William Morgan (esgob)
| William Morgan | |
|---|---|
| Ganwyd | 1547 Tŷ Mawr Wybrnant |
| Bu farw | 10 Medi 1604 Llanelwy |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ieithydd, cyfieithydd, cyfieithydd y Beibl, offeiriad Anglicanaidd, diwinydd |
| Swydd | Esgob Llandaf, Esgob Llanelwy |

Yr Esgob William Morgan (1545 - 10 Medi 1604) oedd y gŵr a gyfieithodd y Beibl yn gyflawn i'r Gymraeg am y tro cyntaf. Cyhoeddwyd ei Feibl ym 1588. Credir mai hynny yn fwy na dim arall fu'n gyfrifol i'r Gymraeg oroesi, a hynny am nad oedd gan yr iaith unrhyw statws na defnydd swyddogol o gwbl am ganrifoedd dan y drefn ormesol a osodwyd ar Gymru gyda'r "Deddfau Uno". Cafwyd portread ohono gan gwmni theatr Mewn Cymeriad yn y 2020au.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd William Morgan yn Nhŷ Mawr y Wybrnant, ger Penmachno, yn fab i denant ar ystad Gwydir. Mae'n debyg i dirfeddianwr yr ystad, Morys Wyn, ddarparu addysg ar gyfer rhai o feibion ei denantiaid trwy ei gaplan personol. Ymddengys i'r bardd Edmwnd Prys fod yn gyd-fyfyriwr yr un pryd a William Morgan. Aeth y ddau wedyn i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt.
Yng Nghaergrawnt fe astudiodd athroniaeth, mathemateg a Groeg gan raddio'n faglor yn y celfyddydau ym 1568 ac yn feistr ym 1571. Treuliodd William Morgan dair blynedd ar ddeg yn y brifysgol i gyd, gan feistroli Lladin, Hebraeg, Aramaeg, Ffrangeg ac Almaeneg yn ogystal â gweithiau Tadau'r Eglwys a diwinyddion Protestannaidd y cyfnod. Graddiodd yn faglor mewn diwinyddiaeth ym 1578 ac yn ddoethur ym 1583.
Clerigwr
[golygu | golygu cod]
Cafodd William Morgan ei ordeinio'n glerigwr yn Eglwys Loegr (gan nad oedd yr Eglwys yng Nghymru ddim eto'n bod) ym 1568 gan Esgob Ely. Apwyntiwyd ef yn ficer Llanbadarn Fawr ym 1572, yna'r Trallwng ym 1575 a Llanrhaeadr-ym-Mochnant ynghyd â Llanarmon Mynydd Mawr ym 1578. Yn yr un flwyddyn apwyntiwyd ef hefyd yn Bregethwr y Brifysgol yng Nghaergrawnt. Yn ystod ei gyfnod yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant priododd â Catherine ferch George ac yno hefyd y gwnaeth llawer o'i waith cyfieithu, gan weithio yno hyd at ei ddyrchafiad yn Esgob Llandaf ym 1595. Ym 1601 daeth yn Esgob Llanelwy lle y bu hyd at ei farwolaeth ym 1604.
Cyfieithu'r Beibl
[golygu | golygu cod]Roedd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd wedi bod ar gael ers 1567, ac er fod yna dipyn o feirniadu ar Gymraeg hwnnw, roedd cyfieithiad Salesbury yn rhoi sail hynod werthfawr i gyfieithiad newydd William Morgan.
Yn ei ddyddiadur (NLW MS 1550B) a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol nododd yn Gymraeg:
>15 Tachwedd 1587: Dechreuodd i gyfieithu Llyfr y Gweddi Gyffredin i'r Gymraeg.[1]
Erbyn 1587 roedd wedi gorffen cyfieithu'r Hen Destament, y Testament Newydd a'r Apocrypha, ac fe aeth y cyfan drwy'r wasg ym 1588.
Canmolwyd y cyfieithiad gan lenorion cyfoes, yn cynnwys Siôn Tudur, Siôn Dafydd Rhys, Ieuan Tew a Morris Kyffin.
- Cerflun ar fur Eglwys Gadeiriol Llandaf
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir bywgraffiadau o William Morgan gan Charles Ashton (1891), W. Hughes (1891), T. Evan Jacob, G. J. Roberts (1955) ac R. T. Edwards (1968).
Astudiaethau:
- Isaac Thomas, William Morgan a'i Feibl (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1988)
- Prys Morgan, Beibl i Gymru (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988) ISBN 0-7083-0982-8
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llyfrgell Genedlaethol Cymru: copi digidol gyda chyflwyniad Archifwyd 2019-07-09 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "Y Bywgraffiadur Cymreig". Y Bywgraffiadur Cymreig. 1953. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2025.
- Bro Machno
- Cristnogaeth yng Nghymru
- Cyfieithwyr y Beibl
- Cyfieithwyr o Gymru
- Pobl yr 16eg ganrif o Gymru
- Pobl yr 17eg ganrif o Gymru
- Esgobion Llanelwy
- Esgobion Llandaf
- Genedigaethau 1545
- Llenorion Cymraeg
- Llenorion yr 16eg ganrif o Gymru
- Llenorion yr 17eg ganrif o Gymru
- Marwolaethau 1604
- Pobl o Fetws-y-Coed
- Pobl o Gonwy
- Ysgolheigion Cymraeg