Costumbrismo

Oddi ar Wicipedia

Mudiad yn llenyddiaeth Sbaeneg yw costumbrismo (o'r gair Sbaeneg costumbre, sef "arfer") sydd yn portreadu defod a moes bob dydd rhyw gymuned neu grŵp cymdeithasol penodol, yn enwedig bywyd cefn gwlad. Cafodd mudiad costumbrismo yn y 19g ddylanwad pwysig ar ddatblygiad y nofel wledig yn Sbaen ac yn America Ladin.[1]

Ymddengys costumbrismo ar ei ffurf gyntefig yn Oes Aur Sbaen yn ystod yr 16g a'r 17g. Datblygodd yn fudiad poblogaidd ym marddoniaeth Sbaeneg yn nechrau'r 19g, ac yn ddiweddarach ar ffurf rhyddiaith a elwir cuadros de costumbres ("golygfeydd arferion"), brasluniau llenyddol sydd yn pwysleisio cymeriadau lleol ac arferion gwlad, ac yn aml o safbwynt dychanol neu athronyddol. Ymhlith y Sbaenwyr i ragori yn y ffurf lenyddol hon oedd Mariano José de Larra (1809–37) a Ramón de Mesonero Romanos (1803–82), ill dau yn nodedig am bortreadu dinasyddion Madrid. Ysgrifennodd Serafín Estébanez Calderón (1799–1867) Escenas andaluzas (1847), cyfrol o ddarluniadau o fywyd gwledig Andalucía, rhanbarth a fu hefyd yn gefndir i nofelau gan Fernán Caballero (1796–1877) a Pedro Antonio de Alarcón (1833–91). Ardal fynyddig Cantabria oedd yn lleoliad i nofelau José María de Pereda (1833–1906).[1]

Ymledodd costumbrismo i wledydd Sbaeneg America Ladin a dylanwadodd yn gryf ar nifer o glasuron y 19g, gan gynnwys y stori fer El matadero (cyhoeddwyd 1871) gan Esteban Echeverría (1805–51), yr ysgrif hir Facundo (1845) gan Domingo Faustino Sarmiento (1811–88), a'r nofel María (1867) gan Jorge Isaacs (1837–95). Parhaodd y traddodiad hyd ganol yr 20g mewn ambell wlad, megis Wrwgwái a Costa Rica, sydd yn pwysleisio ar ddelfrydau gwledig o hanes y genedl.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Costumbrismo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Tachwedd 2019.
  2. Daniel Balderston, "costumbrismo" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 157.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • S. Bueno (gol.), Costumbristas cubanos del siglo XIX (Caracas: Biblioteca Ayacucho, 1987).
  • M. Castro Rawson, El costumbrismo en Costa Rica (San José: Editorial Costa Rica, 1966).
  • C. Goic, "Costumbres y experiencia" yn Historia y crítica de la literatura hispanoamericana (Barcelona: Editorial Crítica, 1991), tt. 147–77.
  • M. Watson, El cuadro de costumbres en el Perú decimonónico (Lima: Pontificia Universidad Catóca del Perú, 1979).