Renata Scotto

Oddi ar Wicipedia
Renata Scotto
Ganwyd24 Chwefror 1934 Edit this on Wikidata
Savona Edit this on Wikidata
Bu farw16 Awst 2023 Edit this on Wikidata
Savona, Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera, athro cerdd, cofiannydd, cyfarwyddwr opera, addysgwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Accademia Nazionale di Santa Cecilia
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Priod‎Lorenzo Anselmi Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy, International Opera Award, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Great Immigrants Award Edit this on Wikidata

Roedd Renata Scotto (24 Chwefror 193416 Awst 2023) yn cantores opera Eidalaidd, cyfarwyddwr opera ac athrawes academaidd. Soprano oedd hi, sy'n un o gantorion opera amlycaf ei chenhedlaeth

Am fwy na 40 mlynedd, bu Scotto yn perfformio mewn rolau arweiniol opera gan gynnwys rolau teitl La traviata gan Verdi, Madama Butterfly gan Puccini, Lucia di Lammermoor gan Donizetti, ac Adriana Lecouvreur gan Cilea. Ymddangosodd yn y teleddarllediad cyntaf o'r Opera Metropolitan yn 1977, yn La bohème gyda Luciano Pavarotti .

Cafodd Scotto ei geni yn Savona. Daeth llwyddiant mawr Scotto yn 1957 pan berfformiodd yng Ngŵyl Caeredin mewn cynhyrchiad La Scala o La Sonnambula gan Bellini. Priododd â'r feiolinydd Lorenzo Anselmi ym 1960. Roedd gan y cwpl dau plentyn.

Bu farw Scotto yn Savona, yn 89 oed. [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Redacción (2023-08-16). "Fallece con 89 años la célebre soprano italiana Renata Scotto". Platea Magazine (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2023-08-16.