Cymuned o Daleithiau'r Caribi a Lladin America

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cymuned o Daleithiau'r Caribi a Lladin America.
Cyfanswm y Boblogaeth: 591.662 miliwn (2011)
Cyfanswm yr Arwynebedd: 20.438 miliwn km sg
Dwysedd: 28.95/km sg

Mae Cymuned o Daleithiau'r Caribî a Lladin America(Nodyn:Lang-es, Nodyn:Lang-pt, Nodyn:Lang-fr, Nodyn:Lang-nl) yn glwstwr o genhedloedd Lladin America a'r Caribî a grewyd 23 Chwefror 2010 yn Playa del Carmen, Quintana Roo, Mecsico.[1][2] Mae'r gymuned yn cynnwys pob gwlad yn yr Amerig (Saesneg: Americas) - sef Cyfandir gogledd a de America - ar wahân i'r Unol Daleithiau America a Chanada. Ni chynhwysir ychwaith gwledydd Ewropeaidd sydd â thiriogaethau yn yr Amerig e.e. gwledydd Prydain, Ffrainc, yr Iseldiroedd a Gwlad yr Iâ.

Pwrpas y corff ydy ceisio lleihau dylanwad gwleidyddol UDA ar y cyfandir. Mae'n brysur ddisodli "Grwp Rio" a "the Latin American and Caribbean Summit on Integration and Development (CALC)". Yng Ngorffennaf 2010 etholwyd Arlywydd Feneswela, sef Hugo Chávez, ac Arlywydd Chile, sef Sebastián Piñera, ill dau i'r gadair.

Gwledydd[golygu]

Mae CELAC yn cynnwys 33 gwlad gyda 5 iaith wahanol:

18 gwlad sy'n defnyddio Sbaeneg fel prif iaith: (56% o'r arwynebedd, 63% o'r boblogaeth)

12 gwlad sy'n defnyddio Saesneg. (1.3% o'r arwynebedd, 1.1% o'r boblogaeth)

Un wlad sy'n defnyddio Portiwgaleg. (42% o'r arwynebedd, 34% o'r boblogaeth)

Un wlad sy'n defnyddio'r Ffrangeg. (0.1% o'r arwynebedd, 1.6% o'r boblogaeth)

un wlad sy'n defnyddio'r Iseldireg. (0.8% o'r arwynebedd, 0.1% o'r boblogaeth)

Mae 12 o'r gwledydd uchod yn Ne America, ac mae ganddyn nhw arwynebedd 87% o'r boblogaeth a 68% o'r boblogaeth.

Cyfeiriadau[golygu]