Gino Bechi

Oddi ar Wicipedia
Gino Bechi
Ganwyd16 Hydref 1913 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 1993 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
Man preswylFflorens Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Eidal, Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Roedd Gino Bechi (16 Hydref 1913 - 2 Chwefror 1993) yn ganwr opera bariton o'r Eidal.[1] Ganwyd Bechi yn Fflorens. Astudiodd canu yn Fflorens o dan hyfforddiant Raul Frazzi a Di Giorgi. Fe wnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn Empoli, Toscana ym 1936 yn chware rhan Germont yn La traviata, Verdi.

Bu'n canu'n rheolaidd yn Rhufain rhwng 1938 a 1952 ac yn La Scala rhwng 1939 a 1953, gan gynnwys canu cymeriad y teitl yn Nabucco wrth i La Scala ail agor ym 1946 wedi'r Ail Ryfel Byd. Sefydlodd ei hun fel y bariton dramatig mwyaf flaenllaw yn yr Eidaleg, yn enwedig yn operâu Verdi. Roedd ei rolau hefyd yn cynnwys Gérard, Scarpia, Jack Rance, Tonio a Hamlet. Yn Llundain, fe ymddangosodd gyda chwmni La Scala yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden ym 1950 fel Iago a Falstaff, ac yn Drury Lane fel William Tell ym 1958. Roedd yn canu yn y premières o Rocca gan Monte Ivnor ym 1939 yn Rhufain a Don Juan de Manara gan Franco Alfano yn Fflorens ym 1941. Parhaodd Bechi i ganu hyd 1961, pan ymddangosodd fel Falstaff yn Siena ac yn Barbwr Sevilla yn Adria.

Bu farw yn Fflorens yn 79 mlwydd oed.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Great Book of Opera Singers, gol. Laura Macy (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2008), t.33
  2. Independent 16 Chwefror 1993 - Obituary: Gino Bechi Archifwyd 2017-10-07 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 30 Hydref 2018

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]