Mariano José de Larra
Mariano José de Larra | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Fígaro ![]() |
Ganwyd | Mariano José de Larra y Sánchez de Castro ![]() 24 Mawrth 1809 ![]() Madrid ![]() |
Bu farw | 13 Chwefror 1837 ![]() o anaf balistig ![]() Madrid ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, dramodydd, bardd, beirniad llenyddol ![]() |
Mudiad | Rhamantiaeth ![]() |
llofnod | |
![]() |
Newyddiadurwr, dramodydd, a nofelydd Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Mariano José de Larra (24 Mawrth 1809 – 13 Chwefror 1837).
Ganed ym Madrid. Bu'n rhaid i'w deulu symud i Ffrainc yn 1814, ar ddiwedd Rhyfel Iberia, oherwydd i'w dad gydweithio â'r Ffrancod yn ystod meddiannaeth Sbaen gan luoedd Napoleon. Dychwelant i Sbaen yn 1818, a phenodwyd tad Larra yn feddyg personol i frawd y Brenin Fernando VII.
Cyhoeddodd Larra y papurau newydd El duende satírico del día (1828) ac El pobrecito hablador (1832–33). Ysgrifennodd feirniadaeth theatr ar gyfer y papur newydd cenedlaethol La revista española, dan y ffugenw Fígaro. Cynhyrchwyd ei ddrama Macías yn 1834. Cyhoeddodd ei unig nofel, El doncel de Don Enrique el doliente, yn 1834.
Bu farw ym Madrid trwy hunanladdiad yn 27 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Mariano José de Larra. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Rhagfyr 2019.
- Genedigaethau 1809
- Marwolaethau 1837
- Beirniaid theatr Sbaeneg o Sbaen
- Dramodwyr y 19eg ganrif o Sbaen
- Dramodwyr Sbaeneg o Sbaen
- Newyddiadurwyr y 19eg ganrif o Sbaen
- Newyddiadurwyr Sbaeneg o Sbaen
- Nofelwyr y 19eg ganrif o Sbaen
- Nofelwyr Sbaeneg o Sbaen
- Pobl o Fadrid
- Pobl fu farw ym Madrid
- Pobl fu farw trwy hunanladdiad