Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Llenyddiaeth Saesneg

Oddi ar Wicipedia

Lloegr[golygu | golygu cod]

Yr Alban[golygu | golygu cod]

Hyd at ddechrau'r 18g, ysgrifennodd y mwyafrif helaeth o lenorion yn Iseldiroedd yr Alban drwy gyfrwng y Sgoteg. Yn sgil undeb coronau Lloegr ac Iwerddon â'r Alban yn 1603, symudodd y llys Albanaidd i Lundain ac felly dirywiodd nawddogaeth y celfyddydau yn yr Alban. Cafodd iaith y werin yn yr Alban ei seisnigo'n raddol, yn enwedig wedi Deddfau Uno 1707, a gwelir arwyddion o'r newidiadau ieithyddol hyn yn Choice Collection of Comic and Serious Scots Poems (1706) gan James Watson (1664–1722) a The Ever Green (1724) gan Allan Ramsay (1686–1758). Ysgrifennodd dau o feirdd gwychaf y Sgoteg, Robert Fergusson (1750–74) a Robert Burns (1759–96), gerddi yn Saesneg hefyd.

Yn hanner cyntaf y 19g, y llenor Saesneg pwysicaf o'r Alban oedd y nofelydd a bardd Syr Walter Scott (1771–1832), sy'n nodedig am ei nofelau hanesyddol yn ymwneud ag hanes yr Alban. Ymhlith llenorion Saesneg Albanaidd eraill y 19g mae'r bardd a nofelydd James Hogg (1770–1835), yr ysgrifwr ac hanesydd Thomas Carlyle (1795–1881), a'r nofelydd Margaret Oliphant (1828–1897). Un o'r ffuglenwyr enwocaf o'r wlad yw Robert Louis Stevenson (1850–94), awdur Treasure Island (1881), Kidnapped (1886), a Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde (1886). Albanwr hefyd oedd Syr J. M. Barrie, creawdwr y cymeriad Peter Pan.

Ymhlith ffuglenwyr yr 20g mae Compton Mackenzie (1882–1972), George Mackay Brown (1921–96), a'r Fonesig Muriel Spark (1918–2006). Treuliodd Alasdair Gray (g. 1934) rhyw 30 mlynedd yn ysgrifennu'r nofel chwyldroadol Lanark (1981) sy'n cyfuno realaeth a swrealaeth i bortreadu dystopia Glasgow. Mae sawl awdur o'r Alban yn niwedd yr 20g a dechrau'r 21g wedi ysgrifennu nofelau Saesneg sy'n boblogaidd ar draws y byd, gan gynnwys Alexander McCall Smith (g. 1948), Irvine Welsh (g. 1958), Ian Rankin (g. 1960), a J. K. Rowling (g. 1965).

Cymru[golygu | golygu cod]

Er bod gan Gymru boblogaeth Saesneg eu hiaith bur sylweddol cyn yr 20g, a rhai ohonynt yn ysgrifennwyr o fri, er enghraifft George Herbert (1593–1633), ni ystyriwyd llenyddiaeth Saesneg Cymru fel math o ysgrifennu ar wahân i lenyddiaeth Saesneg neu lenyddiaeth Gymraeg tan i fwy o ysgrifennwyr yn yr 20g ddechrau ysgrifennu pethau mewn Saesneg oedd yn dal i fod yn Gymreig eu safbwynt neu am brofiadau Cymreig. Yn eu plith mae'r bardd a rhyddieithwr Dylan Thomas (1914–53), y beirdd R. S. Thomas (1913–2000) ac Alun Lewis (1915–44), a'r nofelwyr Rhys Davies (1901–78), Richard Llewellyn (1906–83), Alexander Cordell (1914–97), ac Emyr Humphreys (g. 1919).

