982). Giuseppe Verdi, Rigoletto: Texte, Materialien, Kommentare. Rowohlt. ISBN 978-3-499-17487-2.
  23. Schwarm, Betsy. "Rigoletto". Britannica.com.
  24. Budden (1984),
  25. Csampai, Attila (1982). Giuseppe Verdi, Rigoletto: Texte, Materialien, Kommentare. Rowohlt. ISBN 978-3-499-17487-2.
  26. Budden (1984), pp. 483-487. Saesneg gwreiddiol: "the barriers between formal melody and recitative are down as never before. In the whole opera, there is only one conventional double aria [...and there are...] no concerted act finales."
  27. Verdi to Borsi, in Budden (1984), t. 483 Saesneg gwreiddiol: "I conceived Rigoletto almost without arias, without finales but only an unending string of duets."
  28. Budden (1984), t. 510. Saesneg gwreiddiol: "Just after 1850 at the age of 38 Verdi closed the door on a period of Italian opera with Rigoletto. The so-called ottocento in music is finished. Verdi will continue to draw on certain of its forms for the next few operas, but in a totally new spirit."
  29. Brandenburg, Daniel (2012). Verdi:Rigoletto. Bärenreiter. ISBN 978-3-7618-2225-8.
  30. Engler, Günter (2000). Über Verdi (in German). Ditzingen: Reclam. ISBN 978-3-15-018090-7. Saesneg gwreiddiol: "It is well known that this shoddy work presents all the vices and virtues of Verdi's music: light music, pleasant dance rhythms for frightful scenes; that death and corruption are represented as in all the works of this composer by galops and party favours."
  31. 31.0 31.1 Brandenburg, Daniel (2012). Verdi:Rigoletto. Bärenreiter. ISBN 978-3-7618-2225-8. Saesneg gwreiddiol: "I say that in the aria 'La donna è mobile', for example, which the elite thinks only brilliant and superficial, there is more substance and feeling than in the whole of Wagner's Ring cycle."

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Budden, Julian (1984). The Operas of Verdi. Vol.1: From Oberto to Rigoletto. London: Cassell.
  • Casaglia, Gherardo (2005). "Rigoletto". L'Almanacco di Gherardo Casaglia (yn Eidaleg).
  • Downes, Olin (1918). The Lure of Music: Depicting the Human Side of Great Composers. New York: Harper & Brothers.
  • Hugo, Adele (1863). Victor Hugo. Cyfieithiad gan Charles Edwin Wilbour. New York: Carleton.
  • Kimbell, David (1985). Verdi in the Age of Italian Romanticism. Cambridge: Cambridge University Press Archive.
  • Kimbell, David (2001). Holden, Amanda (ed.). The New Penguin Opera Guide. New York: Penguin Putnam.
  • Loomis, George (29 June 2005). "The Peter Jonas touch: A home for 'interpretive' opera in Munich". International Herald Tribune.
  • Martin, George Whitney (2011). Verdi in America: Oberto Through Rigoletto. Rochester: University of Rochester Press.
  • Melitz, Leo (1913). The Opera Goer's Complete Guide. New York: Dodd, Mead.
  • O'Connor, John (23 chwefror 1989). "Jonathan Miller's Mafia Rigoletto". The New York Times.
  • Ozorio, Anne (8 Medi 2010). "Unique Rigoletto live from Mantua". Opera Today.
  • Parker, Roger (2001). "Rigoletto". Yn Sadie, Stabley; Tyrrell, John (eds.). The New Grove Dictionary of Music and Musicians. London: Macmillan.
  • Phillips-Matz, Mary Jane (1993). Verdi: A Biography. London & New York: Oxford University Press.