J. M. Barrie
Gwedd
| J. M. Barrie | |
|---|---|
| Ffugenw | Ceyms |
| Ganwyd | James Matthew Barrie 9 Mai 1860 Kirriemuir |
| Bu farw | 19 Mehefin 1937 o niwmonia Marylebone |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, dramodydd, newyddiadurwr, awdur plant, libretydd, sgriptiwr, awdur teledu, sgriptiwr ffilm |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | The Little White Bird, Peter Pan, The Little Minister, The Admirable Crichton, The Old Lady Shows Her Medal |
| Prif ddylanwad | Robert Louis Stevenson |
| Priod | Mary Ansell |
| Gwobr/au | Urdd Teilyngdod, barwnig |
| Gwefan | http://jmbarrie.co.uk |
| llofnod | |
Awdur a dramodwr o'r Alban oedd Syr James Matthew Barrie (9 Mai 1860 – 19 Mehefin 1937), sy'n cael ei adnabod fel J. M. Barrie gan amlaf. Caiff ei gofio am greu cymeriad Peter Pan, y bachgen a wrthodai dyfu i fyny. Seiliodd y cymeriad hwn ar ei ffrindiau, bechgyn y teulu Llewelyn Davies. Caiff ei ystyried fel y person a boblogeiddiodd yr enw Wendy hefyd, a oedd yn enw anghyffredin iawn cyn iddo roi'r enw i arwres Peter Pan.