Dringwr bach
| Dringwr bach Certhia familiaris | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Certhiidae |
| Genws: | Certhia[*] |
| Rhywogaeth: | Certhia familiaris |
| Enw deuenwol | |
| Certhia familiaris | |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Dringwr bach (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: dringwyr bach) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Certhia familiaris; yr enw Saesneg arno yw Common treecreeper. Mae'n perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain, ond nid yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. familiaris, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia, ac mae naw is-rywogaeth i gyd.
Nid yw'r Dringwr Bach yn aderyn mudol. Mae'n aderyn cyffredin mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a thir agored. Ei brif fwyd yw pryfed, a'i ddull arferol o fwydo yw hedfan i waelod coeden ac yna ei dringo, cyn hedfan i waelod coeden arall i ail-ddechrau. Mae'n aderyn gweddol fychan, 12.5 cm o hyd.
Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, er nad yw'n adnabyddus iawn i'r mwyafrif, ac mae'n ymddangos fod ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Is-rywogaethau
[golygu | golygu cod]- C. f. familiaris - Llychlyn a dwyrain Ewrop hyd orllewin Siberia
- C. f. britannica - Prydain ac Iwerddon
- C. f. macrodactyla - gorllewin Ewrop
- C. f. corsa - Corsica
- C. f. daurica - dwyrain Siberia a gogledd Mongolia
- C. f. orientalis - dyffryn afon Amur, gogledd-ddwyrain Tsieina a Chorea
- C. f. japonica - Japan
- C. f. persica - y Crimea a Twrci hyd at ogledd Iran
- C. f. tianchanica - gogledd-orllewin Tsieina
- C. f. hodgsoni - gorllewin yr Himalaya, Kashmir
- C. f. mandellii - dwyrain yr Himalaya
- C. f. khamensis - Sichuan

Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r dringwr bach yn perthyn i deulu'r Dringwyr coed (Lladin: Certhiidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Dringwr llwyd | Salpornis spilonota |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.