Iwerddon[golygu | golygu cod]

Unol Daleithiau America[golygu | golygu cod]

The Colonial and Early National period (17th century to 1830) The Romantic period (1830 to 1870) Realism and Naturalism (1870 to 1910) The Modernist period (1910 to 1945) The Contemporary period (1945 to present)

Canada[golygu | golygu cod]

Awstralia a Seland Newydd[golygu | golygu cod]

De Affrica[golygu | golygu cod]

Un o'r gweithiau pwysig cyntaf yn yr iaith Saesneg o Dde Affrica oedd The Story of an African Farm (1883) gan Olive Schreiner (1855–1920), nofel sy'n debyg i'r plassroman (nofel fferm) gan awduron Afrikaans. Roedd nifer o lenorion yr 20g yn ymdrin ag hiliaeth yn Ne Affrica a'r drefn apartheid, gan gynnwys Alan Paton (1903–88), awdur y nofelau Cry, the Beloved Country (1948) a Too Late the Phalarope (1953). Mae'n debyg taw'r ddau lenor Saesneg gwychaf o Dde Affica yn ail hanner yr 20g a'r 21g yw Nadine Gordimer (1923–2014) a J. M. Coetzee (g. 1940). Llenor arall o nod ydy Athol Fugard (g. 1932), sy'n adnabyddus am ei ddramâu gwrth-apartheid a'i nofel Tsotsi (1980).

O'r 1970au ymlaen daeth nifer o lenorion croenddu i'r amlwg yn Ne Affrica drwy ysgrifennu yn yr iaith Saesneg. Miriam Tlali oedd y fenyw groenddu gyntaf i gyhoeddi nofel yn y wlad, Muriel at Metropolitan (1975). Bu'r ysgrifwr a nofelydd Lewis Nkosi (1936–2010) yn treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn alltud. Un o feirdd pwysicaf y wlad yw Mongane Wally Serote (g. 1944), ac mae Zakes Mda (g. 1948) wedi ennill sawl gwobr am ei ddramâu a'i nofelau, gan gynnwys The Heart of Redness (2000).

India[golygu | golygu cod]

Y gwaith Saesneg cyntaf gan Indiad oedd y llyfr taith The Travels of Dean Mahomet (1794) gan Sake Dean Mahomed (1759–1851), brodor o Patna sy'n enwog am gyflwyno siampŵ i Ewrop. Fel arfer, ystyrir bod corff cynhenid o lenyddiaeth Indiaidd Saesneg yn dyddio'n ôl i ddiwedd y 19g. Ysgrifennodd y llenor Bengaleg Bankim Chandra Chattopadhyay (1838–1894) un gwaith yn Saesneg, Rajmohan's Wife (cyhoeddwyd mewn penodau, 1864), y nofel gyntaf o India yn yr iaith honno. Un o lenorion pwysicaf India, yn Fengaleg ac yn Saesneg, oedd Rabindranath Tagore (1861–1941), bardd, dramodydd ac ysgrifwr campus.

Y Caribî[golygu | golygu cod]

Ni datblygodd lenyddiaethau cenedlaethol yng ngwledydd Saesneg y Caribî nes ail hanner yr 20g. Ysgrifennwyd nifer o nofelau yn nhafodieithoedd yr ynysoedd, gan gynnwys New Day (1949) gan Victor Stafford Reid (1913–87), A Brighter Sun (1952) a The Lonely Londoners (1956) gan Sam Selvon (1923–94), In the Castle of My Skin (1953) gan George Lamming (g. 1927), a Mystic Masseur (1957) ac A House for Mr Biswas (1961) gan V. S. Naipaul (1932–2018). Defnyddir iaith debyg ym marddoniaeth Louise Bennett-Coverley (1919–2006), er enghraifft ei chyfrol Jamaica Labrish (1966). Er hynny, bu nifer o lenorion y Caribî yn ceisio efelychu meddylfryd cyffredinol yn eu gwaith, megis C. L. R. James (1901–89) a'r bardd Derek Walcott (1930–2017).

Gwobrau llenyddol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]